Agenda

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 204(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Tata Steel

(0 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

4.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1 - Gohiriwyd tan 7 Mai

NDM8556 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno bod darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, cymal 16 ynghylch cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant pan fo un rhiant yn lladd y llall; cymal 17 ynghylch marwolaeth  yn deillio o gam-drin domestig a chymal 40 sy'n ymwneud ag iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn cael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2 - Gohiriwyd tan 7 Mai

NDM8557 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef cymalau 1 i 4, 11, 26 a 27, dioddefwyr ymddygiad troseddol: cod dioddefwyr; cymal 15, canllawiau ar rolau cymorth dioddefwyr penodedig; cymalau 28 - 33 a 35 - 39 dioddefwyr digwyddiadau mawr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6.

Cyfnod pleidleisio

(240 mins)

7.

Dadl: Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a dderbyniwyd gan y Senedd ar 16 Ebrill 2024.

1. Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: enw’r Comisiwn

44, 45, 46, 47, 48, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 90, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 49, 50, 51, 115, 52

2. Adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd: cyhoeddiadau a gweithredu

1, 24, 25, 26, 27, 30, 31

3. Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd: personau sydd wedi eu heuogfarnu o ddichell o fewn y pedair blynedd diwethaf

43

4. Y system bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y Senedd a dyrannu seddi

32, 33, 34, 39, 35, 36

5. Gwelliannau cysylltiedig at ddibenion Rhan 2 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (y system bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y Senedd a dyrannu seddi)

2

6. Adalw Aelodau o’r Senedd

40, 42

7. Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: penodi ac anghymhwyso aelodau, y prif weithredwr a chomisiynwyr cynorthwyol

3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21

8. Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: adroddiadau blynyddol

41

9. Adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd: y materion y caiff Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu hystyried

22, 28

10. Mân newidiadau drafftio yn y Gymraeg

23, 29

11. Refferendwm ar Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

37, 38

Dogfennau Ategol

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli

Grwpio gwelliannau