Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 188 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75 y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ar 5 Chwefror 2024. Gwnaeth y Llywydd ddatganiad hefyd ar farwolaeth diweddar chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod Prydeinig, Barry John a’r cyhoeddiad iechyd gan Ei Fawrhydi.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.35

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd - y camau nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.51

(30 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau galwedigaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

(0 munud)

5.

Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 - Gohiriwyd

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon.

(120 munud)

6.

Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-2025

NDM8473 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr 2023.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:   

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8473 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr 2023.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

12

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM8473 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr 2023.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

12

12

54

Derbyniwyd y cynnig.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Dechreuodd yr eitem am 18.23

NNDM8481 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8480 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl: Y Diwydiant Dur yng Nghymru

NNDM8480 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod dyfodol addawol i waith creu dur mewn ffwrneisiau chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy’n cefnogi economi Gymreig gryfach ac sydd hefyd yn diogelu ased sy’n perthyn i’r DU.

2. Yn cefnogi’r achos dros drafodaethau pellach a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:   

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r £500 miliwn gan Lywodraeth y DU i sicrhau dyfodol y gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn nodi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn gydag £80 miliwn gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel Ltd.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu cyllid ar unwaith i gefnogi gweithwyr dur.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM8480 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod dyfodol addawol i waith creu dur mewn ffwrneisiau chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy’n cefnogi economi Gymreig gryfach ac sydd hefyd yn diogelu ased sy’n perthyn i’r DU.

2. Yn cefnogi’r achos dros drafodaethau pellach a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r £500 miliwn gan Lywodraeth y DU i sicrhau dyfodol y gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn gydag £80 miliwn gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel Ltd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu cyllid ar unwaith i gefnogi gweithwyr dur.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NNDM8480 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod dyfodol addawol i waith creu dur mewn ffwrneisiau chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy’n cefnogi economi Gymreig gryfach ac sydd hefyd yn diogelu ased sy’n perthyn i’r DU.

2. Yn cefnogi’r achos dros drafodaethau pellach a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 8 a 9 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

8.

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

NDM8475 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Gosodwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Hydref 2023;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gerbron y Senedd ar 26 Ionawr 2024.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.03

NDM8475 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Gosodwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Hydref 2023;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gerbron y Senedd ar 26 Ionawr 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

NDM8474 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.31

NDM8474 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 20.26

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: