Craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW)
Craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW)
Bydd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn cynnal gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith
Cenedlaethol Cymru (NICW) yn ystod y Chweched Senedd.
Mae Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn banel anstatudol, cynghorol sy’n rhoi cyngor i
Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith Cymru.
Craffu blynyddol
- 2023
Cyhoeddwyd yr adroddiad
blynyddol ar 20 Rhagfyr 2023. Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn graffu flynyddol
ar waith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru dydd Mercher 31
Ionawr 2024.
Adroddiad: Gwaith craffu
blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023 (PDF 205KB) ar 16
Ebrill 2024.
Craffu
blynyddol 2022-23
Cyhoeddwyd yr
adroddiad blynyddol ar 22 Tachwedd 2022. Cynhaliodd
y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Chadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
yn ei gyfarfod ar 7
Rhagfyr 2022.
Adroddiad
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad blynyddol
ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru - 2022-23 (PDF 140KB), ar 2 Mawrth
2023.
Dadl yn y
Cyfarfod Llawn: Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 10
Mai 2023.
Craffu ar
Ddarpar Gadeirydd y Comisiwn - 2021
Ar 21 Medi 2021 ysgrifennodd
y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor yn rhoi amlinelliad
o’r unigolyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio i gael ei benodi’n Gadeirydd
y Comisiwn.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn graffu ar Ddarpar Gadeirydd y Comisiwn yn ei gyfarfod ar 30
Medi 2021. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF
596KB) ar 12 Hydref 2021. Ymatebodd
y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar 19 Tachwedd 2021.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2022