Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 203
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/04/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Am 13.30, datganodd y Llywydd y gall Mark Isherwood ofyn
am gytundeb y Senedd ar ei gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
(Cymru), yn dilyn canlyniad y balot ar gyfer Bil Aelod. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 14.17 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd am 3 munud. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu
grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.10 Gofynnwyd y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet
ddatganiad ar ganlyniad terfynol adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo
Meddygol Brys i ddarparu gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru yn y dyfodol? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.12 Atebwyd gan Ysgrifennydd
y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ganlyniad terfynol
adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys i ddarparu
gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru yn y dyfodol? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.34 Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Mis
Ymwybyddiaeth o Adenomyosis (Ebrill). Gwnaeth Carolyn Thomas ddatganiad am - Diwrnod
y Ddaear (22 Ebrill). Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am - Wythnos
Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio (22-26 Ebrill) |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i wella diogeledd bwyd NDM8504 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i atgyfnerthu
diogeledd bwyd yng Nghymru. 2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu
targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.40 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8504 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i
atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru. 2. Yn
nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu
targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru NDM8544 Llyr Gruffydd
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ‘Adroddiad ar berfformiad
Dŵr Cymru’, a osodwyd ar 8 Chwefror 2024. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2024. Ymatebodd Ofwat (Saesneg yn unig) a Cyfoeth Naturiol Cymru ar 20 Mawrth 2024 ac
ymatebodd Dŵr Cymru Welsh Water ar 28 Mawrth 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.11 NDM8544 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ‘Adroddiad ar berfformiad
Dŵr Cymru’, a osodwyd ar 8 Chwefror 2024. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Ebrill 2024. Ymatebodd Ofwat (Saesneg yn unig) a Cyfoeth Naturiol Cymru ar 20 Mawrth 2024 ac ymatebodd Dŵr Cymru Welsh Water ar 28 Mawrth 2024. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 16.55 Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Llywodraeth ddatgan pa wybodaeth y gall
ei rhannu parthed y digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw? |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg NDM8545 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r adroddiad
Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid a amlygodd: a) bod sgoriau PISA wedi
gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn 2022; b) mai deilliannau
addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU; c) bod disgyblion yng
Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn
Lloegr; d) bod yr esboniad am
berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a dull
gweithredu Llywodraeth Cymru; ac e) bod y cwricwlwm
newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o ehangu
anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar gyfleoedd
addysg yn y dyfodol. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) comisiynu adolygiad
annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu cyflwyno; b) blaenoriaethu addysg
plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth; c) sicrhau bod y rhai
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt; a d) cyflwyno academïau ac
ysgolion rhydd. Adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd
gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu ymrwymiad
y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif
flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. 2. Yn cefnogi gwaith
Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion
Dysgu Ychwanegol (Cymru). 3. Yn mynegi diolch i'r
gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn. 4. Yn nodi, er gwaethaf
camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi
diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a
chyllid grant. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu is-bwynt 2(d) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.10 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8545 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi'r adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y
Sefydliad Astudiaethau Cyllid a amlygodd: a)
bod sgoriau PISA wedi gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd
eraill yn 2022; b)
mai deilliannau addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU; c)
bod disgyblion yng Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn Lloegr; d)
bod yr esboniad am berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a
dull gweithredu Llywodraeth Cymru; ac e)
bod y cwricwlwm newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o
ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar
gyfleoedd addysg yn y dyfodol. 2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
comisiynu adolygiad annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu
cyflwyno; b)
blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i
ystafelloedd dosbarth; c)
sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir
yn gynt; a d)
cyflwyno academïau ac ysgolion rhydd. Adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan
y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig)
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol
fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. 2. Yn
cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru). 3. Yn
mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y
flwyddyn. 4. Yn
nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod
Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad
llywodraeth leol a chyllid grant. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan
fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8545 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol
fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. 2. Yn
cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru). 3. Yn
mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y
flwyddyn. 4. Yn
nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod
Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad
llywodraeth leol a chyllid grant.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.47 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8540 Peter Fox
(Mynwy) Gofal
sylfaenol a'r agenda ataliol. Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |