Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 277 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30 

Gofynnwyd cwestiynau 2 i 9. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Atebwyd cwestiynau 6, 7 ac 8 gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. 

Datganiad y Llywydd

Gwnaeth y Llywydd ddatganiad am 14.19 i nodi presenoldeb Pat Weir AS, Llywydd Senedd Queensland, yn yr oriel Gyhoeddus.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19 

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 4 ac 8 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. 

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.11 
Gwnaeth Lesley Griffiths ddatganiad ar - Llwyddiant CPD Wrecsam. 
Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad ar - Dinas Bangor – nodi 1500 mlynedd. 
Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad ar - Diwrnod Rhyngwladol Rhyddid y Wasg (3 Mai). 

(5 munud)

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 15.17

NNDM8897 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

NDM8887 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

NDM8887 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030

NDM8889 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a osodwyd ar 20 Ionawr 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.01

NDM8889 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a osodwyd ar 20 Ionawr 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Perfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd

NDM8890 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod blwyddyn i fynd tan etholiad y Senedd 2026, ac ers yr etholiad diwethaf:

a) mae rhestrau aros y GIG wedi cynyddu tua 200,000;

b) mae tanberfformiad economaidd parhaus Cymru’n cael ei adlewyrchu gan gyfradd cyflogaeth Cymru sydd yr isaf o blith cenhedloedd y DU;

c) mae disgwyl i lefelau tlodi plant gyrraedd eu cyfraddau uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd hwn; a

d) mae sgoriau Cymru yn y Rhaglen Asesiad Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) ar eu hisaf erioed ers cymryd rhan am y tro cyntaf yn 2006.

2. Yn credu:

a) bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnu ar y rhai a’u rhoddwyd mewn grym;

b) bydd canlyniadau addysgol, economaidd ac iechyd yn well dan arweinyddiaeth newydd;

c) na ellir gwasanaethu buddiannau pobl Cymru gan Lywodraeth Cymru sy’n atebol i Brif Weinidog y DU; a

d) bydd pobl Cymru yn elwa o ddatganoli pellach ac yn y pen draw, annibyniaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y gorau o ddatganoli, mynnu bod Cymru yn cael pwerau sy’n gyfartal â’r Alban ac yn sefyll fyny i driniaeth ddirmygus Llywodraeth y DU o Gymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:  

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le -
Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod blwyddyn i fynd tan etholiad y Senedd 2026, ac ers yr etholiad diwethaf, o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru:

b) mae tanberfformiad economaidd parhaus Cymru yn adlewyrchu'r ffaith mai ei chyfradd gyflogaeth yw'r isaf o blith cenhedloedd y DU;
c) mae disgwyl i lefelau tlodi plant gyrraedd eu cyfraddau uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd hwn;
d) mae sgoriau Cymru yn y Rhaglen Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) ar eu hisaf erioed ers cymryd rhan am y tro cyntaf yn 2006;
e) mae terfynau cyflymder diofyn 20mya wedi cael eu cyflwyno; ac
f) mae cynlluniau i gynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd wedi cael eu cyflwyno, a fydd yn ychwanegu 36 ohonynt.
2. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi methu â herio Llywodraeth y DU ar ran pobl Cymru ar faterion fel ei pholisi treth etifeddiant, dileu lwfans tanwydd y gaeaf a chynyddu costau yswiriant gwladol ar gyfer cyflogwyr.
3. Yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnu ar y rhai a’i roddodd mewn grym.
4. Yn cydnabod bod Plaid Cymru wedi cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru ac y dylai’r blaid honno hefyd fod yn atebol am effaith eu polisïau.
5. Yn credu bod angen llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig ar Gymru i sicrhau’r canlyniadau gwell o ran yr economi, addysg ac iechyd y mae pobl Cymru’n eu haeddu.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol 

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn canmol Llywodraeth Lafur Cymru am fod yn benderfynol o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a darparu ar gyfer cymunedau ledled Cymru, er gwaethaf y pwysau a grëwyd gan setliad ariannol cynyddol dynn.
2. Yn cydnabod nad yw'r trefniadau cyllido Barnett presennol yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion Cymru ac yn cefnogi trafodaeth adeiladol rhwng y ddwy lywodraeth Lafur i sicrhau model cyllido hirdymor tecach.
3. Yn nodi'r angen dybryd am setliad cyllido teg sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau penodol Cymru.
4. Yn cydnabod ymhellach hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o gyflwyno polisïau blaengar - megis presgripsiynau am ddim, parhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg, a chyflwyno prydau am ddim i holl blant ysgolion cynradd - sy'n dangos gwerthoedd Llafur ar waith, hyd yn oed yn wyneb cyfyngiadau cyllidebol.
5. Yn nodi'r cynnydd gwirioneddol sy'n cael ei wneud o ran lleihau rhestrau aros y GIG yng Nghymru drwy weithgarwch buddsoddi a diwygio wedi'i dargedu, gan gydnabod yr angen am gymorth parhaus i ateb y galw cynyddol.
6. Yn cefnogi cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau cyllid tecach, ysgogi adnewyddiad economaidd, a gwella bywydau pobl ledled Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8890 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod blwyddyn i fynd tan etholiad y Senedd 2026, ac ers yr etholiad diwethaf:

a) mae rhestrau aros y GIG wedi cynyddu tua 200,000;

b) mae tanberfformiad economaidd parhaus Cymru’n cael ei adlewyrchu gan gyfradd cyflogaeth Cymru sydd yr isaf o blith cenhedloedd y DU;

c) mae disgwyl i lefelau tlodi plant gyrraedd eu cyfraddau uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd hwn; a

d) mae sgoriau Cymru yn y Rhaglen Asesiad Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) ar eu hisaf erioed ers cymryd rhan am y tro cyntaf yn 2006.

2. Yn credu:

a) bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnu ar y rhai a’u rhoddwyd mewn grym;

b) bydd canlyniadau addysgol, economaidd ac iechyd yn well dan arweinyddiaeth newydd;

c) na ellir gwasanaethu buddiannau pobl Cymru gan Lywodraeth Cymru sy’n atebol i Brif Weinidog y DU; a

d) bydd pobl Cymru yn elwa o ddatganoli pellach ac yn y pen draw, annibyniaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y gorau o ddatganoli, mynnu bod Cymru yn cael pwerau sy’n gyfartal â’r Alban ac yn sefyll fyny i driniaeth ddirmygus Llywodraeth y DU o Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

35

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le -
Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod blwyddyn i fynd tan etholiad y Senedd 2026, ac ers yr etholiad diwethaf, o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru:
a) mae rhestrau aros y GIG wedi cynyddu tua 200,000;
b) mae tanberfformiad economaidd parhaus Cymru yn adlewyrchu'r ffaith mai ei chyfradd gyflogaeth yw'r isaf o blith cenhedloedd y DU;
c) mae disgwyl i lefelau tlodi plant gyrraedd eu cyfraddau uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd hwn;
d) mae sgoriau Cymru yn y Rhaglen Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) ar eu hisaf erioed ers cymryd rhan am y tro cyntaf yn 2006;
e) mae terfynau cyflymder diofyn 20mya wedi cael eu cyflwyno; ac
f) mae cynlluniau i gynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd wedi cael eu cyflwyno, a fydd yn ychwanegu 36 ohonynt.
2. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi methu â herio Llywodraeth y DU ar ran pobl Cymru ar faterion fel ei pholisi treth etifeddiant, dileu lwfans tanwydd y gaeaf a chynyddu costau yswiriant gwladol ar gyfer cyflogwyr.
3. Yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnu ar y rhai a’i roddodd mewn grym.
4. Yn cydnabod bod Plaid Cymru wedi cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru ac y dylai’r blaid honno hefyd fod yn atebol am effaith eu polisïau.
5. Yn credu bod angen llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig ar Gymru i sicrhau’r canlyniadau gwell o ran yr economi, addysg ac iechyd y mae pobl Cymru’n eu haeddu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

35

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn canmol Llywodraeth Lafur Cymru am fod yn benderfynol o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a darparu ar gyfer cymunedau ledled Cymru, er gwaethaf y pwysau a grëwyd gan setliad ariannol cynyddol dynn.
2. Yn cydnabod nad yw'r trefniadau cyllido Barnett presennol yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion Cymru ac yn cefnogi trafodaeth adeiladol rhwng y ddwy lywodraeth Lafur i sicrhau model cyllido hirdymor tecach.
3. Yn nodi'r angen dybryd am setliad cyllido teg sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau penodol Cymru.
4. Yn cydnabod ymhellach hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o gyflwyno polisïau blaengar - megis presgripsiynau am ddim, parhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg, a chyflwyno prydau am ddim i holl blant ysgolion cynradd - sy'n dangos gwerthoedd Llafur ar waith, hyd yn oed yn wyneb cyfyngiadau cyllidebol.
5. Yn nodi'r cynnydd gwirioneddol sy'n cael ei wneud o ran lleihau rhestrau aros y GIG yng Nghymru drwy weithgarwch buddsoddi a diwygio wedi'i dargedu, gan gydnabod yr angen am gymorth parhaus i ateb y galw cynyddol.
6. Yn cefnogi cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau cyllid tecach, ysgogi adnewyddiad economaidd, a gwella bywydau pobl ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.55

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8888 Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Y Bechgyn Coll: yr argyfwng sy'n wynebu dynion ifanc yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.58

NDM8888 Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Y Bechgyn Coll: yr argyfwng sy'n wynebu dynion ifanc yng Nghymru.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: