Perfformiad Dŵr Cymru Welsh Water
Perfformiad Dŵr Cymru Welsh Water
Yn dilyn
adroddiadau o ddirywiad ym mherfformiad Dŵr Cymru a'r sylw yn y
cyfryngau yn
ddiweddar am 'ollyngiadau anghyfreithlon o garthffosiaeth heb ei drin' o nifer
o'i Weithfeydd Trin Dŵr
Gwastraff ('GTDG'), cytunodd Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith I ymgymryd â darn byr o waith i
ystyried y materion hyn a materion cysylltiedig.
Casglu
tystiolaeth:
Ysgrifennodd
y Cadeirydd at Dŵr
Cymru mewn perthynas â’i israddio ar 25 Gorffennaf 2023 (PDF 83KB) ac ymatebodd
Dŵr Cymru ar 4 Awst
2023 (PDF 798KB).
Er mwyn helpu i
lywio ei waith, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau
tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd Iau 9 Tachwedd 2023.
Cafwyd
tystiolaeth ysgrifenedig gan Dŵr
Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat.
Adroddiad: Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad ar
berfformiad Dŵr
Cymru (PDF 2.77MB) ar 8 Chwefror 2024.
Ymatebion:
·
Ymateb
(PDF 193KB) Llywodraeth Cymru ar 14 Mawrth 2024.
·
Ymateb
(PDF 64KB – Saesneg yn unig)) Ofwat ar 20 Mawrth 2024.
·
Ymateb
(PDF 146KB) Cyfoeth Naturiol Cymru ar 20 Mawrth 2024.
·
Ymateb
(PDF 277KB) Dŵr
Cymru Welsh Water ar 28 Mawrth 2024.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2024
Dogfennau