Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 313
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/11/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd
Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.26 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd
Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder
Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip Mick
Antoniw (Pontypridd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar
oblygiadau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu Comisiynwyr yr Heddlu a
Throseddu ar blismona yng Nghymru? I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a
Chynllunio Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad
ar ddatblygiad gorsaf bŵer niwclear adweithydd modiwlar bach gyntaf y DU
yn Wylfa? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 Atebwyd gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder
Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip Atebwyd gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi, Ynni a Chynllunio |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.54 Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar - Trefor
Lloyd-Hughes. Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad ar – Diwrnod
Cynamseroldeb y Byd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27 NDM9052 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27,
fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng
Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 15.58 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM9052 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y
Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar
gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o
Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig
y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro NDM9051 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau
gyfrannu fwy nag unwaith yn ystod y Ddadl Agored ar NDM9046 yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.22 NDM9051 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau
gyfrannu fwy nag unwaith yn ystod y Ddadl Agored ar NDM9046 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(120 munud) |
Dadl Agored NDM9046 Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) A fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru? Cyd-gyflwynwyr John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 16.22 NDM9046 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) A fyddai treth
gyfoeth yn gweithio i Gymru? Cyd-gyflwynwyr Am 18.04,
cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 6 munud. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cyllideb y DU a datganoli NDM9054 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU sydd ar
ddod, ac a gaiff ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd. 2. Yn gresynu bod digwyddiadau cyllidol blaenorol gan
Lywodraeth Lafur bresennol y DU wedi methu â chyflawni addewidion hirdymor a
wnaed i bobl Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros
fuddiannau pobl Cymru drwy wneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU, a
chyhoeddi'r ohebiaeth berthnasol, i: a) datblygu cynllun clir, gydag amserlenni penodol, i
ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar gyfer Cymru yn seiliedig ar angen, ac
wedi'i gosod ar sail statudol; b) gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd
teuluol, ac ad-dalu'n llawn i sector cyhoeddus Cymru am newidiadau i
gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; c) galluogi'r Senedd i osod ei bandiau treth incwm ei
hun; d) uwchraddio pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr y
Senedd ar gyfer Cronfa Wrth Gefn Cymru yn unol â chwyddiant fel cam cyntaf tuag
at foderneiddio ei phensaernïaeth gyllidol; e) darparu cyllid canlyniadol llawn sy'n ddyledus i Gymru
o'r prosiect HS2; f) datganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i
elwa'n deg o'i hadnoddau naturiol ei hun; g) dileu'r cap budd-dal dau blentyn; h) datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn i
Gymru; ac i) cyflwyno treth cyfoeth o 2 y cant ar asedau dros £10
miliwn a gwneud treth enillion cyfalaf yn gyfartal â threth incwm i symud
ailddosbarthu ymlaen a darparu cymorth costau byw mwy cadarn i aelwydydd Cymru.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) a) adolygu'r fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru, gan
gynnwys pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr; c) gwrthdroi'r cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr
ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu costau llawn y rhain hyd yma; d) diystyru unrhyw godiadau treth newydd; e) diogelu'r clo triphlyg ar bensiynau'r wladwriaeth; f) darparu cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i
wariant ar HS2 a buddsoddiadau rheilffyrdd Rhydychen a Chaergrawnt; g) adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd
Cymru; h) cynyddu buddsoddiad i ddiogelu ffiniau'r DU ym
mhorthladdoedd Cymru i atal mewnfudo anghyfreithlon; ac i) darparu adnoddau ychwanegol i ddarparu ffordd
liniaru'r M4 ac uwchraddio cefnffordd yr A55, o ystyried eu pwysigrwydd fel
llwybrau strategol ar gyfer cysylltedd y DU. Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 18.10 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM9054 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn nodi
cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU sydd ar ddod, ac a gaiff ei chyhoeddi ar
26 Tachwedd. 2. Yn gresynu bod
digwyddiadau cyllidol blaenorol gan Lywodraeth Lafur bresennol y DU wedi methu
â chyflawni addewidion hirdymor a wnaed i bobl Cymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros fuddiannau pobl Cymru drwy wneud sylwadau
i Lywodraeth Lafur y DU, a chyhoeddi'r ohebiaeth berthnasol, i: a) datblygu
cynllun clir, gydag amserlenni penodol, i ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar
gyfer Cymru yn seiliedig ar angen, ac wedi'i gosod ar sail statudol; b) gwrthdroi
newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd teuluol, ac ad-dalu'n llawn i
sector cyhoeddus Cymru am newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;
c) galluogi'r
Senedd i osod ei bandiau treth incwm ei hun; d) uwchraddio
pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr y Senedd ar gyfer Cronfa Wrth Gefn
Cymru yn unol â chwyddiant fel cam cyntaf tuag at foderneiddio ei
phensaernïaeth gyllidol; e) darparu cyllid
canlyniadol llawn sy'n ddyledus i Gymru o'r prosiect HS2; f) datganoli
Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa'n deg o'i hadnoddau naturiol ei
hun; g) dileu'r cap
budd-dal dau blentyn; h) datganoli
pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; ac i) cyflwyno treth
cyfoeth o 2 y cant ar asedau dros £10 miliwn a gwneud treth enillion cyfalaf yn
gyfartal â threth incwm i symud ailddosbarthu ymlaen a darparu cymorth costau
byw mwy cadarn i aelwydydd Cymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 3,
dileu is-bwyntiau a) i i) a rhoi yn eu lle: a) adolygu'r
fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru, gan gynnwys pwerau benthyca a therfynau
tynnu i lawr; b) gwrthdroi'r
newidiadau treth etifeddiant ar gyfer ffermydd teuluol a chwmnïau teuluol; c) gwrthdroi'r
cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu
costau llawn y rhain hyd yma; d) diystyru
unrhyw godiadau treth newydd; e) diogelu'r clo
triphlyg ar bensiynau'r wladwriaeth; f) darparu cyllid
canlyniadol i Gymru o ganlyniad i wariant ar HS2 a buddsoddiadau rheilffyrdd
Rhydychen a Chaergrawnt; g) adfer cyllid
ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd Cymru; h) cynyddu
buddsoddiad i ddiogelu ffiniau'r DU ym mhorthladdoedd Cymru i atal mewnfudo
anghyfreithlon; ac i) darparu
adnoddau ychwanegol i ddarparu ffordd liniaru'r M4 ac uwchraddio cefnffordd yr
A55, o ystyried eu pwysigrwydd fel llwybrau strategol ar gyfer cysylltedd y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gan fod y
Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r
cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 NDM9053 Hannah Blythyn
(Delyn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Y
pedwerydd adroddiad ar hugain i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar
12 Tachwedd 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol
wedi ei thorri. 3. Yn penderfynu y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion
y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii) am gyfnod o 14 diwrnod, ac eithrio
dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael
ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 3 Rhagfyr 2025. 4. Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog
gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys ar eu cyfer, yn
unol â Rheol Sefydlog 22.10A Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 19.13 NDM9053 Hannah
Blythyn (Delyn) Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Y pedwerydd adroddiad ar hugain i'r
Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025 yn unol â Rheol
Sefydlog 22.9. 2. Yn
cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri. 3. Yn penderfynu
y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii)
am gyfnod o 14 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan
ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim
hwyrach na hanner nos ar 3 Rhagfyr 2025. 4. Yn nodi na
fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y
mae pwynt 3 uchod yn gymwys ar eu cyfer, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A Derbyniwyd y
cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 19.19 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
PDF 223 KB