Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 309 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.   
Gweld y Cwestiynau
 
Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.   
Gweld y Cwestiynau
 
Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella diogelwch cymunedol yn sgil ymosodiad angheuol gan gi yn Sir Fynwy?

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y llifogydd eang yn Sir Gaerfyrddin neithiwr, ac amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cymorth a mesurau ataliol yn y dyfodol i gymunedau yr effeithir arnynt?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Atebwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig 

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

Gwnaeth Sam Rowlands ddatganiad ar Diwrnod Strôc y Byd (29 Hydref 2025).

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad ar Aberystwyth - Dinas Llenyddiaeth Unesco.

(5 munud)

5.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025

NDM9033 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref. 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. 

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Ionawr 2026.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.38

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

6.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd

NDM9032 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2025. 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NDM9032 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2025. 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NNDM9037 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

7.

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar ffrwythau a llysiau

NDM8985 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar gynnyrch ffres ar gyfer ffrwythau a llysiau sydd wedi cael eu profi i fod o ddim budd neu fod y budd yn ddibwys, o ran ymestyn oes silff pan fyddant wedi'u pecynnu mewn plastig. 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: 

a) lleihau faint o blastig untro diangen sydd ar draws cadwyni cyflenwi Cymru, gan ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl; 

b) lleihau gwastraff bwyd a lleihau'r baich ar gyllid cartrefi drwy ganiatáu i ddefnyddwyr brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnynt yn seiliedig ar bwysau. 

3. Yn nodi y byddai'r Bil yn berthnasol dim ond wrth brynu ffrwythau a llysiau mewn symiau is na 1.5kg. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8985 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar gynnyrch ffres ar gyfer ffrwythau a llysiau sydd wedi cael eu profi i fod o ddim budd neu fod y budd yn ddibwys, o ran ymestyn oes silff pan fyddant wedi'u pecynnu mewn plastig.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: 

a) lleihau faint o blastig untro diangen sydd ar draws cadwyni cyflenwi Cymru, gan ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl; 

b) lleihau gwastraff bwyd a lleihau'r baich ar gyllid cartrefi drwy ganiatáu i ddefnyddwyr brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnynt yn seiliedig ar bwysau.

3. Yn nodi y byddai'r Bil yn berthnasol dim ond wrth brynu ffrwythau a llysiau mewn symiau is na 1.5kg.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

19

7

53

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE

NDM9034 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad traws-bwyllgor y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol; y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: ‘Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2025. 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.10

9.

Dadl Plaid Cymru - gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru

NDM9031 Heledd Fychan (Canol De Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, a gychwynnwyd gan Blaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio.  

2. Yn gresynu bod cynnydd ar y rhaglen waith hon wedi bod yn araf o dan arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur Cymru.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r cynnydd o ran diwygio'r system gofal cymdeithasol drwy wneud y canlynol: 

a) penodi cyfarwyddwr ar gyfer Cymru gyfan gyda goruchwyliaeth strategol o drefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty; 

b) datblygu cyllidebau cyfunol ar gyfer trefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty; 

c) gosod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol gyda chylch gwaith clir i feithrin mwy o gydweithredu rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol; 

d) sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael asesiad o anghenion o fewn cyfnod o 28 diwrnod; ac 

e) ymgorffori o fewn cyfraith Cymru isafswm blynyddol cyfreithiol o ddiwrnodau seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl.  
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
   
Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)   
Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

1. Yn gresynu: 

a) bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol wedi methu â chyflawni newid ystyrlon yn y sector gofal cymdeithasol; 

b) bod baich treth cynyddol Llywodraeth Lafur y DU a roddir ar gyflogwyr, drwy godiadau yswiriant gwladol, yn bygwth hyfywedd llawer o ddarparwyr gofal; 

c) bod Llywodraeth Cymru wedi methu cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu digonol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad digonol at hyfforddiant, a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru; 

d) bod bwlch brawychus ac annerbyniol rhwng polisi ac ymarfer ar asesiadau ar gyfer gofalwyr a darparu cymorth; ac 

e) bod problemau parhaus o ran mynediad at becynnau gofal sy'n arwain at oedi wrth ryddhau o'r ysbyty. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) cyflwyno hawl statudol i seibiant, gydag isafswm o 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfer gofalwyr di-dâl; a 

b) datblygu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon, yn y parth cyhoeddus, i gefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad at asesiadau, darparu cymorth amserol, mynediad at seibiant, a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol.    

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:  

Cynnig bod y Senedd:  

1.  Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, sef ymrwymiad ar y cyd yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. 

2.  Yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar raglen waith Cam 1 mewn partneriaeth, gan gynnwys:  

a) sefydlu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol gref, gan weithio ochr yn ochr â swydd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru. 

b) sefydlu'r egwyddorion a'r safonau cenedlaethol i lywio'r gwaith o drawsnewid i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth mewn modd sy'n canolbwyntio ar y person;  

c) deddfu ar ddileu elw o ofal plant ac estyn yr opsiwn o daliadau uniongyrchol i bobl sy'n cael gofal iechyd parhaus; a 

d) sefydlu Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a'i gwaith i ddatblygu fframwaith tâl a dilyniant. 

3.   Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol: 

a)  cydgynhyrchu glasbrint ar gyfer System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru; 

b)  cryfhau llywodraethiant cenedlaethol a rhanbarthol i arwain a chefnogi system iechyd a gofal cymdeithasol fwy cydgysylltiedig yng Nghymru; 

c)  buddsoddi £278m y flwyddyn drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i feithrin capasiti ar gyfer gofal cymunedol integredig yn ogystal â buddsoddi £30m mewn llwybrau gofal, o ganlyniad i'r cytundeb cyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru; 

d) cryfhau deddfwriaeth a chanllawiau mewn perthynas ag integreiddio a gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys cydgomisiynu a chyfuno adnoddau; 

e)  sbarduno'r gwaith o gyflawni'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys y cynllun seibiannau byr i helpu gofalwyr gyda'u gweithgareddau hanfodol; 

f)  sefydlu Fforwm y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a pharhau i ariannu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithlu gwerthfawr; a 

g) cynnal y gyfundrefn fwyaf hael o ran codi tâl yn y DU gyda therfyn cyfalaf o £50,000 ar gyfer gofal preswyl a chap wythnosol o £100 ar gyfer gofal cartref. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM9031 Heledd Fychan (Canol De Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, a gychwynnwyd gan Blaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio.  

2. Yn gresynu bod cynnydd ar y rhaglen waith hon wedi bod yn araf o dan arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur Cymru.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r cynnydd o ran diwygio'r system gofal cymdeithasol drwy wneud y canlynol: 

a) penodi cyfarwyddwr ar gyfer Cymru gyfan gyda goruchwyliaeth strategol o drefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty; 

b) datblygu cyllidebau cyfunol ar gyfer trefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty; 

c) gosod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol gyda chylch gwaith clir i feithrin mwy o gydweithredu rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol; 

d) sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael asesiad o anghenion o fewn cyfnod o 28 diwrnod; ac 

e) ymgorffori o fewn cyfraith Cymru isafswm blynyddol cyfreithiol o ddiwrnodau seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

1

40

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)   
Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

1. Yn gresynu: 

a) bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol wedi methu â chyflawni newid ystyrlon yn y sector gofal cymdeithasol; 

b) bod baich treth cynyddol Llywodraeth Lafur y DU a roddir ar gyflogwyr, drwy godiadau yswiriant gwladol, yn bygwth hyfywedd llawer o ddarparwyr gofal; 

c) bod Llywodraeth Cymru wedi methu cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu digonol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad digonol at hyfforddiant, a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru; 

d) bod bwlch brawychus ac annerbyniol rhwng polisi ac ymarfer ar asesiadau ar gyfer gofalwyr a darparu cymorth; ac 

e) bod problemau parhaus o ran mynediad at becynnau gofal sy'n arwain at oedi wrth ryddhau o'r ysbyty. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) cyflwyno hawl statudol i seibiant, gydag isafswm o 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfer gofalwyr di-dâl; a 

b) datblygu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon, yn y parth cyhoeddus, i gefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad at asesiadau, darparu cymorth amserol, mynediad at seibiant, a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:  

Cynnig bod y Senedd:  

1.  Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, sef ymrwymiad ar y cyd yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. 

2.  Yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar raglen waith Cam 1 mewn partneriaeth, gan gynnwys:  

a) sefydlu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol gref, gan weithio ochr yn ochr â swydd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru. 

b) sefydlu'r egwyddorion a'r safonau cenedlaethol i lywio'r gwaith o drawsnewid i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth mewn modd sy'n canolbwyntio ar y person;  

c) deddfu ar ddileu elw o ofal plant ac estyn yr opsiwn o daliadau uniongyrchol i bobl sy'n cael gofal iechyd parhaus; a 

d) sefydlu Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a'i gwaith i ddatblygu fframwaith tâl a dilyniant. 

3.   Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol: 

a)  cydgynhyrchu glasbrint ar gyfer System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru; 

b)  cryfhau llywodraethiant cenedlaethol a rhanbarthol i arwain a chefnogi system iechyd a gofal cymdeithasol fwy cydgysylltiedig yng Nghymru; 

c)  buddsoddi £278m y flwyddyn drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i feithrin capasiti ar gyfer gofal cymunedol integredig yn ogystal â buddsoddi £30m mewn llwybrau gofal, o ganlyniad i'r cytundeb cyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru; 

d) cryfhau deddfwriaeth a chanllawiau mewn perthynas ag integreiddio a gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys cydgomisiynu a chyfuno adnoddau; 

e)  sbarduno'r gwaith o gyflawni'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys y cynllun seibiannau byr i helpu gofalwyr gyda'u gweithgareddau hanfodol; 

f)  sefydlu Fforwm y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a pharhau i ariannu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithlu gwerthfawr; a 

g) cynnal y gyfundrefn fwyaf hael o ran codi tâl yn y DU gyda therfyn cyfalaf o £50,000 ar gyfer gofal preswyl a chap wythnosol o £100 ar gyfer gofal cartref.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.04

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(0 munud)

11.

Dadl Fer

Ni chyflwynwyd pwnc

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd pwnc