Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol

Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol

Inquiry4

 

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Amrywiaeth ym Maes Llywodraeth Leol ar 17 Hydref 2023. (PDF 684KB)

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad.  (PDF 157KB)

 

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.

 

Nod yr ymchwiliad fydd:

>>>> 

>>> Asesu cynnydd tuag at wella amrywiaeth mewn llywodraeth leol ers pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac unrhyw effaith bendant ar ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad.

>>> Ystyried y cynnydd wrth weithredu'r argymhellion yn adroddiad 2019 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

>>> Ymchwilio i waith ymchwil a dadansoddi a gaiff ei wneud gan Lywodraeth Cymru, cyrff partner ac eraill ar amrywiaeth ymgeiswyr a chanlyniadau yn dilyn etholiadau lleol 2022.

>>> Archwilio cynlluniau a sefydlwyd i hyrwyddo a galluogi mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sy'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.

>>> Ymchwilio i feysydd arloesedd ac arfer da a allai helpu i gynyddu amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

<<<< 

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/08/2023

Dogfennau

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau