Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 299
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/09/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
|
Datganiad Gan Y Llywydd Am 13.30, cyfeiriodd y Llywydd at y Cyfnod Pleidleisio yn
ystod Cyfarfod Llawn y diwrnod blaenorol a gwnaeth ddatganiad ar bleidleisio
mewn trafodion rhithwir a hybrid. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.26 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.17 Gofynnwyd y 2 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.21 Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad ar Ei Anrhydedd Philip
Richards a’i gyfraniad i’r Gymraeg a’r system gyfiawnder yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb: P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol NDM8982 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1494
Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru
ac Awdurdodau Lleol’ a gasglodd 11,040 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM8982 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag
toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol’ a gasglodd 11,040 o
lofnodion. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan? NDM8983 Andrew
R.T. Davies (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd yn nodi: Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig, ‘Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio
am ddefaid trydan?’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2025, ac y gosodwyd
ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Medi 2025. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.50 NDM8983 Andrew
R.T. Davies (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd yn nodi: Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig, ‘Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru
freuddwydio am ddefaid trydan?’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2025, ac y gosodwyd
ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Medi 2025. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024 NDM8986 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
2024, a osodwyd ar 24 Ebrill 2025. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025. Ymatebodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar 8 Mai
2025. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 NDM8986 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
2024, a osodwyd ar 24 Ebrill 2025. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025. Ymatebodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar 8 Mai
2025. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - y GIG NDM8984 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am ddim
yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael ei
ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant. 2. Yn gresynu, ers etholiad y Senedd 2021 a Chytundeb
Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru: a) bod dros 38,000 o bobl Cymru wedi marw tra'n aros am
driniaeth y GIG; a b) bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua
traean. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal rhagor o
farwolaethau diangen drwy: a) datgan argyfwng iechyd i gyfeirio adnoddau a chyfarpar
Llywodraeth Cymru tuag at dorri rhestrau aros y GIG; b) gwarantu uchafswm o flwyddyn i aros am
driniaethau; c) cyflwyno gwarant o saith diwrnod o aros am apwyntiad
meddyg teulu; d) cynnal cynllun cynhwysfawr o recriwtio a chadw ar
gyfer GIG Cymru; e) adeiladu rhagor o ganolfannau llawfeddygol ac ehangu
canolfannau diagnostig cyflym; f) adfer dewis y claf o ran lle y gall gael mynediad at
ofal iechyd; a g) lansio cynllun gweithredu ar gyfer canser. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r cyllid ychwanegol o £120 miliwn i ddileu'r
holl amseroedd aros o ddwy flynedd a lleihau maint cyffredinol y rhestr aros
erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Yn croesawu camau i atal mwy o farwolaethau canser drwy
lansio rhaglen genedlaethol wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr
ysgyfaint yng Nghymru a chynyddu mynediad at y rhaglen sgrinio canser y
coluddyn. Yn nodi: a) bod amseroedd aros hir o fwy na dwy flynedd am
driniaeth bellach 88.6 y cant yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022; ac b) mai ychydig dros 21 wythnos yw’r amser aros cyfartalog
am driniaeth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at: a) polisïau llywodraethau olynol San Steffan sydd wedi
agor y drws i breifateiddio yn y GIG, gan gynnwys y fenter cyllid
preifat; b) methiant Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a
Llywodraeth Lafur bresennol y DU i ddarparu setliad ariannu teg i Gymru sy'n
adlewyrchu ei hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol; c) polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU,
a gyfrannodd yn uniongyrchol at farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a
chanlyniadau iechyd sy’n gwaethygu; a d) y safonau dwbl gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU
o ran cydymffurfio â rheoliadau COVID a erydodd ymddiriedaeth mewn mesurau
iechyd y cyhoedd. Yn gresynu ymhellach bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi
cynyddu tua thraean ers etholiad y Senedd yn 2021. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal mwy o farwolaethau
diangen drwy: a) datgan argyfwng iechyd; a b) gweithredu cynllun Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis
Ionawr 2025, i fynd i'r afael â rhestrau aros. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8984 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am
ddim yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael
ei ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant. 2. Yn gresynu, ers etholiad y Senedd 2021 a
Chytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru: a) bod dros 38,000 o bobl Cymru wedi marw tra'n aros
am driniaeth y GIG; a b) bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua
traean. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal rhagor o
farwolaethau diangen drwy: a) datgan argyfwng iechyd i gyfeirio adnoddau a
chyfarpar Llywodraeth Cymru tuag at dorri rhestrau aros y GIG; b) gwarantu uchafswm o flwyddyn i aros am
driniaethau; c) cyflwyno gwarant o saith diwrnod o aros am
apwyntiad meddyg teulu; d) cynnal cynllun cynhwysfawr o recriwtio a chadw ar
gyfer GIG Cymru; e) adeiladu rhagor o ganolfannau llawfeddygol ac
ehangu canolfannau diagnostig cyflym; f) adfer dewis y claf o ran lle y gall gael mynediad
at ofal iechyd; a g) lansio cynllun gweithredu ar gyfer canser.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
croesawu'r cyllid ychwanegol o £120 miliwn i ddileu'r holl amseroedd aros o
ddwy flynedd a lleihau maint cyffredinol y rhestr aros erbyn diwedd mis Mawrth
2026. Yn
croesawu camau i atal mwy o farwolaethau canser drwy lansio rhaglen
genedlaethol wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru a
chynyddu mynediad at y rhaglen sgrinio canser y coluddyn. Yn
nodi: a)
bod amseroedd aros hir o fwy na dwy flynedd am driniaeth bellach 88.6 y cant yn
is na'r brig ym mis Mawrth 2022; ac b)
mai ychydig dros 21 wythnos yw’r amser aros cyfartalog am driniaeth. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am ddim
yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael ei
ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant. 2. Yn croesawu'r cyllid ychwanegol o £120 miliwn i
ddileu'r holl amseroedd aros o ddwy flynedd a lleihau maint cyffredinol y
rhestr aros erbyn diwedd mis Mawrth 2026. 3. Yn croesawu camau i atal mwy o farwolaethau
canser drwy lansio rhaglen genedlaethol wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser
yr ysgyfaint yng Nghymru a chynyddu mynediad at y rhaglen sgrinio canser y
coluddyn. Yn nodi: a) bod amseroedd aros hir o fwy na dwy flynedd am
driniaeth bellach 88.6 y cant yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022; ac b) mai ychydig dros 21 wythnos yw’r amser aros
cyfartalog am driniaeth.
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Gan fod y Senedd
wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r
cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.47 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8966 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Sicrhau gofal hosbis yng Nghymru ar gyfer y dyfodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.51 NDM8966 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Sicrhau gofal hosbis yng Nghymru ar gyfer y dyfodol |
|||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
PDF 463 KB