Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 189
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 3 gan Ddirprwy Weinidog y
Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd
cwestiynau 2, 4 a 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Am 15.18, cododd Tom
Giffard Bwynt o Drefn i geisio cywiro sylwadau a gwnaethpwyd gan Mabon ap
Gwynfor yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19
Cymru yn ystod Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Derbyniodd Mabon ap Gwynfor y cywiriad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Heledd
Fychan (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o
effaith cynyddu'r cap ffioedd dysgu a thorri grantiau cymorth ôl-raddedig ar y
nifer tebygol o fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgolion Cymru? Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa ymgynghoriad y mae'r Gweinidog wedi'i
gynnal gydag Awdurdodau Lleol ledled Cymru cyn i Lywodraeth Cymru ddyrannu
cyllid canlyniadol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad
Llywodraeth y DU ym mis Ionawr 2024? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.18 Atebwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg Heledd Fychan (Canol De
Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth
Cymru wedi'i wneud o effaith cynyddu'r cap ffioedd dysgu a thorri grantiau
cymorth ôl-raddedig ar y nifer tebygol o fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ym
Mhrifysgolion Cymru? Atebwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru): Pa ymgynghoriad y mae'r
Gweinidog wedi'i gynnal gydag Awdurdodau Lleol ledled Cymru cyn i Lywodraeth
Cymru ddyrannu cyllid canlyniadol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn dilyn
cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Ionawr 2024? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.44 Gwnaeth
Adam Price ddatganiad am - Teyrnged i Barry John. Gwnaeth
Darren Millar ddatganiad am -
Wythnos Awyr Dywyll Cymru (9-18 Chwefror). Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad am - Lewcemia, un o’r canserau a drafodir leiaf -
Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol NDM8477 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Senedd Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref
2023. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 NDM8477 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Senedd Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Amrywiaeth ym maes
Llywodraeth Leol’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2023. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai NDM8479 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu, er bod
angen o leiaf 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn, bod Llywodraeth
Cymru wedi adeiladu prin hanner y nifer hwnnw dros y degawd diwethaf. 2. Yn cydnabod ffigurau
a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 bod 103,000 o anheddau sy'n
wirioneddol wag yng Nghymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sefydlu tasglu
penodedig o gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau â'r
perfformiad arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor; b) cefnogi datblygwyr
bach yng Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a
chynghorau lleol, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol o ran tai; ac c) troi eiddo gwag yng
Nghymru yn ôl i fod yn gartrefi. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod: a) bron i 90,000 o
aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd; a b) 11,273 o unigolion
mewn llety dros dro ym mis Hydref 2023, a bod 3,403 ohonynt yn blant dibynnol o
dan 16 oed. 2. Yn gresynu: a) mai dim ond 5,775 o
unedau mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu ers 2021, er gwaethaf y targed o
ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector
cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon; a b) bod dros 139,000 o
gartrefi cymdeithasol ar rent wedi eu colli i'r farchnad agored erbyn i'r Hawl
i Brynu gael ei diddymu yng Nghymru yn 2019, gan gyfrannu'n fawr at yr argyfwng
tai presennol. 3. Yn credu: a) mai'r ateb i argyfwng
tai Cymru yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd
incwm canolig ac isel, i'w rhentu ac i'w prynu; a b) y bydd sicrhau
cyfradd llawer uwch o gartrefi mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol hefyd
yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach. 4. Yn croesawu'r: a) ymrwymiad yn y
Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi cynigion i sefydlu system o
renti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fwy fforddiadwy; a b) diwygio radical ar
gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd a
ddatblygwyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym er mwyn cyrraedd
neu ragori ar y targed i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w
rhentu o fewn y sector cymdeithasol. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr heriau
y mae’r sector tai yn eu hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws
y Deyrnas Unedig. 2. Yn croesawu’r camau y
mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd a’i buddsoddiad mewn tai. 3. Yn nodi ymrwymiad
uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol,
carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon. 4.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd â Plaid Cymru, er mwyn
cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai
cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn
cael eu defnyddio unwaith eto. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.29 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8479 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu, er bod angen o
leiaf 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn, bod Llywodraeth Cymru
wedi adeiladu prin hanner y nifer hwnnw dros y degawd diwethaf. 2. Yn cydnabod ffigurau a
ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 bod 103,000 o anheddau sy'n
wirioneddol wag yng Nghymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) sefydlu tasglu penodedig o
gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau â'r perfformiad
arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor; b) cefnogi datblygwyr bach yng
Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a chynghorau
lleol, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol o ran tai; ac c) troi eiddo gwag yng Nghymru
yn ôl i fod yn gartrefi.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod: a) bron i 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai
cymdeithasol ar hyn o bryd; a b) 11,273 o unigolion mewn llety dros dro ym mis Hydref
2023, a bod 3,403 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed. 2. Yn gresynu: a) mai dim ond 5,775 o unedau mae Llywodraeth Cymru wedi
eu darparu ers 2021, er gwaethaf y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon
isel newydd i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y
llywodraeth hon; a b) bod dros 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent wedi
eu colli i'r farchnad agored erbyn i'r Hawl i Brynu gael ei diddymu yng Nghymru
yn 2019, gan gyfrannu'n fawr at yr argyfwng tai presennol. 3. Yn credu: a) mai'r ateb i argyfwng tai Cymru yw cynyddu'r cyflenwad
o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm canolig ac isel, i'w rhentu ac
i'w prynu; a b) y bydd sicrhau cyfradd llawer uwch o gartrefi mewn
perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol hefyd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar
fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach. 4. Yn croesawu'r: a) ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur
Gwyn sy'n nodi cynigion i sefydlu system o renti teg a dulliau newydd o wneud
cartrefi'n fwy fforddiadwy; a b) diwygio radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur
Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o'r Cytundeb
Cydweithio. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o
adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym er mwyn cyrraedd neu ragori ar y targed i
ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector
cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu
hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws y Deyrnas Unedig. 2. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu
cymryd a’i buddsoddiad mewn tai. 3. Yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i
ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol, carbon isel yn ystod tymor y
Llywodraeth hon. 4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd
â Plaid Cymru, er mwyn cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i
wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau
bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8479 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu
hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws y Deyrnas Unedig. 2. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu
cymryd a’i buddsoddiad mewn tai. 3. Yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i
ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol, carbon isel yn ystod tymor y
Llywodraeth hon. 4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd
â Plaid Cymru, er mwyn cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i
wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau
bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Y gwasanaeth iechyd NDM8478 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi ymdrechion
arwrol staff y GIG yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau
heriol. 2. Yn nodi blwyddyn ers
i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol amlinellu blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru. 3. Yn credu bod: a) canlyniadau iechyd
wedi gwaethygu yn y flwyddyn sydd wedi mynd heibio; a b) methiant i weithredu
ar y blaenoriaethau wedi cyfrannu at fod pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o
statws uwchgyfeirio. 4. Yn gresynu: a) bod nifer y llwybrau
cleifion oedd yn aros am driniaeth yn 758,815 ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu
â 731,102 ym mis Chwefror 2023; b) mai 53.5 y cant o
gleifion canser ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y targed 62
diwrnod ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 54.3 y cant ym mis Chwefror 2023; c) mai nifer y meddygon
teulu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru oedd 1901 yn 2013 a 1429.6 yn 2023; a d) mai 66.7 y cant o
gleifion dreuliodd llai na 4 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym
mis Rhagfyr 2023, o'i gymharu â 71.5 y cant ym mis Chwefror 2023. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) pennu amserlen glir i
ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob bwrdd iechyd; a b) datgan argyfwng
iechyd. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) ar ddiwedd mis
Tachwedd 2023, mai canran y llwybrau agored a oedd yn aros llai na 104 wythnos
oedd 96.7%, sef yr 20fed gwelliant yn olynol a'r uchaf y mae wedi bod ers Awst
2021; b) yn 2023, bod nifer
cyfartalog y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i’r llwybr lle’r amheuir canser bob
mis wedi cynyddu 53% ers 2020; c) ym mis Tachwedd 2023,
bod bron i 14,800 o bobl a atgyfeiriwyd oherwydd amheuaeth o ganser wedi cael
gwybod nad oedd canser arnynt, sef yr ail uchaf ar gofnod; d) bod mwy o feddygon
teulu cwbl gymwysedig yn gweithio yng Nghymru ym mis Mehefin 2023 o'i gymharu
â'r flwyddyn flaenorol – cynnydd o 0.9%; ac e) bod y data diweddaraf
sydd ar gael ar gyfer mis Rhagfyr 2023 yn dangos lleihad o 51% yn y perfformiad
o ran amser ymateb cyfartalog ambiwlansys i alwadau oren, gwelliant o 29% yn y
perfformiad o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a gostyngiad o 20% yn
nifer y cleifion sy'n treulio dros 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn
neu eu rhyddhau; o'i gymharu â'r un mis yn 2022. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 5: datblygu a chyflwyno
cynllun gweithlu ar gyfer GIG Cymru; Gwelliant 3 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 5: gosod
targed i ddileu amseroedd aros dwy flynedd erbyn mis Medi 2024 a chreu tasglu
i'w gyflawni; Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8478 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi ymdrechion arwrol
staff y GIG yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol. 2. Yn nodi blwyddyn ers i’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol amlinellu blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru. 3. Yn credu bod: a) canlyniadau iechyd wedi
gwaethygu yn y flwyddyn sydd wedi mynd heibio; a b) methiant i weithredu ar y
blaenoriaethau wedi cyfrannu at fod pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o statws
uwchgyfeirio. 4. Yn gresynu: a) bod nifer y llwybrau
cleifion oedd yn aros am driniaeth yn 758,815 ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu
â 731,102 ym mis Chwefror 2023; b) mai 53.5 y cant o gleifion
canser ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y targed 62 diwrnod ym
mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 54.3 y cant ym mis Chwefror 2023; c) mai nifer y meddygon teulu
cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru oedd 1901 yn 2013 a 1429.6 yn 2023; a d) mai 66.7 y cant o gleifion
dreuliodd llai na 4 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis
Rhagfyr 2023, o'i gymharu â 71.5 y cant ym mis Chwefror 2023. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) pennu amserlen glir i
ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob bwrdd iechyd; a b) datgan argyfwng iechyd.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei
ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) ar ddiwedd mis Tachwedd 2023, mai canran y llwybrau
agored a oedd yn aros llai na 104 wythnos oedd 96.7%, sef yr 20fed gwelliant yn
olynol a'r uchaf y mae wedi bod ers Awst 2021; b) yn 2023, bod nifer cyfartalog y bobl sy'n cael eu
hatgyfeirio i’r llwybr lle’r amheuir canser bob mis wedi cynyddu 53% ers 2020; c) ym mis Tachwedd 2023, bod bron i 14,800 o bobl a
atgyfeiriwyd oherwydd amheuaeth o ganser wedi cael gwybod nad oedd canser
arnynt, sef yr ail uchaf ar gofnod; d) bod mwy o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn gweithio
yng Nghymru ym mis Mehefin 2023 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol – cynnydd o
0.9%; ac e) bod y data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer mis
Rhagfyr 2023 yn dangos lleihad o 51% yn y perfformiad o ran amser ymateb
cyfartalog ambiwlansys i alwadau oren, gwelliant o 29% yn y perfformiad o ran
trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a gostyngiad o 20% yn nifer y cleifion sy'n
treulio dros 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn neu eu rhyddhau; o'i
gymharu â'r un mis yn 2022. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: datblygu a chyflwyno cynllun gweithlu ar gyfer GIG Cymru; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: gosod targed i ddileu
amseroedd aros dwy flynedd erbyn mis Medi 2024 a chreu tasglu i'w gyflawni; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8478 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi ymdrechion arwrol
staff y GIG yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol. 2. Yn nodi blwyddyn ers i’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol amlinellu blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru. 3. Yn credu bod: a) canlyniadau iechyd wedi
gwaethygu yn y flwyddyn sydd wedi mynd heibio; a b) methiant i weithredu ar y
blaenoriaethau wedi cyfrannu at fod pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o statws
uwchgyfeirio. 4. Yn gresynu: a) bod nifer y llwybrau
cleifion oedd yn aros am driniaeth yn 758,815 ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu
â 731,102 ym mis Chwefror 2023; b) mai 53.5 y cant o gleifion
canser ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y targed 62 diwrnod ym
mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 54.3 y cant ym mis Chwefror 2023; c) mai nifer y meddygon teulu
cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru oedd 1901 yn 2013 a 1429.6 yn 2023; a d) mai 66.7 y cant o gleifion
dreuliodd llai na 4 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis
Rhagfyr 2023, o'i gymharu â 71.5 y cant ym mis Chwefror 2023. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) pennu amserlen glir i
ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob bwrdd iechyd; a b) datgan argyfwng iechyd; a c) gosod targed i ddileu amseroedd aros dwy flynedd erbyn
mis Medi 2024 a chreu tasglu i'w gyflawni.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel
y’i diwygiwyd. Felly, gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8476 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Mynediad
cyflymach at wasanaethau clyw yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.46 NDM8476 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Mynediad
cyflymach at wasanaethau clyw yng Nghymru |