Cyllideb Comisiwn y Senedd
Cyllideb Comisiwn y Senedd
Rhaid i Gomisiwn y Senedd
osod ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd
i ganiatáu i’r Pwyllgor Cyllid
graffu ar ei chynigion. Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith craffu, bydd y
Comisiwn yn cyhoeddi cyllideb derfynol, sydd i’w thrafod yn y Cyfarfod
Llawn cyn y bleidlais i’w chymeradwyo gan y Senedd gyfan.
Wrth wneud
cynigion cyllidebol, mae'r Pwyllgor Cyllid yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn
Uniongyrchol roi sylw i'r Datganiad
o Egwyddorion a gyhoeddir gan y Pwyllgor.
Gellir gweld yr
holl wybodaeth mewn perthynas â gwaith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar gyllidebau
Comisiwn y Senedd isod:
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2021