Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 9(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.26

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4, 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.13 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gwnaeth Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) ddatganiad i nodi 80 mlynedd o Gôr Merched Treforys.

Gwnaeth Darren Millar (Gorllewin Clwyd) ddatganiad am Ddiwrnod y Lluoedd Wrth Gefn.

Gwnaeth Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd) ddatganiad i goffáu David R Edwards a’i gyfraniadau i gerddoriaeth Gymraeg.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 15.30

NDM7727 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 23 Mehefin 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigion o dan Reolau Sefydlog 16.1 ac 16.3 i gytuno teitlau a chylchoedd gwaith Pwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM7729 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno y caiff y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro, a sefydlwyd ar 26 Mai 2021, ei ailenwi y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Ei gylch gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, a Rheol Sefydlog 26C, ac i ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth, datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol cyfansoddiadol Cymru), cyfiawnder, a materion allanol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) newidiadau i’r setliad datganoli, a chysylltiadau rhynglywodraethol.

NDM7731 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013; O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru, a chynnydd y pwerau hynny. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.

NDM7732 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3, i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall y pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pheirianwaith llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Gymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

NDM7733 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

NDM7734 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

NDM7735 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd, adfywio, sgiliau, masnach, ymchwil a datblygu (gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth), a materion gwledig.

NDM7736 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol , cymunedau, a thai.

NDM7737 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith. Yn ogystal, gall y pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol; a gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

NDM7738 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni; cynllunio; trafnidiaeth, a chysylltedd.

NDM7739 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol. Gall y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y Gymraeg.

NDM7740 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.

NDM7741 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 23.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau pleidiau

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM7728 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:

1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;

2. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ceidwadwyr Cymreig;

3. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ceidwadwyr Cymreig;

4. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Plaid Cymru;

5. Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llafur;

6. Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfarthrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru;

7. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur;

8. Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;

9. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;

10. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Llafur;

11. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur;

12. Y Pwyllgor Deisebau - Llafur.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i benodi Comisiwn y Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM7730 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Ken Skates (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), yn aelodau o Gomisiwn y Senedd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws

NDM7704 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.

3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu defnydd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.

4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:

a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;

b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;

c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a

d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.

Cytundeb Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021

Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021

Cyd-gyflwynwyr

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Hefin David (Caerffili)

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

NDM7716 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

2. Yn credu y dylid parchu canlyniadau refferenda bob amser.

3. Yn cydnabod bod nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bygythiadau parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa ffyniant gyffredin;

2. Yn credu y dylai pleidleiswyr bob amser gael cynigion clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol;

3.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru. 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.

3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.

Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7716 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

2. Yn credu y dylid parchu canlyniadau refferenda bob amser.

3. Yn cydnabod bod nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bygythiadau parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa ffyniant gyffredin;

2. Yn credu y dylai pleidleiswyr bob amser gael cynigion clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol;

3.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.

3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.

Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7716 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.

3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.

Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

8.

Dadl Fer

NDM7710 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bargen deg i weithwyr.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.51

NDM7710 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bargen deg i weithwyr.

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM7717 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Dileu'r clafr yng Nghymru: yr angen parhaus i gael cynllun cryf ar waith i ddileu'r clafr yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.05

NDM7717 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Dileu'r clafr yng Nghymru: yr angen parhaus i gael cynllun cryf ar waith i ddileu'r clafr yng Nghymru.