Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 321
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/12/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.20 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder
Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder
Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gofal Cymdeithasol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.41 Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad ar Gwasanaeth cymorth Heddlu
Dyfed-Powys i Ddioddefwyr Stelcio – Paladin. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.45 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) Oherwydd anawsterau technegol, defnyddiwch yr ddolen
ganlynol i gyrchu'r eitem hon ar Senedd.TV gan gynnwys Dehongliad Iaith Arwyddion
Prydain. NDM9087 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iaith Arwyddion
Prydain (Cymru). Gosodwyd y Bil Iaith
Arwyddion Prydain (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 14 Gorffennaf 2025; gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y Bil Iaith
Arwyddion Prydain (Cymru) gerbron y Senedd ar 5 Rhagfyr 2025. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.46 NDM9087 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Gosodwyd y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 14
Gorffennaf 2025; gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain
(Cymru) gerbron y Senedd ar 5 Rhagfyr 2025. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) NDM9089 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), yn cytuno i
unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog
26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.58 NDM9089 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd
Cymru,
at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r
Bil Iaith Arwyddion Prydain
(Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r
math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - mynediad plant i chwarae NDM9072 Rhys
ab Owen (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu'r ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y
byd i ddeddfu dros hawl plant i chwarae, ac mai Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yn
y DU i gael ei hachredu gan UNICEF yn Ddinas sy'n Dda i Blant.
2. Yn cydnabod bod ardaloedd chwarae gyda siglenni,
llithrenni ac offer arall i chwarae yn bwysig iawn i blant o dan 11 oed. 3. Yn nodi bod adroddiad 'Yr hyn mae plant yn ei ddweud
am chwarae yng Nghymru: 2025' gan Chwarae Cymru wedi canfod bod offer chwarae
mewn sawl ardal yn cael eu disgrifio fel rhai hen, wedi torri neu'n addas ar
gyfer plant iau yn unig, a bod llawer wedi galw am fuddsoddi mewn mannau i
blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig yn Ynys Môn, Sir
Ddinbych a Chaerffili. 4. Yn gresynu bod boddhad cyffredinol â chyfleoedd i
chwarae wedi gostwng o 84 y cant yn 2019 i 71 y cant yn 2025, ac na chaniateir
i nifer nodedig o 25 y cant chwarae'n annibynnol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu mynediad plant
i chwarae drwy: a) cryfhau'r ddyletswydd o dan adran 11 Mesur Plant a
Theuluoedd (Cymru) 2010 fel bod yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau digon o
gyfleoedd chwarae mewn maes chwarae ar gyfer pob cymuned; b) datblygu ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i leoedd diogel a
lleol i chwarae; c) diogelu meysydd chwarae rhag toriadau awdurdodau
lleol; d) cefnogi grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd cyfrifoldeb
am feysydd chwarae; ac e) mynd i'r afael â'r ffaith bod an blant, yn enwedig
anabl, mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn aml fwy o fynediad at fannau
awyr agored, ond yn wynebu mwy o broblemau o ran cynnal a chadw, hygyrchedd a
chynhwysiant. Cyd-Gyflwynwyr Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 NDM9072 Rhys
ab Owen (Canol De
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu'r ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y
byd i ddeddfu dros hawl plant i chwarae, ac mai Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yn
y DU i gael ei hachredu gan UNICEF yn Ddinas sy'n Dda i Blant. 2. Yn cydnabod bod ardaloedd chwarae gyda
siglenni, llithrenni ac offer arall i chwarae yn bwysig iawn i blant
o dan 11 oed. 3. Yn nodi bod adroddiad 'Yr hyn mae plant yn ei ddweud
am chwarae yng Nghymru: 2025' gan Chwarae Cymru wedi canfod bod offer chwarae
mewn sawl ardal yn cael eu disgrifio fel rhai hen, wedi torri neu'n addas ar
gyfer plant iau yn unig, a bod llawer wedi galw am fuddsoddi mewn mannau i
blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig yn Ynys Môn, Sir
Ddinbych a Chaerffili. 4. Yn gresynu bod boddhad cyffredinol â chyfleoedd i
chwarae wedi gostwng o 84 y cant yn 2019 i 71 y cant yn 2025, ac na chaniateir
i nifer nodedig o 25 y cant chwarae'n annibynnol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu mynediad plant
i chwarae drwy: a) cryfhau'r ddyletswydd o dan adran 11 Mesur Plant a
Theuluoedd (Cymru) 2010 fel bod yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau digon o
gyfleoedd chwarae mewn maes chwarae ar gyfer pob cymuned; b) datblygu ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i leoedd diogel a
lleol i chwarae; c) diogelu meysydd chwarae rhag toriadau awdurdodau
lleol; d) cefnogi grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd cyfrifoldeb
am feysydd chwarae; ac e) mynd i'r afael â'r ffaith bod gan blant, yn
enwedig anabl, mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn aml fwy o fynediad at
fannau awyr agored, ond yn wynebu mwy o broblemau o ran cynnal a chadw,
hygyrchedd a chynhwysiant. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Y setliad datganoli NDM9090 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) 1. Yn nodi'r llythyr a anfonwyd at Brif Weinidog y DU gan
dros draean o Aelodau Llafur y Senedd ar 3 Rhagfyr 2025. 2. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU yn rhwyfo'n ôl ar
y setliad datganoli presennol, fel y nodir yn y llythyr. Gwelliant 2 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.52 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM9090 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) 1. Yn nodi'r llythyr a
anfonwyd at Brif Weinidog y DU gan dros draean o Aelodau Llafur y Senedd ar 3
Rhagfyr 2025. 2. Yn credu bod
Llywodraeth Lafur y DU yn rhwyfo'n ôl ar y setliad datganoli presennol, fel y
nodir yn y llythyr.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn credu bod ffraeo ynglŷn â'r setliad datganoli yn tynnu sylw oddi ar mynd i'r afael â'r heriau bob dydd sy'n wynebu Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn nodi'r llythyr a
anfonwyd at Brif Weinidog y DU gan dros draean o Aelodau Llafur y Senedd ar 3
Rhagfyr 2025. 2. Yn ailddatgan
ymrwymiad y Senedd hon i gryfhau'r setliad datganoli, yn unol â'r Comisiwn
Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.21 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM9079 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.24 NDM9079 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) |
PDF 223 KB