Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 27(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4-8. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl.
Atebwyd cwestiynau 2 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.40 Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-8. Ni ofynnwyd cwestiwn 4.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.06 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am
15.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Samuel
Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn
ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi
Llanddewi Felffre i Redstone Cross? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â phryderon a
morâl staff o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dilyn cyhoeddi
adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Meddygon?? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Samuel
Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn
ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi
Llanddewi Felffre i Redstone Cross? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r
afael â phryderon a morâl staff o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn
dilyn cyhoeddi adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Meddygon? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.50 Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am: Eryri – dathlu 70
mlynedd o Barc Cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil perchnogaeth cyflogai NDM7722 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a pherchnogaeth gan
weithwyr. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) deddfu ar gyfer
cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol, y cymorth
ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr; b) rhoi dyletswydd
statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn 2026 ac i fynd
ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr; c) rhoi cymorth a
chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o fusnes sy'n
wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu cwmni
cydweithredol i weithwyr; d) sicrhau bod pob
cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r bartneriaeth
gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion pryniant
a pherchnogaeth gan weithwyr. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.52 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7722
Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a
pherchnogaeth gan weithwyr. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
deddfu ar gyfer cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith
cyfreithiol, y cymorth ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr; b)
rhoi dyletswydd statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn
2026 ac i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr; c)
rhoi cymorth a chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o
fusnes sy'n wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu
cwmni cydweithredol i weithwyr; d)
sicrhau bod pob cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r
bartneriaeth gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion
pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr. Cefnogwyr Dyma
ganlyniad y bleidlais:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Recriwtio athrawon NDM7811 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod gwaith caled
ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru drwy gydol pandemig
COVID-19. 2. Yn cydnabod bod
athrawon yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail wrth i ni symud allan
o'r pandemig a gweithredu cwricwlwm newydd. 3. Yn credu bod y
ffaith bod nifer yr athrawon yng Nghymru yn disgyn yn cael effaith andwyol ar
allu dysgwyr i oresgyn effaith andwyol y pandemig ar eu haddysg. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ar frys i hybu recriwtio athrawon, sy'n
cynnwys: a) gosod targedau i ddarparu
5,000 o athrawon ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf; b) ad-dalu ffioedd
dysgu i'r rhai sy'n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf bum mlynedd
yn ysgolion Cymru; c) sefydlu gwasanaeth
cynghori ar addysg i Gymru i wella mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sefydlu
mwy o lwybrau i'r proffesiwn addysgu; d) gwarantu o leiaf
flwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru i bob athro
sydd newydd gymhwyso. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn mynegi ei
diolchgarwch i’r gweithlu addysg cyfan am flaenoriaethu lles dysgwyr ac am ei
ymrwymiad i weithredu’r cwricwlwm newydd er gwaethaf pwysau digynsail y
pandemig. 3. Yn credu bod lles y
gweithlu addysg o’r pwys mwyaf. 4. Yn cydnabod bod
dysgu proffesiynol yn hanfodol er mwyn sicrhau gweithlu brwd o ansawdd. 5. Yn condemnio
penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac
effaith hynny ar athrawon ar adeg o bwysau digynsail ar y gweithlu. 6. Yn croesawu: a) y cynnydd o 40 y
cant yn y ceisiadau ar gyfer cyrsiau athrawon y llynedd. b) y cynnydd o 15.9 y
cant yng nghyflogau athrawon newydd yng Nghymru ers 2019, a’r cynnydd o
1.75 y cant y gwnaeth Llywodraeth Cymru helpu i’w sicrhau yng nghyflog pob
athro eleni er gwaethaf y rhewi ar gyflogau’r sector cyhoeddus. c) y ffaith bod cyllid
ychwanegol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi helpu i baru
dros 400 o athrawon sydd newydd gymhwyso ag ysgolion. d) y ffaith bod ffocws
Cymru ar ddysgu proffesiynol ymhlith athrawon wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth
eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill OECD, ac yn darparu
sylfaen gadarn i wella dysgu proffesiynol mewn ysgolion. e) y ffaith bod Cymru
yn arwain y ffordd â chanllawiau fframwaith statudol ar gyfer ysgol gyfan, sydd
wedi’u dylunio i gefnogi lles staff yn ogystal â dysgwyr. Safbwyntiau
Polisi Addysg OECD – Astudiaeth o Ddysgu Proffesiynol i Athrawon: Adroddiad
Diagnostig i Gymru (Saesneg yn unig) [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn credu
bod nifer fawr o ffactorau'n dylanwadu ar y ffaith bod nifer yr
athrawon yn gostwng, gan gynnwys llwyth gwaith, biwrocratiaeth ddiangen, materion
staffio a phersonél, prosesau arolygu, yn ogystal â materion sy'n ymwneud â
chyllid a chyllidebu; Yn credu ymhellach fod
yn rhaid mynd i'r afael â materion recriwtio gan ddefnyddio dull gweithredu
aml-elfen, gan ganolbwyntio ar werthfawrogi'r proffesiwn a chreu gwell amodau
gwaith a chyfleoedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.26 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7811 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod gwaith
caled ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru drwy gydol pandemig
COVID-19. 2. Yn cydnabod bod
athrawon yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail wrth i ni symud allan
o'r pandemig a gweithredu cwricwlwm newydd. 3. Yn credu bod y ffaith
bod nifer yr athrawon yng Nghymru yn disgyn yn cael effaith andwyol ar allu
dysgwyr i oresgyn effaith andwyol y pandemig ar eu haddysg. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun ar frys i hybu recriwtio athrawon, sy'n cynnwys: a) gosod targedau i
ddarparu 5,000 o athrawon ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf; b) ad-dalu ffioedd dysgu
i'r rhai sy'n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf bum mlynedd yn
ysgolion Cymru; c) sefydlu gwasanaeth
cynghori ar addysg i Gymru i wella mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sefydlu
mwy o lwybrau i'r proffesiwn addysgu; d) gwarantu o leiaf
flwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru i bob athro
sydd newydd gymhwyso.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: 2. Yn mynegi ei
diolchgarwch i’r gweithlu addysg cyfan am flaenoriaethu lles dysgwyr ac am ei
ymrwymiad i weithredu’r cwricwlwm newydd er gwaethaf pwysau digynsail y
pandemig. 3. Yn credu bod lles y
gweithlu addysg o’r pwys mwyaf. 4. Yn cydnabod bod dysgu
proffesiynol yn hanfodol er mwyn sicrhau gweithlu brwd o ansawdd. 5. Yn condemnio
penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac
effaith hynny ar athrawon ar adeg o bwysau digynsail ar y gweithlu. 6. Yn croesawu: a) y cynnydd o 40 y
cant yn y ceisiadau ar gyfer cyrsiau athrawon y llynedd. b) y cynnydd o 15.9 y
cant yng nghyflogau athrawon newydd yng Nghymru ers 2019, a’r cynnydd o
1.75 y cant y gwnaeth Llywodraeth Cymru helpu i’w sicrhau yng nghyflog pob
athro eleni er gwaethaf y rhewi ar gyflogau’r sector cyhoeddus. c) y ffaith bod cyllid
ychwanegol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi helpu i baru
dros 400 o athrawon sydd newydd gymhwyso ag ysgolion. d) y ffaith bod ffocws
Cymru ar ddysgu proffesiynol ymhlith athrawon wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth
eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill OECD, ac yn darparu
sylfaen gadarn i wella dysgu proffesiynol mewn ysgolion. e) y ffaith bod Cymru yn
arwain y ffordd â chanllawiau fframwaith statudol ar gyfer ysgol gyfan, sydd
wedi’u dylunio i gefnogi lles staff yn ogystal â dysgwyr. Safbwyntiau Polisi Addysg OECD –
Astudiaeth o Ddysgu Proffesiynol i Athrawon: Adroddiad Diagnostig i Gymru (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7811 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod gwaith
caled ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru drwy gydol pandemig
COVID-19. 2. Yn mynegi ei
diolchgarwch i’r gweithlu addysg cyfan am flaenoriaethu lles dysgwyr ac am ei
ymrwymiad i weithredu’r cwricwlwm newydd er gwaethaf pwysau digynsail y
pandemig. 3. Yn credu bod lles y
gweithlu addysg o’r pwys mwyaf. 4. Yn cydnabod bod dysgu
proffesiynol yn hanfodol er mwyn sicrhau gweithlu brwd o ansawdd. 5. Yn condemnio
penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac
effaith hynny ar athrawon ar adeg o bwysau digynsail ar y gweithlu. 6. Yn croesawu: a) y cynnydd o 40 y
cant yn y ceisiadau ar gyfer cyrsiau athrawon y llynedd. b) y cynnydd o 15.9 y
cant yng nghyflogau athrawon newydd yng Nghymru ers 2019, a’r cynnydd o
1.75 y cant y gwnaeth Llywodraeth Cymru helpu i’w sicrhau yng nghyflog pob
athro eleni er gwaethaf y rhewi ar gyflogau’r sector cyhoeddus. c) y ffaith bod cyllid
ychwanegol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi helpu i baru
dros 400 o athrawon sydd newydd gymhwyso ag ysgolion. d) y ffaith bod ffocws
Cymru ar ddysgu proffesiynol ymhlith athrawon wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth
eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill OECD, ac yn darparu
sylfaen gadarn i wella dysgu proffesiynol mewn ysgolion. e) y ffaith bod Cymru yn arwain
y ffordd â chanllawiau fframwaith statudol ar gyfer ysgol gyfan, sydd wedi’u
dylunio i gefnogi lles staff yn ogystal â dysgwyr. Safbwyntiau Polisi Addysg OECD –
Astudiaeth o Ddysgu Proffesiynol i Athrawon: Adroddiad Diagnostig i Gymru (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.04 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i
ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd
yr eitem am 18.11 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7810 Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro) Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru: datblygu pobl
ifanc gydwybodol yng nghefn gwlad Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.15 NDM7810
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro) Clybiau
Ffermwyr Ifanc Cymru: datblygu pobl ifanc gydwybodol yng nghefn gwlad Cymru |