Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 69(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Cododd
Andrew RT Davies bwynt o drefn mewn cysylltiad â chwestiynau Arweinydd Plaid
Cymru i’r Prif Weinidog. Roedd o’r farn bod y cwestiynau a ofynnwyd yn ymwneud
â maes polisi o fewn y Cytundeb Cydweithio, yn groes i ganllawiau ar y mater
hwn a gyhoeddwyd gan y Llywydd. Cytunodd y Llywydd ac ailadroddodd ei
disgwyliad na fydd cwestiynau’n cael eu defnyddio yn y dyfodol i hyrwyddo
agweddau ar y Cytundeb. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.39 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2 Cofnodion: Gan
nad oedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bresennol ar gyfer dechrau’r datganiad,
cynigiodd y Llywydd symud i eitem 5 cyn cymryd eitem 4. Nid oedd unrhyw
wrthwynebiad. Dechreuodd
yr eitem am 15.21 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.01 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.58 |
|
(15 munud) |
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 NDM7995 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu
Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r
fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.28 NDM7995 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr
Gweithrediaeth) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2022. Dogfennau
Ategol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |