Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 163(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 4, 6 and 9
gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.23 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
gyhoeddiad y Swyddfa Gartref ynglŷn â rhoi'r gorau i gynlluniau i gartrefu
ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.50 Atebwyd
gan y Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol a'r Prif Chwip Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad y Swyddfa Gartref ynglŷn â rhoi'r gorau
i gynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.03 Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad am - Wythnos Gofal Hosbis (9-15 Hydref). Gwnaeth
Gareth Davies ddatganiad am - Gwledd Eirin Dinbych (7 Hydref). Gwnaeth
Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Prosiect y Tŵr Pwllheli. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn NDM8368 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai: a) hyrwyddo diogelwch
cymunedol yn dilyn nifer cynyddol o ymosodiadau difrifol gan gŵn ledled
Cymru gan gynnwys rhai marwolaethau trasig; b) cyflwyno canllawiau
a rheoliadau i unrhyw un sy'n dymuno bod yn berchen ar fridiau cŵn
penodol, lle mae'n rhaid i berchnogion gyflawni meini prawf penodol i fod yn berchen
ar gi a allai fod yn beryglus; c) ymgynghori â
rhanddeiliaid i sefydlu diffiniad o gi a allai fod yn beryglus; d) gosod dyletswydd ar
awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau i weinyddu'r rheoliadau a chyflawni
dull gweithredu cyson ar draws Cymru; ac e) hyrwyddo mentrau
lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid, gwella ymwybyddiaeth
y cyhoedd ac addysgu'r cyhoedd ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.08 NDM8368 Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. 2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a)
hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dilyn nifer cynyddol o ymosodiadau difrifol gan
gŵn ledled Cymru gan gynnwys rhai marwolaethau trasig; b)
cyflwyno canllawiau a rheoliadau i unrhyw un sy'n dymuno bod yn berchen ar
fridiau cŵn penodol, lle mae'n rhaid i berchnogion gyflawni meini prawf
penodol i fod yn berchen ar gi a allai fod yn beryglus; c)
ymgynghori â rhanddeiliaid i sefydlu diffiniad o gi a allai fod yn beryglus; d)
gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau i weinyddu'r
rheoliadau a chyflawni dull gweithredu cyson ar draws Cymru; ac e)
hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid,
gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysgu'r cyhoedd ynghylch perchnogaeth
gyfrifol ar gŵn. Cefnogwyr Delyth Jewell (Dwyrain
De Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cyllid canlyniadol HS2 NDM8375 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod HS2 yn
brosiect i Loegr yn unig. 2. Yn gresynu bod
Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu'r cyllid canlyniadol llawn y dylai Cymru
ei gael o ganlyniad i HS2. 3. Yn gresynu hefyd
fod Plaid Lafur y DU yn gwrthod cytuno y dylai Cymru gael y cyllid canlyniadol
llawn. 4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i unioni’r cam hwn, a darparu'r cyllid sy'n ddyledus
i Gymru ar unwaith, fel y gallwn fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith y mae'r
Senedd hon yn dymuno eu blaenoriaethu, gan gynnwys trydaneiddio pob rheilffordd
yng Nghymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn credu y dylai Cymru
dderbyn cyllid canlyniadol. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn
galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddi yn
rheilffyrdd Cymru a fydd yn cael ei datblygu a’i chymeradwyo gan Fwrdd
Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.42 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8375 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod HS2 yn brosiect i Loegr yn unig. 2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu'r cyllid
canlyniadol llawn y dylai Cymru ei gael o ganlyniad i HS2. 3. Yn gresynu hefyd fod Plaid Lafur y DU yn gwrthod cytuno y dylai Cymru
gael y cyllid canlyniadol llawn. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i unioni’r cam hwn, a darparu'r cyllid sy'n
ddyledus i Gymru ar unwaith, fel y gallwn fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith y
mae'r Senedd hon yn dymuno eu blaenoriaethu, gan gynnwys trydaneiddio pob rheilffordd
yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn credu y dylai Cymru
dderbyn cyllid canlyniadol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn galw ar Lywodraeth y
DU i gefnogi rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru a fydd yn
cael ei datblygu a’i chymeradwyo gan Fwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8375 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod HS2 yn brosiect i Loegr yn unig. 2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu'r cyllid
canlyniadol llawn y dylai Cymru ei gael o ganlyniad i HS2. 3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi rhaglen gynhwysfawr
o fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru a fydd yn cael ei datblygu a’i chymeradwyo gan
Fwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl NDM8374 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi mai dydd
Mawrth 10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. 2. Yn croesawu sefydlu
gwasanaeth 24/7 111 pwyso 2 GIG Cymru. 3. Yn gresynu: a) bod hunan-niwed yn un
o’r pum prif resymau am dderbyniadau meddygol a bod cyfraddau hunanladdiad ar
gynnydd; b) bod nifer y plant
sy'n aros mwy na 4 wythnos am eu hapwyntiad iechyd meddwl cyntaf yng Nghymru ar
gynnydd; ac c) nad yw iechyd
meddwl yn cael ei drin â'r un flaenoriaeth ag iechyd corfforol. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cyflwyno deddf
iechyd meddwl newydd i Gymru i wella mynediad at gymorth a thriniaeth iechyd
meddwl i gleifion a'u teuluoedd a sicrhau cydraddoldeb o ran iechyd meddwl ac
iechyd corfforol; b) sicrhau bod
gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn cynyddu mewn termau real
bob blwyddyn er mwyn ateb y galw am wasanaethau iechyd meddwl; c) ymrwymo i ddarparu
uned anhwylderau bwyta benodedig ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru; a d)
sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant cymorth
cyntaf iechyd meddwl i’w staff. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) bod atal
hunanladdiad a hunan-niweidio yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i
Lywodraeth Cymru; b) mai iechyd meddwl
yw'r maes gwario uchaf o hyd gan y GIG yng Nghymru. Yn cytuno y dylai
iechyd meddwl gael ei drin â’r un flaenoriaeth ag iechyd corfforol. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Mewnosod fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: y bu diffyg addysg a
dealltwriaeth ynghylch iechyd meddwl Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Mewnosod fel
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4: gwneud iechyd meddwl
amenedigol yn flaenoriaeth yn Strategaeth Iechyd Meddwl newydd y Llywodraeth; sicrhau bod gan bob
gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda menywod yn y cyfnod amenedigol y
wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol o iechyd meddwl amenedigol; sicrhau bod gan bob
gwasanaeth mamolaeth isafswm o fydwragedd arbenigol amenedigol Band 7 cyfwerth
ag amser llawn; sicrhau
bod pob gweithiwr mamolaeth proffesiynol yn gofalu am iechyd meddwl yr un
graddau ag iechyd corfforol yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a chyfnod
ôl-enedigol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.23 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8374 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi mai dydd Mawrth 10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. 2. Yn croesawu sefydlu gwasanaeth 24/7 111 pwyso 2 GIG Cymru. 3. Yn gresynu: a) bod hunan-niwed yn un o’r pum prif resymau am dderbyniadau meddygol a
bod cyfraddau hunanladdiad ar gynnydd; b) bod nifer y plant sy'n aros mwy na 4 wythnos am eu hapwyntiad iechyd
meddwl cyntaf yng Nghymru ar gynnydd; ac c) nad yw iechyd meddwl yn cael ei drin â'r un flaenoriaeth ag iechyd
corfforol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyflwyno deddf iechyd meddwl newydd i Gymru i wella mynediad at
gymorth a thriniaeth iechyd meddwl i gleifion a'u teuluoedd a sicrhau
cydraddoldeb o ran iechyd meddwl ac iechyd corfforol; b) sicrhau bod gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn
cynyddu mewn termau real bob blwyddyn er mwyn ateb y galw am wasanaethau iechyd
meddwl; c) ymrwymo i ddarparu uned anhwylderau bwyta benodedig ar gyfer cleifion
mewnol yng Nghymru; a d) sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant
cymorth cyntaf iechyd meddwl i’w staff.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) bod atal hunanladdiad
a hunan-niweidio yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru; b) mai iechyd meddwl
yw'r maes gwario uchaf o hyd gan y GIG yng Nghymru. Yn cytuno y dylai iechyd
meddwl gael ei drin â’r un flaenoriaeth ag iechyd corfforol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Mewnosod fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: y bu diffyg addysg a
dealltwriaeth ynghylch iechyd meddwl Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Mewnosod fel is-bwyntiau
newydd ar ddiwedd pwynt 4: gwneud iechyd meddwl
amenedigol yn flaenoriaeth yn Strategaeth Iechyd Meddwl newydd y Llywodraeth; sicrhau bod gan bob
gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda menywod yn y cyfnod amenedigol y
wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol o iechyd meddwl amenedigol; sicrhau bod gan bob
gwasanaeth mamolaeth isafswm o fydwragedd arbenigol amenedigol Band 7 cyfwerth
ag amser llawn; sicrhau bod pob
gweithiwr mamolaeth proffesiynol yn gofalu am iechyd meddwl yr un graddau ag
iechyd corfforol yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a chyfnod ôl-enedigol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8373 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Effaith
defnyddio e-sigaréts ar draws Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.32 NDM8373 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Effaith defnyddio e-sigaréts ar draws Cymru. |