NDM8391 Dadl Plaid Cymru - Gwrthdaro yn Israel a Gaza
NDM8391 Dadl Plaid Cymru - Gwrthdaro yn Israel a Gaza
NDM8391 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r
ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn
galw am ryddhau gwystlon ar unwaith.
2. Yn nodi bod gan
Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei dinasyddion a
phoblogaeth feddianedig Palesteina.
3. Yn condemnio
ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at farwolaeth
miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol
y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palestina ar y cyd.
4. Yn galw ar y
gymuned ryngwladol i:
a) uno i geisio
sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i
sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen;
b) dwyn pwysau ar
Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn groes i
gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac
c) gwneud popeth o
fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a galluogi
llwybr diogel allan o'r rhanbarth.
5. Yn sefyll mewn
undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru yr effeithiwyd
arnynt gan y gwrthdaro.
6. Yn annog y Senedd i
gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd heddwch parhaol yn y
rhanbarth.
Cefnogwyr
Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr)
Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru)
Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd)
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru)
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor
Meirionnydd)
Peredur Owen Griffiths
(Canol De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin
De Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r
ymosodiadau, y trais a'r codi braw a gyflawnwyd yn ddiwahân gan Hamas yn erbyn
Israel ar 7 Hydref.
2. Yn cydnabod hawl
pob gwladwriaeth sofran, gan gynnwys Gwladwriaeth Israel, i amddiffyn eu hunain
a'u dinasyddion.
3. Yn credu y dylid
cynnal rhyfel yn unol â chyfraith ryngwladol, gan gynnwys osgoi clwyfedigion
sifil.
4. Yn gresynu at golli
bywydau sifiliaid a chlwyfedigion yn Israel, Gaza a'r Lan Orllewinol.
5. Yn estyn
cydymdeimlad dwysaf pobl ar draws Cymru i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid.
6. Yn cydnabod y
risgiau pellach a berir gan yr argyfwng dyngarol sylweddol yn Gaza.
7. Galw am:
a) rhyddhau gwystlon;
b) atal gwrthdaro er
mwyn caniatáu sefydlu coridorau dyngarol;
c) ailagor croesfan yr
Rafah i alluogi sifiliaid, gwladolion tramor, gweithwyr cymorth a chyflenwadau
dyngarol i groesi heb rwystr diangen;
d) i'r gymuned
ryngwladol weithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r
gwrthdaro i ben a thrafod setliad heddwch parhaol sy'n sicrhau diogelwch a
ffyniant i bawb, yn seiliedig ar yr egwyddor datrysiad y ddwy wladwriaeth.
Cyd-gyflwynwyr
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024