Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 191 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gofynnwyd cwestiynau 2-9. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiynau 2-6 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gofynnwyd cwestiynau 2-9. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.

Pwynt o Drefn

Am 15.15, cododd Sam Rowlands Bwynt o Drefn yn ymwneud â sylwadau gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch penderfyniadau blaenorol ar gyllidebau ysgolion yng Nghonwy. Dywedodd y Dirprwy Lywydd fod eglurhâd yr Aelod bellach ar y cofnod.

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am - Dathlu 25 mlynedd o Tŷ Hafan.

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad am - Mae Sylvia Harper a Holly Morgan wedi cyhoeddi cyfres o lyfrau sy’n ymdrin â phynciau fel byddardod, dallineb, awtistiaeth ac ADHD, sy’n ceisio creu gwell dealltwriaeth rhwng plant ag anghenion arbennig a’r rhai heb anghenion arbennig.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE

NDM8488 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef “Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE”, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2023.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2024.

Dogfennau ategol

Ymateb Comisiwn y Senedd i’r adroddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

NDM8488 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef “Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE”, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2023.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

NDM8489 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod gwaith ac ymroddiad staff gweithgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn nodi:

a) bod 27 Chwefror 2024 yn nodi blwyddyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig;

b) bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn flaenorol rhwng 8 Mehefin 2015 a 24 Tachwedd 2020, lai na 6 mis cyn etholiadau'r Senedd yn 2021; ac

c) bod y bwrdd iechyd wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

3. Yn gresynu nad yw cleifion a staff wedi gweld y gwelliannau gofynnol eto ers i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwrando ar bryderon gweithwyr proffesiynol gofal iechyd pan godir pryderon am ansawdd gwasanaethau; a

b) sicrhau bod cleifion yng Ngogledd Cymru yn cael y gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl 2(a) a rhoi yn ei le:

bod rhaid i unrhyw benderfyniad i uwchgyfeirio neu isgyfeirio sefydliad GIG fod yn seiliedig ar ystyriaeth briodol o ystod helaeth o ffactorau a thystiolaeth ffeithiol;

Yn nodi ymhellach:

a) y gwnaeth adolygiad dilynol Archwilio Cymru o effeithiolrwydd y Bwrdd gydnabod gwelliant o ran sefydlogrwydd y Bwrdd a dod i’r casgliad nad yw’r camweithrediad yn y Bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol i’w weld mwyach; a

b) bod perfformiad ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gwella ers mis Chwefror 2023, gydag 1.5 pwynt canran o welliant yn erbyn y targed 26 wythnos, 15.5 y cant o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf a’r nifer lleiaf o bobl yn aros cyfanswm o dros 104 wythnos ers mis Awst 2021.

Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod heriau sylweddol yn dal i fod; a

b) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r bwrdd iechyd a’i ddwyn i gyfrif i sicrhau ei fod yn gwrando ar bryderon gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pan godir pryderon ynghylch ansawdd gwasanaethau ac yn darparu’r gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y mae cleifion yng Ngogledd Cymru yn ei haeddu.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cyhoeddi proses ddad-ddwysáu glir, gan gynnwys egluro pwy sy'n cyfrannu at y broses ddad-ddwysáu a phwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol, tra hefyd yn darparu esboniad o'r penderfyniad;

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu penodiad Dyfed Edwards fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir ar gyfer penodi cyflenwad llawn o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl 2(a) a rhoi yn ei le:

bod rhaid i unrhyw benderfyniad i uwchgyfeirio neu isgyfeirio sefydliad GIG fod yn seiliedig ar ystyriaeth briodol o ystod helaeth o ffactorau a thystiolaeth ffeithiol;

Yn nodi ymhellach:

a) y gwnaeth adolygiad dilynol Archwilio Cymru o effeithiolrwydd y Bwrdd gydnabod gwelliant o ran sefydlogrwydd y Bwrdd a dod i’r casgliad nad yw’r camweithrediad yn y Bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol i’w weld mwyach; a

b) bod perfformiad ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gwella ers mis Chwefror 2023, gydag 1.5 pwynt canran o welliant yn erbyn y targed 26 wythnos, 15.5 y cant o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf a’r nifer lleiaf o bobl yn aros cyfanswm o dros 104 wythnos ers mis Awst 2021.

Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod heriau sylweddol yn dal i fod; a

b) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r bwrdd iechyd a’i ddwyn i gyfrif i sicrhau ei fod yn gwrando ar bryderon gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pan godir pryderon ynghylch ansawdd gwasanaethau ac yn darparu’r gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y mae cleifion yng Ngogledd Cymru yn ei haeddu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cyhoeddi proses ddad-ddwysáu glir, gan gynnwys egluro pwy sy'n cyfrannu at y broses ddad-ddwysáu a phwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol, tra hefyd yn darparu esboniad o'r penderfyniad;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu penodiad Dyfed Edwards fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir ar gyfer penodi cyflenwad llawn o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Ymchwiliad Covid penodol i Gymru

NDM8483 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bydd Modiwl 2B o Ymchwiliad Covid y DU yn clywed tystiolaeth yng Nghymru rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024.

2. Yn credu:

a) bod Modiwl 2B o ymchwiliad Covid y DU: ‘Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru’ yn annigonol i alluogi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i ddysgu gwersi o’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru;

b) nad yw'r rhestr cyfranogwyr craidd ar gyfer gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yn cynnwys yr ystod lawn o sefydliadau perthnasol Cymreig;

c) ni all Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru asesu'r ystod lawn o faterion sy'n gysylltiedig â'r modd roedd Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig;

d) bod methiant i sefydlu ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn tanseilio datganoli;

e) bod ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn hawl sylfaenol i bawb a gollodd anwyliaid oherwydd Covid.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd Ymchwiliad Covid y DU wrth nodi sut y dylanwadodd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU ar ymateb Covid yng Nghymru.

4. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, wedi sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru i archwilio’n llawn weithredoedd a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad Covid Cymru dan arweiniad barnwr.

Cefnogwyr

Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod y Senedd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad Covid yng Nghymru, wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio cael atebion i deuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8483 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bydd Modiwl 2B o Ymchwiliad Covid y DU yn clywed tystiolaeth yng Nghymru rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024.

2. Yn credu:

a) bod Modiwl 2B o ymchwiliad Covid y DU: ‘Gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd yng Nghymru’ yn annigonol i alluogi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i ddysgu gwersi o’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru;

b) nad yw'r rhestr cyfranogwyr craidd ar gyfer gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yn cynnwys yr ystod lawn o sefydliadau perthnasol Cymreig;

c) ni all Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru asesu'r ystod lawn o faterion sy'n gysylltiedig â'r modd roedd Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig;

d) bod methiant i sefydlu ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn tanseilio datganoli;

e) bod ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn hawl sylfaenol i bawb a gollodd anwyliaid oherwydd Covid.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd Ymchwiliad Covid y DU wrth nodi sut y dylanwadodd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU ar ymateb Covid yng Nghymru.

4. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, wedi sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru i archwilio’n llawn weithredoedd a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad Covid Cymru dan arweiniad barnwr.

Cefnogwyr

Russell George (Sir Drefaldwyn)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod y Senedd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad Covid yng Nghymru, wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio cael atebion i deuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw yn ystod y pandemig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.    

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.57

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8484 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Pwysigrwydd llais Cymru yn yr ymgyrch dros heddwch - dathlu canmlwyddiant cyflwyno deiseb heddwch menywod Cymru i'r Arlywydd Coolidge a rôl Cymru wrth godi llais dros heddwch heddiw.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.02