Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 119 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad gan y Llywydd

Fe wnaeth y Llywydd ddatganiad yn estyn cydymdeimlad y Senedd i Carolyn Thomas AS a’i theulu yn dilyn colli ei mab.

Fe wnaeth y Llywydd hefyd estyn cydymdeimlad ar ran y Senedd i bawb sydd wedi’u heffeithio gan y daeargryn yn Nhwrci a Syria ddoe.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.30

(120 munud)

4.

Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

NDM8194 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf.

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8194 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

38

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf.

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

40

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8194 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

11

13

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Pwynt o Drefn

Cododd Heledd Fychan Bwynt o Drefn ynghylch iaith Hefin David wrth gyfeirio at y Cyngor yng Nghaerffili sydd o dan arweiniad Plaid Cymru. Fe wnaeth y Dirprwy Lywydd ddyfarnu bod yr iaith yn gwbl amhriodol, ac y dylai’r Aelod dynnu’r sylwadau yn ôl ac ymddiheuro, ac fe wnaeth yr Aelod hynny.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

5.

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

NDM8197 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

Gosodwyd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 26 Medi 2022.

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2023.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6.

Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

NDM8198 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

NDM8198 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.22

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: