Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/06/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AS.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

2.12

SL(6)486 - Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.2

SL(6)487 - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 - 13.40)

3.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

3.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â gohirio cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru a drefnwyd ar gyfer 23 Mai.

(13.40 - 13.45)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a Llywodraeth y DU: Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol.

4.2

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet.

4.3

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad a'r Bil Rhentwyr (Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

(13.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.45 - 13.55)

6.

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Ynni 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(13.55 - 14.10)

7.

Gohebiaeth gan Adam Price AS mewn perthynas â Charchar EF y Parc: Ystyriaethau pellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Adam Price AS, a chytunwyd i ystyried y mater ymhellach yn y cyfarfod nesaf.