Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 81 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad byr ynghylch ateb a roddwyd yn ystod y sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos gynt, yn dilyn gohebiaeth a gafodd wedi hynny gan Network Rail a gadarnhaodd nad oedd unrhyw staff Network Rail wedi cael eu hail-leoli yn ystod y streic yr wythnos gynt. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r llythyr ar gael i’r Aelodau yn y Llyfrgell.

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.33

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.47

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.28

(30 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

(30 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.06

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-2026

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

 

(15 munud)

9.

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022

NDM8035 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

NDM8035 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

10.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

NDM8045 Jeremy Miles (Castell Nedd)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 3

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.15

Yn unol a Rheol Sefydlog 26.50C, gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8045 Jeremy Miles (Castell Nedd)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 3

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.28 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 18.32

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: