NDM7716 Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
NDM7716 Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
NDM7716 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 23
Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu y dylid
parchu canlyniadau refferenda bob amser.
3. Yn cydnabod bod
nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad
i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar
y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/06/2021