Agenda
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 205(v1)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru NDM8559 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau, ‘Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y
sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd
2023. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2024. |
|
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass NDM8563 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r adolygiad
Cass a gomisiynwyd gan GIG Lloegr i wneud argymhellion ar sut i wella
gwasanaethau hunaniaeth rhywedd y GIG, a dynnodd sylw at y ffaith y dylid bod
yn ofalus iawn wrth ragnodi meddyginiaethau atal y glasoed a hormonau i bobl
ifanc o dan 18 oed oherwydd diffyg ymchwil o ansawdd uchel i'w heffeithiau
tymor hir. 2. Yn croesawu'r ffaith,
oherwydd bod GIG Lloegr yn atal meddyginiaethau atal y glasoed, fod hyn
wedi golygu nad oes llwybr i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru gael
meddyginiaethau atal y glasoed. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) mabwysiadu
argymhellion adolygiad Cass; a b) sicrhau bod plant a'u
rhieni yn cael eu cefnogi gyda chanllawiau synnwyr cyffredin, sy'n seiliedig ar
ffeithiau. Adolygiad Cass – Adolygiad annibynnol o wasanaethau
hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc (Saesneg yn unig) |
|
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion NDM8562 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pryder y
cyhoedd ynghylch y posibilrwydd bod cod gweinidogol Llywodraeth Cymru wedi'i
dorri mewn perthynas â rhoddion a dderbyniwyd gan y Prif Weinidog. 2. Yn nodi bod y Prif
Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth Llafur
Cymru gan y Dauson Environmental Group Limited yn dilyn benthyciad o £400,000
i'r cwmni gan Fanc Datblygu Cymru, a throseddau yn ymwneud â'r amgylchedd. 3. Yn galw ar y Prif
Weinidog i benodi cynghorydd annibynnol i'r cod gweinidogol i ymchwilio i
unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fodoli mewn perthynas â'r rhodd, gan
gyfeirio'n benodol at bwyntiau i a ii o baragraff 1.3 o'r cod gweinidogol. |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Uchafswm ar roddion gwleidyddol NDM8561 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cyfraniad o
£200,000 a wnaed i'r Prif Weinidog yn ystod etholiad arweinyddiaeth Llafur
Cymru, a'i ddatganiad ar Gofrestr Buddiannau'r Aelod. 2. Yn credu nad yw'r
cyhoedd yn cymeradwyo derbyn y rhodd hon. 3. Yn cytuno y dylid
gosod uchafswm blynyddol ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw Aelod unigol
o'r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid. 4.
Yn galw ar y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflwyno cynigion
ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd a Chod Ymddygiad yr Aelodau a
fyddai'n rhoi'r uchafswm ar waith. |
|
Cyfnod Pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8560 Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru) Gaza
- ymateb Cymreig. |