Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/02/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 14.30) |
Sesiwn dystiolaeth gyda'r Arglwyddes Brif Ustus Y
Gwir Anrhydeddus y Farwnes Carr o Walton-on-the Hill, Arglwyddes Brif Ustus,
Pennaeth Barnwriaeth Cymru a Lloegr a Llywydd Llysoedd Cymru a Lloegr Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â'i gylch
gwaith cyfiawnder gan yr Arglwyddes Brif Ustus. |
|
(14.35 - 14.40) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
|
SL(6)721 - Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 3) 2026 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef. |
||
|
SL(6)722 - Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) (Diwygio) 2026 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef. |
||
|
SL(6)724 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef. |
||
|
SL(6)726 - Gorchymyn Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 (Cychwyn) (Cymru) 2026 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef. |
||
(14.40 - 14.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
|
SL(6)717 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)718 - Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)723 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)727 - Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)729 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)730 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)720 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(14.45 - 14.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes |
|
|
SL(6)696 - Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 2) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
(14.50 - 14.55) |
Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 ac 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
|
SL(6)719 - Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
(14.55 - 15.00) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
|
Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru
mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar
Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE. |
||
(15.00 - 15.05) |
Papurau i’w nodi |
|
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni at Adam Price AS: Cynnig i ddileu pwerau cynllunio corfforaethau datblygu trefol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a’r Gweinidog Cyflawni at Adam Price AS. |
||
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Ganolfan Breswyl i Fenywod yn Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni a chytunodd i
ysgrifennu yn ôl ati cyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor ym mis Mawrth gyda'r
Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion
Gwledig, a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. |
||
|
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Cyllid: Memorandwm Esboniadol diwygiedig ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai at y
Pwyllgor Cyllid. |
||
|
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. |
||
|
Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau Pwyllgorau ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. |
||
|
Gohebiaeth at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Dadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ei ohebiaeth at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif
Chwip. |
||
(15.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.05 - 15.15) |
Sesiwn dystiolaeth gyda'r Arglwyddes Brif Ustus: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan yr Arglwyddes Brif Ustus. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
Lywodraeth y DU ynghylch materion a gododd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
(15.15 - 15.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion: Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod disgwyl
i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol arall gael ei osod mewn perthynas â'r
Bil, ac y byddai’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad yn cael ei ymestyn
o ganlyniad i hynny. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ystyried adroddiad wedi’i
ddiwygio ar y ddau femoranda yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Home Ed Cymru a
Chymdeithas Education Otherwise. |
|
(15.30 - 15.45) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch (Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth): Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft. |
|
(15.45 - 15.55) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu): Diweddariad ar lafar Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd yr Aelodau ddiweddariad llafar ar y Memorandwm.
Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror. |
PDF 251 KB