Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 213 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a 9. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd cwestiynau 1-4, 6-9 ac 11. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y digwyddiadau diweddar yng ngharchar Ei Fawrhydi y Parc?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y digwyddiadau diweddar yng ngharchar Ei Fawrhydi y Parc?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am - Teyrnged i Rob Burrow, cyn chwaraewr rygbi'r gynghrair ac ymgyrchydd MND.

Gwnaeth James Evans ddatganiad am - 80 mlynedd ers glaniadau D-Day (6 Mehefin).

(30 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023

NDM8592 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ‘Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023’, a osodwyd ar 16 Ebrill 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024. Ymatebodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar 15 Mai 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Prif Weinidog

NDM8593 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pryder gwirioneddol y cyhoedd fod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch i arwain y Blaid Lafur gan gwmni sy'n eiddo i unigolyn sydd â dwy euogfarn droseddol amgylcheddol, ac yn gresynu at y diffyg crebwyll a ddangoswyd gan y Prif Weinidog wrth dderbyn y rhodd hon, a'i fethiant i'w ad-dalu.

2. Yn gresynu at gyhoeddiad negeseuon gweinidogion Llywodraeth Cymru lle mae'r Prif Weinidog yn datgan ei fwriad i ddileu negeseuon a allai fod wedi bod o gymorth yn ddiweddarach i'r ymchwiliad COVID yn ei drafodaethau ynghylch y penderfyniadau a wnaed adeg y pandemig COVID, er i'r Prif Weinidog ddweud wrth ymchwiliad COVID y DU nad oedd wedi dileu unrhyw negeseuon.

3. Yn nodi diswyddiad y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol gan y Prif Weinidog o'i Lywodraeth, yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog yn fodlon cyhoeddi ei dystiolaeth ategol ar gyfer y diswyddiad, ac yn nodi bod y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn yn gryf.

4. Am y rhesymau uchod, yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Prif Weinidog.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM8593 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pryder gwirioneddol y cyhoedd fod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch i arwain y Blaid Lafur gan gwmni sy'n eiddo i unigolyn sydd â dwy euogfarn droseddol amgylcheddol, ac yn gresynu at y diffyg crebwyll a ddangoswyd gan y Prif Weinidog wrth dderbyn y rhodd hon, a'i fethiant i'w ad-dalu.

2. Yn gresynu at gyhoeddiad negeseuon gweinidogion Llywodraeth Cymru lle mae'r Prif Weinidog yn datgan ei fwriad i ddileu negeseuon a allai fod wedi bod o gymorth yn ddiweddarach i'r ymchwiliad COVID yn ei drafodaethau ynghylch y penderfyniadau a wnaed adeg y pandemig COVID, er i'r Prif Weinidog ddweud wrth ymchwiliad COVID y DU nad oedd wedi dileu unrhyw negeseuon.

3. Yn nodi diswyddiad y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol gan y Prif Weinidog o'i Lywodraeth, yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog yn fodlon cyhoeddi ei dystiolaeth ategol ar gyfer y diswyddiad, ac yn nodi bod y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn yn gryf.

4. Am y rhesymau uchod, yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Prif Weinidog.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

27

56

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Cyllid HS2

NDM8594 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i ddyfarnu cyfran deg o arian HS2 i Gymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.47

NDM8594 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i ddyfarnu cyfran deg o arian HS2 i Gymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8591 Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Gofal anghymalog: mynd i'r afael ag iechyd y cymalau ac esgyrn yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

NDM8591 Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Gofal anghymalog: mynd i'r afael ag iechyd y cymalau ac esgyrn yng Nghymru.