Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 223 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet yn ateb cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a 9. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet (ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio) ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4-9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(5 munud)

3.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.21

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am -  25 mlynedd ers agor Gerddi Aberglasne i’r cyhoedd (4 Gorffennaf).

(30 munud)

4.

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

NDM8633 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2023-24, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Mehefin 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

NDM8633 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2023-24, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Mehefin 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad

NDM8635 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2024.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mehefin 2024.

Dogfennau ategol

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol at yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (llywodraeth y DU) (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

NDM8635 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2024.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mehefin 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl Plaid Cymru - Cyllid a phwerau datganoledig

NDM8634 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Gyfunol.

2. Yn credu y dylai Cymru gael o leiaf yr un pwerau â’r gwledydd datganoledig eraill.

3. Yn galw ar Lywodraeth newydd y Deyrnas Gyfunol i:

a) cynyddu’r Gyllideb Gymreig o £700 miliwn i’w hadfer i’r lefel a osodwyd yn ystod yr adolygiad o wariant yn 2021;

b) datganoli pwerau dros reolaeth Ystad y Goron a’i hasedau i Gymru;

c) datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru; a

d) dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau a dyraniadau cyllid strwythurol i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod yr etholiad yn cynnig cyfle newydd i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ar sail parch at ei gilydd a chydag ymdeimlad o ddiben cyffredin er budd pobl Cymru a'r DU gyfan.

3. Yn nodi’r sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus y DU a’r baich trethi ar aelwydydd yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU.

4. Yn cydnabod y bydd camreoli economaidd Llywodraeth flaenorol y DU yn golygu y bydd yn cymryd amser i adfer y sefyllfa o ran y cyllid cyhoeddus.

5. Yn croesawu'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gynnwys cynigion i adnewyddu cysylltiadau rhynglywodraethol, diweddaru Fframwaith Cyllidol Cymru, dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i gryfhau datganoli ymhellach yng Nghymru.

Maniffesto Llafur y DU (Saesneg yn unig)

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a bleidleisiodd.

Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8634 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Gyfunol.

2. Yn credu y dylai Cymru gael o leiaf yr un pwerau â’r gwledydd datganoledig eraill.

3. Yn galw ar Lywodraeth newydd y Deyrnas Gyfunol i:

a) cynyddu’r Gyllideb Gymreig o £700 miliwn i’w hadfer i’r lefel a osodwyd yn ystod yr adolygiad o wariant yn 2021;

b) datganoli pwerau dros reolaeth Ystad y Goron a’i hasedau i Gymru;

c) datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru; a

d) dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau a dyraniadau cyllid strwythurol i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod yr etholiad yn cynnig cyfle newydd i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ar sail parch at ei gilydd a chydag ymdeimlad o ddiben cyffredin er budd pobl Cymru a'r DU gyfan.

3. Yn nodi’r sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus y DU a’r baich trethi ar aelwydydd yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU.

4. Yn cydnabod y bydd camreoli economaidd Llywodraeth flaenorol y DU yn golygu y bydd yn cymryd amser i adfer y sefyllfa o ran y cyllid cyhoeddus.

5. Yn croesawu'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gynnwys cynigion i adnewyddu cysylltiadau rhynglywodraethol, diweddaru Fframwaith Cyllidol Cymru, dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i gryfhau datganoli ymhellach yng Nghymru.

Maniffesto Llafur y DU (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu canlyniad etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod yr etholiad yn cynnig cyfle newydd i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio ar sail parch at ei gilydd a chydag ymdeimlad o ddiben cyffredin er budd pobl Cymru a'r DU gyfan.

3. Yn nodi’r sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus y DU a’r baich trethi ar aelwydydd yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU.

4. Yn cydnabod y bydd camreoli economaidd Llywodraeth flaenorol y DU yn golygu y bydd yn cymryd amser i adfer y sefyllfa o ran y cyllid cyhoeddus.

5. Yn croesawu'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU, gan gynnwys cynigion i adnewyddu cysylltiadau rhynglywodraethol, diweddaru Fframwaith Cyllidol Cymru, dychwelyd y gallu i wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol ar ôl yr UE i Lywodraeth Cymru, datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith, ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i gryfhau datganoli ymhellach yng Nghymru.

Maniffesto Llafur y DU (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(20 munud)

7.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i’r Prif Weinidog

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganiad Hannah Blythyn AS yn Siambr y Senedd heddiw iddi gael ei diswyddo fel Gweinidog Llywodraeth Cymru heb ddigon o dystiolaeth ei bod yn euog o ryddhau negeseuon?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU mewn perthynas â Tata Steel ym Mhort Talbot?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

Atebwyd gan y Prif Weinidog

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganiad Hannah Blythyn AS yn Siambr y Senedd heddiw iddi gael ei diswyddo fel Gweinidog Llywodraeth Cymru heb ddigon o dystiolaeth ei bod yn euog o ryddhau negeseuon?

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU mewn perthynas â Tata Steel ym Mhort Talbot?

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.59

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8631 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Lle llawen i orffwys pawen – darparu llety diogel i anifeiliaid anwes yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.02