Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 153(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Gwnaeth
y Llywydd ddatganiad yn hysbysu’r Aelodau y caiff y balot nesaf ar gyfer Biliau
gan Aelodau ei gynnal ar 18 Hydref. |
||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd
yr eitem am 13.30 NNDM8336 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6
a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan o Reol
Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol
Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr
wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8335 gael ei ystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i sefydlu pwyllgor NNDM8335 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 16.3, yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio i graffu ar Filiau a
gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes. Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn
cael ei ddiddymu naill ai: i) pan fydd yr holl Filiau a
gyfeiriwyd at y Pwyllgor wedi cael y Cydsyniad Brenhinol ac mae’r Pwyllgor
Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau pellach yn cael eu cyfeirio at y
Pwyllgor; neu ii) pan fydd y Senedd yn
penderfynu felly; pa un bynnag sydd gynharaf. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 NNDM8335 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3: 1.
Yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y
Pwyllgor Busnes. 2.
Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai: a)
pan fydd yr holl Filiau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor wedi cael Cydsyniad
Brenhinol ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau
pellach yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor; neu b)
pan fydd y Senedd yn penderfynu felly; pa
un bynnag sydd gynharaf. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddyrannu cadeirydd pwyllgor i grwp gwleidyddol NNDM8337 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp
gwleidyddol y caiff cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei ethol ohono fydd grŵp
Llafur Cymru. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.31 Am
13.32, cafodd trafodion eu hatal am 10 munud. Canwyd y gloch 5 munud cyn
ailgynnull. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig: NNDM8337 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r
grŵp gwleidyddol y caiff cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei ethol
ohono fydd grŵp Llafur Cymru. Roedd
y canlyniad fel a ganlyn:
Derbyniwyd
y cynnig. |
|||||||||
(5 munud) |
Enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor Bydd y Llywydd yn gwahodd
enwebiadau ar gyfer cadeirydd y pwyllgor a ganlyn, yn unol â Rheol Sefydlog
17.2F: 1. Y Pwyllgor Biliau Diwygio –
Llafur. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.42 Gwahoddod
y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog
17.2F. Y
Pwyllgor Biliau Diwygio (Llafur) Cafodd
David Rees ei enwebu gan Jack Sargeant. Eiliodd
Sarah Murphy yr enwebiad. Gan
fod gwrthwynebiad i’r enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiad i bleidlais
gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2l. Am 18.00 cyhoeddodd y Llywydd ganlyniadau’r
bleidlais gyfrinachol ar gyfer ethol cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio:
Datganodd y Llywydd bod David Rees wedi’i ethol yn
Gadeirydd. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.44 Gofynnwyd
cwestiynau 1-8, 10 ac 11. Ni ofynnwyd cwestiwn 9. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 7 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar
benderfyniad y Llywodraeth na fydd yn darparu prydiau bwyd am ddim i blant
ysgol cymwys yn ystod gwyliau'r haf? Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y
ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng sgôr Dŵr Cymru? Gofyn i Weinidog yr Economi Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
benderfyniad Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i roi'r gorau i'r prosiect banc
cymunedol? Natasha
Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff
y Gweinidog ddatganiad am gau Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd wedi
arwain at ddileu £27.1m yng nghyfrifon Banc Datblygu Cymru ar gyfer 2022-23? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad y Llywodraeth na fydd yn darparu prydiau
bwyd am ddim i blant ysgol cymwys yn ystod gwyliau'r haf? Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng sgôr Dŵr
Cymru? Gofyn i Weinidog yr Economi Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i roi'r
gorau i'r prosiect banc cymunedol? Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru,
sydd wedi arwain at ddileu £27.1m yng Nghyfrifon Banc Datblygu Cymru ar gyfer
2022-23? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.08. Gwnaeth
Joel James ddatganiad am - Sophie Lisk yn cynrychioli
Cymru mewn athletau yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Trinidad a Tobago (4-11
Awst). |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25 NDM8329 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r gwaith
ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant
Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a
wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn: a) digwyddiad i
randdeiliaid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam; b) gweithdy gydag
aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a c) grwpiau ffocws
ymgysylltu â dinasyddion. Cyllideb
Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y
Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.09 NDM8329 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain
De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed
gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar
gyfer cyllideb 2024-25, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr
yn y digwyddiadau a ganlyn: a) digwyddiad i randdeiliaid
ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam; b) gweithdy gydag aelodau o
Senedd Ieuenctid Cymru; a c) grwpiau ffocws ymgysylltu â
dinasyddion. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Adroddiad
Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Fframweithiau Cyffredin NDM8328 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef Fframweithiau Cyffredin,
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mai 2023. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf
2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.10 NDM8328 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef Fframweithiau Cyffredin, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mai 2023. Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 5 Gorffennaf 2023. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y cyd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal NDM8327 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau ‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’ a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 02 Mawrth 2023 ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg, ‘Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â
phrofiad o fod mewn gofal’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2023. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 14 Mehefin 2023 a gosodwyd yr ymateb
i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 5 Gorffennaf 2023. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.39 NDM8327 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau ‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’ a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 02 Mawrth 2023 ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg, ‘Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl
ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2023. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 14 Mehefin 2023 a gosodwyd
yr ymateb i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 5 Gorffennaf 2023. Cyd-gyflwynwyr Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Ystâd y Goron NDM8326 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Ystâd y Goron,
ar lefel y DU, wedi cofnodi elw refeniw net o £442.6m yn y flwyddyn ariannol
2022-23; a b) bod gwerth asedau
Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd
diwethaf, gan gyrraedd £603 miliwn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021. 2. Yn credu y gellid
gwireddu nodau sero-net Cymru yn fwy effeithiol pe bai ganddi reolaeth lawn
dros ei hadnoddau. 3. Yn galw am ddatganoli
pwerau dros reoli Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru. Creating
lasting and shared prosperity for the nation -The Crown Estate (Saesneg
yn unig) Uchafbwyntiau
Cymru - Ystâd y Goron Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle: Yn croesawu cyfraniad
cadarnhaol Ystâd y Goron tuag at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a
chynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy sefydlu sector ynni adnewyddadwy
ar y môr blaengar. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymgysylltu ag Ystâd y Goron a rhanddeiliaid eraill i gyflawni ei nodau
sero net a chyflawni: strategaeth hydrogen i
Gymru; cynllun datblygu morol
cenedlaethol Cymru; cynllun adfer carbon
glas cenedlaethol i Gymru; a cefnogaeth
i brosiectau hydro ar raddfa fach. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8326 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Ystâd y Goron, ar lefel
y DU, wedi cofnodi elw refeniw net o £442.6m yn y flwyddyn ariannol 2022-23; a b) bod gwerth asedau Ystâd y
Goron yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan
gyrraedd £603 miliwn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021. 2. Yn credu y gellid gwireddu
nodau sero-net Cymru yn fwy effeithiol pe bai ganddi reolaeth lawn dros ei
hadnoddau. 3. Yn galw am ddatganoli pwerau
dros reoli Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru. Creating
lasting and shared prosperity for the nation -The Crown Estate (Saesneg yn unig) Uchafbwyntiau
Cymru 2020/21 - Ystâd y Goron
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor - Y Pwyllgor Biliau Diwygio Dechreuodd
yr eitem am 19.48 NNDM8338 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sarah Murphy (Llafur
Cymru), Darren Millar (y Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn
aelodau o’r Pwyllgor Biliau Diwygio. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd
yr eitem am 19.49 NNDM8334 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Buffy Williams (Llafur Cymru) yn aelod o
Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn lle Sarah Murphy (Llafur
Cymru). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd
yr eitem am 19.49 NNDM8332 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol mai’r
cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yw’r amserlen ar gyfer busnes yn
y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu trafod NDM8331 yn y
Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru NDM8331 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Pwyllgor Diben Arbennig
Ymchwiliad Covid-19 Cymru’ a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2023. 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 35
newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3.
Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael
effaith yn dilyn penderfyniad gan y Senedd y dylai Pwyllgor Diben Arbennig
Ymchwiliad Covid-19 Cymru ddod i ben, neu pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, pa
un bynnag sydd gyntaf. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.50 NDM8331 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Pwyllgor
Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2023. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol
Sefydlog 35 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3.
Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael
effaith yn dilyn penderfyniad gan y Senedd y dylai’r Pwyllgor Diben Arbennig
Ymchwiliad Covid-19 Cymru ddod i ben, neu pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, pa
un bynnag sydd gyntaf. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 19.50 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8330 Russell George (Sir Drefaldwyn) Pwysigrwydd
dysgu CPR i holl Aelodau o’r Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 19.52 NDM8330 Russell George
(Sir Drefaldwyn) Pwysigrwydd
dysgu CPR i holl Aelodau o'r Senedd |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |