Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon

Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon

A group of swings in a park

Description automatically generated

 

Inquiry2

 

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon, sy'n ymwneud yn gryno â phlant coll a'r rhai sy'n agored i gamfanteisio troseddol.

Mae’r ymchwiliad hwn yn dilyn adroddiad y Pwyllgor ar ddiwygio radical ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. O'r dystiolaeth a ddaeth i law, amcangyfrifir bod plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cyfrif am bron i 40% o blant sy'n mynd ar goll yng Nghymru. Hefyd, soniwyd bod grwpiau penodol y credir eu bod mewn perygl o gael eu 'troseddoli' yn cynnwys plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain, rhai grwpiau o blant sy’n wynebu heriau yn y system addysg, plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, a phlant a phobl ifanc du a lleiafrifol ethnig.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar:

 

Plant coll:

>>>> 

>>>Natur a graddfa: y mater ac amrywiadau rhanbarthol.

>>>Grwpiau mewn perygl: gan gynnwys effaith profiad o ofal a lleoliadau y tu allan i'r ardal.

>>>Ymarfer: materion fel rhannu gwybodaeth a chasglu data.

>>>Polisi: Effeithiolrwydd ymatebion polisi ac arfer datganoledig, gan gynnwys trosolwg gan Lywodraeth Cymru. P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru.

>>>Pwerau datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder troseddol ac Ieuenctid.

<<< 

 

Plant a phobl ifanc sy’n ddioddefwyr camfanteisio troseddol:

>>>> 

>>>Natur a graddfa: ledled Cymru ac amrywiadau rhanbarthol (e.e. traddodiadol, cysylltiedig â chyffuriau, rhywiol, ariannol).

>>>Grwpiau mewn perygl: gan gynnwys profiad o ofal, plant sy'n profi trawma yn y cartref, a rhai grwpiau o blant sy’n wynebu heriau yn y system addysg.

>>>Polisi: Effeithiolrwydd polisi datganoledig gan gynnwys trosolwg gan Lywodraeth Cymru. P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru fel Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

>>>Ymarfer: Dulliau o atal, cydnerthedd cymunedol, ymyriadau cynnar, cymorth a ddarperir a strategaethau ymadael i ddioddefwyr. Materion ymarferol fel rhannu gwybodaeth a chasglu data.

>>>Pwerau datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder troseddol ac ieuenctid. A oes unrhyw densiwn rhwng cyfraith droseddol a diogelu.

<<< 

 

Grwpiau eraill: Efallai yr hoffech enwi grwpiau eraill o blant ‘ar yr ymylon’. Byddai'r rhain yn grwpiau o blant mewn amgylchiadau sy'n gofyn am ymateb penodol gan y gwasanaethau plant neu ddarparwyr statudol eraill ac y mae pryderon yn eu cylch o ran y polisi neu'r arfer presennol.

 

 

Casglu tystiolaeth

Dros dymor yr haf byddwn yn cynnal digwyddiadau i randdeiliaid a gweithgareddau ymgysylltu.

 

Ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 23 Ionawr 2024. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 28 Mawrth 2024. Mae pob ymateb wedi'i gyhoeddi.

 

Diwygiwyd y dudalen hon ar 06/03/24 i egluro nad ystyrir bod plant sy'n cael addysg gartref mewn mwy o berygl o fynd ar goll neu gael eu troseddoli na phlant sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2023

Ymgynghoriadau