Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 119
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Fe wnaeth y Llywydd ddatganiad
yn estyn cydymdeimlad y Senedd i Carolyn Thomas AS a’i theulu yn dilyn colli ei
mab. Fe wnaeth y Llywydd hefyd
estyn cydymdeimlad ar ran y Senedd i bawb sydd wedi’u heffeithio gan y
daeargryn yn Nhwrci a Syria ddoe. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog
12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn
ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.15 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.30 |
|||||||||||||||||||||||||
(120 munud) |
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 NDM8194 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn
nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni
blaenoriaethau pobl Cymru. Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y
gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er
mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a
gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.00 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8194 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13
Rhagfyr 2022. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod Cyllideb
Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Siân
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch
gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r
gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help
ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf. Dogfennau Ategol Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8194 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr
2022.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Pwynt o Drefn Cododd Heledd Fychan Bwynt o Drefn ynghylch
iaith Hefin David wrth gyfeirio at y Cyngor yng Nghaerffili sydd o dan
arweiniad Plaid Cymru. Fe wnaeth y Dirprwy Lywydd ddyfarnu bod yr iaith yn gwbl
amhriodol, ac y dylai’r Aelod dynnu’r sylwadau yn ôl ac ymddiheuro, ac fe
wnaeth yr Aelod hynny. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24
i gynnal dadl ar eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. |
||||||||||||||||||||||||||
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) NDM8197 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Gosodwyd
Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 26
Medi 2022. Gosodwyd adroddiad Pwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2023. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 NDM8197 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Gosodwyd Bil
Amaethyddiaeth (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron
y Senedd ar 26 Medi 2022. Gosodwyd adroddiad Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2023. Dogfennau
Ategol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) NDM8198 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Amaethyddiaeth
(Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato
yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 NDM8198 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil
Amaethyddiaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant
o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r
Bil. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.22 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |