Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 267 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(0 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Enillwyr Oscars o Gymru: Laurie Crawley a Rhys Salcombe.

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Lauren Price, Pencampwr Pwysau Welter Unedig y Byd.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Atebolrwydd Aelodau Unigol: Adalw

NDM8850 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ‘Atebolrwydd Aelodau Unigol: Adalw’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

NDM8850 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ‘Atebolrwydd Aelodau Unigol: Adalw’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Plant sydd ar yr ymylon

NDM8847 Buffy Williams (Rhondda)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Plant sydd ar yr ymylon’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

NDM8847 Buffy Williams (Rhondda)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Plant sydd ar yr ymylon’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd

NDM8852 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru bod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o lefelau hanesyddol isel o wariant ar welliannau dros nifer o flynyddoedd;

b) bod y tanariannu systematig hwn yn ychwanegol at gadw cyllid canlyniadol HS2 yn ôl; ac

c) yn ôl dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn 2020, bydd Cymru, o gymharu â’i chyfran o boblogaeth y DU a hyd llwybr y rhwydwaith rheilffyrdd, yn wynebu diffyg o rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid i wella ein rheilffyrdd ar sail ymrwymiadau Llywodraeth y DU dros y cyfnod rhwng 2019 I 2029.

2. Yn gresynu:

a) bod adroddiadau yn nodi bwriad Canghellor y DU i rewi gwariant ar brosiectau rheilffyrdd newydd mawr tan ar ôl etholiad nesaf y DU, a fyddai’n dwysau ymhellach y tanariannu systematig ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a hynny am o leiaf bedair blynedd arall; a

b) bod addewidion blaenorol Llywodraeth y DU ar seilwaith rheilffyrdd, a oedd ynddynt eu hunain yn annigonol i wneud iawn am danariannu hanesyddol, megis yr addewid i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi methu â chael eu gwireddu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu ffigyrau wedi’u diweddaru ar y diffyg mewn-fuddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru;

b) cadarnhau ei safbwynt y dylid ail-ddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael y symiau canlyniadol yn unol â ffigyrau a ddyfynnwyd gan Weinidogion presennol Llywodraeth y DU pan mewn gwrthblaid; ac

c) ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i ofyn i’r symiau canlyniadol llawn gael eu rhyddhau i Gymru a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru; a

b) y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:

a) cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;

b) adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;

c) cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a

d) lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8852 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru bod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o lefelau hanesyddol isel o wariant ar welliannau dros nifer o flynyddoedd;

b) bod y tanariannu systematig hwn yn ychwanegol at gadw cyllid canlyniadol HS2 yn ôl; ac

c) yn ôl dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn 2020, bydd Cymru, o gymharu â’i chyfran o boblogaeth y DU a hyd llwybr y rhwydwaith rheilffyrdd, yn wynebu diffyg o rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid i wella ein rheilffyrdd ar sail ymrwymiadau Llywodraeth y DU dros y cyfnod rhwng 2019 I 2029.

2. Yn gresynu:

a) bod adroddiadau yn nodi bwriad Canghellor y DU i rewi gwariant ar brosiectau rheilffyrdd newydd mawr tan ar ôl etholiad nesaf y DU, a fyddai’n dwysau ymhellach y tanariannu systematig ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a hynny am o leiaf bedair blynedd arall; a

b) bod addewidion blaenorol Llywodraeth y DU ar seilwaith rheilffyrdd, a oedd ynddynt eu hunain yn annigonol i wneud iawn am danariannu hanesyddol, megis yr addewid i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi methu â chael eu gwireddu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu ffigyrau wedi’u diweddaru ar y diffyg mewn-fuddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru;

b) cadarnhau ei safbwynt y dylid ail-ddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael y symiau canlyniadol yn unol â ffigyrau a ddyfynnwyd gan Weinidogion presennol Llywodraeth y DU pan mewn gwrthblaid; ac

c) ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i ofyn i’r symiau canlyniadol llawn gael eu rhyddhau i Gymru a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru; a

b) y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:

a) cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;

b) adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;

c) cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a

d) lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

27

55

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru; a

b) y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:

a) cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;

b) adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;

c) cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a

d) lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

26

55

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.55

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM8848 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Sicrhau bod gan Gymru sector prifysgol lewyrchus.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.57 

NDM8848Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) 