Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 169(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Russell
George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf
am y sefyllfa o ran Ysbyty Athrofaol Cymru yn cyhoeddi rhybudd du ynghylch galw
andwyol sylweddol a pharhaus ar wasanaethau? Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Heledd
Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â
chyhoeddiad HSBC y byddant yn dod a’u gwasanaeth cwsmeriaid dros y ffôn yn y
Gymraeg i ben? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.05 Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol Russell George
(Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Ysbyty Athrofaol Cymru yn cyhoeddi
rhybudd du ynghylch galw andwyol sylweddol a pharhaus ar wasanaethau? Atebwyd gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chyhoeddiad HSBC y byddant
yn dod a’u gwasanaeth cwsmeriaid dros y ffôn yn y Gymraeg i ben? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am - Malcolm Eager, cyn-Ddinesydd y Flwyddyn, yn ymddeol. Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - Wythnos Cyflog Byw (6-12 Tachwedd). Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - 50 mlynedd
o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth (11-12 Tachwedd). |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE NDM8396 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Cyllid datblygu rhanbarthol
ar ôl gadael yr UE’, a osodwyd ar
12 Medi 2023. Noder:
Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Hydref 2023. At
hynny, cyhoeddwyd ymateb
Llywodraeth y DU ar 31 Hydref 2023 (Saesneg yn unig). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.40 NDM8396 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig, ‘Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE’, a osodwyd ar 12 Medi 2023. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31
Hydref 2023. At hynny, cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU ar 31 Hydref 2023 (Saesneg yn unig). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd dŵr NDM8397 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod carthion a
gaiff eu gollwng i ddyfroedd Cymru yn cyfrif am 25 y cant o'r holl ollyngiadau
ledled Cymru a Lloegr; b) mai yng Nghymru y
mae chwech o'r 20 afon mwyaf llygredig yn y DU ledled Cymru a Lloegr; ac c) mai gan bobl yng
Nghymru y mae'r biliau dŵr ail uchaf allan o'r 11 cwmni dŵr yng
Nghymru a Lloegr. 2. Yn gresynu nad yw
Adroddiad Gorlifiadau Stormydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd saith mis yn
hwyr, yn cynnwys unrhyw argymhellion. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gosod targedau ar Dŵr
Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu rhwymo mewn cyfraith i wella
gorlifiadau; b) cynyddu gorfodaeth
a sicrhau bod dirwyon yn cael eu defnyddio i wella afonydd ac adfer
cynefinoedd; ac c) mynd i'r afael â
phibellau carthion heb drwyddedau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Gorlifiadau
Stormydd Cymru: adroddiad (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r cynnydd arwyddocaol yn nifer yr
afonydd sydd wedi sicrhau statws ecolegol da yng Nghymru ers 1999. 2. Yn nodi’r fframwaith cyfreithiol llym y mae
cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr yn gweithio ynddo. 3. Yn gwrthwynebu polisi Llywodraeth y DU i
godi’r gofynion o ran niwtraleiddio maethynnau a fyddai’n rhoi ein hafonydd
bregus mewn mwy o risg. 4. Yn nodi: a) bod Llywodraeth
Cymru’n cefnogi rhagor o wahanu dŵr wyneb er mwyn lleihau’r pwysau ar
systemau dŵr gwastraff trwy brysuro’r defnydd o systemau rheoli llifogydd
yn naturiol a systemau draenio cynaliadwy. b) y bydd Llywodraeth
Cymru’n defnyddio’i phwerau i sicrhau bod holl gwmnïau dŵr Cymru’n gostwng
o flwyddyn i flwyddyn nifer yr achosion o lygru, gan weithio at y nod o sero,
ond yn y tymor byr, eu bod yn rhoi stop ar bob achos o lygru difrifol. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3: sicrhau bod gan
Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i'w alluogi i gyflawni ei
gyfrifoldebau'n effeithiol; rhoi mecanweithiau ar
waith i atal taliadau bonws i staff gweithredol pe bai Dŵr Cymru yn methu
â chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd dŵr; cyflymu'r
gwaith o weithredu fframweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru i
sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn cael sylw cyn
gynted â phosibl. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig
heb ei ddiwygio: NDM8397 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi: a) bod
carthion a gaiff eu gollwng i ddyfroedd Cymru yn cyfrif am 25 y cant o'r holl
ollyngiadau ledled Cymru a Lloegr; b) mai
yng Nghymru y mae chwech o'r 20 afon mwyaf llygredig yn y DU ledled Cymru
a Lloegr; ac c) mai
gan bobl yng Nghymru y mae'r biliau dŵr ail uchaf allan o'r 11 cwmni dŵr yng
Nghymru a Lloegr. 2. Yn
gresynu nad yw Adroddiad Gorlifiadau Stormydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd
saith mis yn hwyr, yn cynnwys unrhyw argymhellion. 3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gosod
targedau ar Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu rhwymo
mewn cyfraith i wella gorlifiadau; b)
cynyddu gorfodaeth a sicrhau bod dirwyon yn cael eu defnyddio i wella afonydd
ac adfer cynefinoedd; ac c) mynd
i'r afael â phibellau carthion heb drwyddedau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y
safon. Gorlifiadau Stormydd Cymru:
adroddiad (Saesneg yn unig)
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r
cynnydd arwyddocaol yn nifer yr afonydd sydd wedi sicrhau statws ecolegol da
yng Nghymru ers 1999. 2. Yn nodi’r
fframwaith cyfreithiol llym y mae cwmnïau dŵr a
rheoleiddwyr yn gweithio ynddo. 3. Yn gwrthwynebu
polisi Llywodraeth y DU i godi’r gofynion o ran niwtraleiddio maethynnau a
fyddai’n rhoi ein hafonydd bregus mewn mwy o risg. 4. Yn nodi: a) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi rhagor o wahanu dŵr
wyneb er mwyn lleihau’r pwysau ar systemau dŵr
gwastraff trwy brysuro’r defnydd o systemau rheoli llifogydd yn naturiol a
systemau draenio cynaliadwy. b) y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’i phwerau i
sicrhau bod holl gwmnïau dŵr Cymru’n gostwng o flwyddyn i flwyddyn nifer yr
achosion o lygru, gan weithio at y nod o sero, ond yn y tymor byr, eu bod yn
rhoi stop ar bob achos o lygru difrifol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar
ddiwedd pwynt 3: sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol
Cymru ddigon o adnoddau i'w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol; rhoi mecanweithiau ar waith i atal
taliadau bonws i staff gweithredol pe bai Dŵr Cymru yn methu â chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd dŵr; cyflymu'r gwaith o weithredu
fframweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru i sicrhau bod
achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn cael sylw cyn gynted â phosibl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn
erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Gwrthdaro yn Israel a Gaza NDM8391 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio'r
ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn
galw am ryddhau gwystlon ar unwaith. 2. Yn nodi bod gan
Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei dinasyddion a
phoblogaeth feddianedig Palesteina. 3. Yn condemnio
ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at farwolaeth
miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol
y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palestina ar y cyd. 4. Yn galw ar y
gymuned ryngwladol i: a) uno i geisio
sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i
sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen; b) dwyn pwysau ar
Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn groes i
gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac c) gwneud popeth o
fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a galluogi
llwybr diogel allan o'r rhanbarth. 5. Yn sefyll mewn
undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru yr effeithiwyd
arnynt gan y gwrthdaro. 6. Yn annog y Senedd i
gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd heddwch parhaol yn y
rhanbarth. Cefnogwyr Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr) Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Cefin Campbell (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru) Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru) Mabon ap Gwynfor (Dwyfor
Meirionnydd) Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru) Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio'r ymosodiadau,
y trais a'r codi braw a gyflawnwyd yn ddiwahân gan Hamas yn erbyn Israel ar 7
Hydref. 2. Yn cydnabod hawl
pob gwladwriaeth sofran, gan gynnwys Gwladwriaeth Israel, i amddiffyn eu hunain
a'u dinasyddion. 3. Yn credu y dylid
cynnal rhyfel yn unol â chyfraith ryngwladol, gan gynnwys osgoi clwyfedigion
sifil. 4. Yn gresynu at golli
bywydau sifiliaid a chlwyfedigion yn Israel, Gaza a'r Lan Orllewinol. 5. Yn estyn
cydymdeimlad dwysaf pobl ar draws Cymru i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid. 6. Yn cydnabod y
risgiau pellach a berir gan yr argyfwng dyngarol sylweddol yn Gaza. 7. Galw am: a) rhyddhau gwystlon; b) atal gwrthdaro er
mwyn caniatáu sefydlu coridorau dyngarol; c) ailagor croesfan yr
Rafah i alluogi sifiliaid, gwladolion tramor, gweithwyr cymorth a chyflenwadau
dyngarol i groesi heb rwystr diangen; d) i'r gymuned
ryngwladol weithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r
gwrthdaro i ben a thrafod setliad heddwch parhaol sy'n sicrhau diogelwch a
ffyniant i bawb, yn seiliedig ar yr egwyddor datrysiad y ddwy wladwriaeth. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig
a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig
heb ei ddiwygio: NDM8391 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn condemnio'r
ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn
galw am ryddhau gwystlon ar unwaith. 2. Yn
nodi bod gan Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei
dinasyddion a phoblogaeth feddianedig Palesteina. 3. Yn
condemnio ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at
farwolaeth miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd
Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palestina ar y
cyd. 4. Yn
galw ar y gymuned ryngwladol i: a) uno i
geisio sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a
chaniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen; b) dwyn
pwysau ar Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn
groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac c) gwneud
popeth o fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a
galluogi llwybr diogel allan o'r rhanbarth. 5. Yn
sefyll mewn undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru yr
effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro. 6. Yn
annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd
heddwch parhaol yn y rhanbarth. Cefnogwyr Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.50 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8392 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) A
all gofalwyr fforddio gofalu? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.54 NDM8392 Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru) A all gofalwyr fforddio gofalu? |