Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 152
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.37 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun Ffermio Cynaliadwy Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.58 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.36 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cenedl Masnach Deg – nodi 15 mlynedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.06 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 NDM8324 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwastraff
Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol
â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2023. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.44 NDM8324 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru)
2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2023. Dogfennau
Ategol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth NDM8325 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 11.21(ii): Yn nodi: a) adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru 2022/23; b) y cynnydd mewn perthynas
â’r rhaglen ddeddfwriaethol. Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru 2023 Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r
Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer
o bolisïau trawsnewidiol ar waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu. Gwelliant 2 - Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen
ddeddfwriaethol yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau
angenrheidiol i sicrhau gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl
Cymru, bod yn rhaid i ni barhau i gyflwyno'r achos dros bwerau ychwanegol ond,
yn y pen draw, mai annibyniaeth yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau Cymru
wyrddach, decach a mwy ffyniannus. Gwelliant 3 - Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at
fethiannau sylweddol Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau
sydd ar y systemau iechyd ac addysg, sydd ill dwy wedi derbyn toriadau tymor
real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael
â'r bwlch mewn cyflog mynd adref rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas
Unedig, yn ogystal â'r ffaith mai gan Gymru y mae cyfradd gyflogaeth isaf
y DU. Yn gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol
yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.53 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8325 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): Yn
nodi: a)
adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022/23; b)
y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol. Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023 Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid
Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer o bolisïau trawsnewidiol ar
waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos nad oes
gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau angenrheidiol i sicrhau gwelliannau
ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl Cymru, bod yn rhaid i ni barhau i
gyflwyno'r achos dros bwerau ychwanegol ond, yn y pen draw, mai annibyniaeth
yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau Cymru wyrddach, decach a mwy ffyniannus. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at fethiannau sylweddol Llywodraeth
Cymru o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar y systemau iechyd ac
addysg, sydd ill dwy wedi derbyn toriadau tymor real yng nghyllideb Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2023-24. Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch mewn
cyflog mynd adref rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal
â'r ffaith mai gan Gymru y mae cyfradd gyflogaeth isaf y DU. Yn
gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni'r newid sydd
ei angen ar Gymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8325 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): 1.
Yn nodi: a)
adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022/23; b)
y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol. 2. Yn
croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid
Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer o bolisïau trawsnewidiol ar
waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu. Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.39 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |