Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 74
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-6 ac 8-10. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Tom Giffard (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu
dosbarthiad llety hunanarlwyo at ddibenion treth leol? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Atebwyd
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Tom
Giffard (Gorllewin De Cymru):
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu
dosbarthiad llety hunanarlwyo at ddibenion treth leol? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.14 Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad am – Wythnos Beddau Rhyfel. Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad am – Mis Esgyrn Brau. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.18 NNDM8010 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur
Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Alun Davies (Llafur
Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus NDM7964 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) mai Llywodraeth
Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y
bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi; b) bod cynlluniau
pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers
blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi; c) bod partneriaeth
bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl
a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn
bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn; d) bod Aelodau'r
Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi
wrth danwydd ffosil; e) pe bai cynlluniau
pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad
gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i
greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i
ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â
thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus. Cefnogwyr Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.18 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7964 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
mai Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan
gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi; b)
bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd
ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i
ddadfuddsoddi; c)
bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o
ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan
ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn; d)
bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu
hunain oddi wrth danwydd ffosil; e)
pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru
fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr
cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar
strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn
cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus. Cefnogwyr Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Cefin Campbell (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De
Cymru) Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1249 - Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru NDM8008 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1249
Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom
Tourette yng Nghymru’ a gasglodd 10,393 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.01 NDM8008 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i
bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru’ a gasglodd
10,393 o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cyllid ar ôl Brexit NDM8009 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu nad yw
ffrydiau ariannu ar ôl Brexit yn gweithio i Gymru. 2. Yn gresynu at y
ffaith y bydd Cymru £1 biliwn ar ei cholled o ran cyllid na chafwyd arian yn ei
le dros y tair blynedd nesaf. 3. Yn credu bod
trefniadau newydd sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU wedi
tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant yn strategol er budd
Cymru a'i chymunedau. 4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i adfer goruchwyliaeth ddemocrataidd Cymru dros y
ffrydiau ariannu ar ôl Brexit drwy eu datganoli i'r Senedd. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod
ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso cymunedau lleol yng Nghymru drwy’r
agenda ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin. 2. Yn croesawu'r
cadarnhad a gafwyd dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei
cholled o ran cyllid ar ôl ymadael â'r UE. 3.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwersi'n cael eu
dysgu o'r ffordd y gweinyddir cronfeydd yr UE o dan gynlluniau'r cronfeydd
strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd fel bod buddsoddiad gan y ddwy lywodraeth yn
y dyfodol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.34 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8009 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu nad yw ffrydiau
ariannu ar ôl Brexit yn gweithio i Gymru. 2. Yn gresynu at y ffaith y
bydd Cymru £1 biliwn ar ei cholled o ran cyllid na chafwyd arian yn ei le dros
y tair blynedd nesaf. 3. Yn credu bod trefniadau
newydd sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU wedi tanseilio
gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant yn strategol er budd Cymru a'i
chymunedau. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
adfer goruchwyliaeth ddemocrataidd Cymru dros y ffrydiau ariannu ar ôl Brexit
drwy eu datganoli i'r Senedd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.28 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.31 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8007 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Bioamrywiaeth: y
darlun mawr. Hau'r dyfodol - pwysigrwydd rheoli ymylon glaswellt a
glaswelltiroedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 NDM8007 Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Bioamrywiaeth:
y darlun mawr. Hau'r dyfodol - pwysigrwydd rheoli ymylon glaswellt a
glaswelltiroedd |