Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 247 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad y Llywydd

Am 13.30 gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn llongyfarch Tîm Pêl-droed Merched Cymru am gyrraedd Ewro 2025, a chroesawodd ddirprwyaeth o Senedd Catalonia.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 6 a 8 gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol a phreswylwyr yr effeithir arnynt gan y llyncdwll ym Merthyr Tudful, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r pryderon diogelwch uniongyrchol a'r goblygiadau hirdymor ar gyfer cartrefi yr effeithir arnynt?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Peter Fox (Mynwy): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cyllid diweddar a ddyrannwyd ar gyfer cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Atebwyd gan Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol a phreswylwyr yr effeithir arnynt gan y llyncdwll ym Merthyr Tudful, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r pryderon diogelwch uniongyrchol a'r goblygiadau hirdymor ar gyfer cartrefi yr effeithir arnynt?

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Peter Fox (Mynwy): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cyllid diweddar a ddyrannwyd ar gyfer cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Gwnaeth Julie Morgan ddatganiad am - Teyrnged i Glenys Evans, un o’r rhieni a gyd-sefydlodd Bobath Cymru (Cerebral Palsy Cymru bellach), sy’n ymddeol ar ôl 35 mlynedd.

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Teyrnged i’r chwaraewr snwcer, y cyn-Pencampwr Byd, Terry Griffiths.

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Llongyfarchiadau i Dîm Pêl-droed Merched Cymru ar ganlyniad hanesyddol i gyrraedd Ewro 2025.

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lleoliadau gofal ar gyfer awtistiaeth ac anabledd dysgu

NDM8659 Hefin David (Caerffili)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi Strategaeth Cymru Gyfan, a oedd â'r nod o dynnu pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu allan o leoliadau ysbyty hirdymor a'u cefnogi i fyw yn eu cymunedau lleol.

2. Yn gresynu bod rhai pobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn dal i gael eu secsiynu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n cael eu cadw o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn ysbytai diogel, sy'n amhriodol o ran eu llesiant ac yn achosi trawma hirdymor sylweddol, yn ogystal â gofid iddynt hwy a'u hanwyliaid.

3. Yn credu bod hyn yn parhau i ddigwydd i bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu oherwydd diffyg cymorth yn eu hardaloedd lleol, a bod secsiynu’n cael ei ddefnyddio fel opsiwn diofyn gan awdurdodau perthnasol o dan rai amgylchiadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i nodi'n fanwl sut y bydd yn ymateb i bryderon ac amcanion ymgyrch 'Cartrefi Nid Ysbytai' Bywydau Wedi'u Dwyn;

b) i gasglu a chyhoeddi data cywir a chyfredol ar:

i) nifer y bobl awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru sy'n cael eu lleoli mewn ysbytai;

ii) y math o ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. ysbytai iechyd meddwl neu unedau asesu a thrin;

iii) darparwyr yr ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol; a

iv) nifer a natur y lleoliadau byw â chymorth neu leoliadau preswyl sydd wedi methu, gan arwain at symud unigolion i ysbytai e.e. enw'r darparwr a'r math o ddarparwr; 

c) i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen pwrpasol i weithio gyda rhanddeiliaid i helpu i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a godwyd gan Bywydau Wedi’u Dwyn, ac sydd o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig; a

d) i weithredu argymhellion ei hadolygiad gofal cenedlaethol yn 2020, a nododd yn glir mai dim ond os nad oes ffyrdd eraill o'u trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai. 

Cyd-gyflwynwyr

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Cefnogwyr

Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru

NDM8750 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru' a osodwyd ar 24 Gorffennaf 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

NDM8750 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru' a osodwyd ar 24 Gorffennaf 2024.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Diagnosis dementia

NDM8752 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.

2. Yn gresynu mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

3. Yn credu gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth, lleihau costau dementia i’r GIG a gwneud arbediad cost o hyd at £45,000 y pen drwy ohirio derbyniadau i gartrefi gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.

Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8752 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.

2. Yn gresynu mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

3. Yn credu gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth, lleihau costau dementia i’r GIG a gwneud arbediad cost o hyd at £45,000 y pen drwy ohirio derbyniadau i gartrefi gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.

Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

11

14

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 56 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis.

2. Yn nodi mai Cymru sydd â’r gyfradd ddiagnosis gyhoeddedig isaf yn y DU.

3. Yn credu y gall ffocws ar ddiagnosis cynnar a chywir wella opsiynau triniaeth ac y gallai leihau costau dementia i’r GIG.

4. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau diagnosis dementia newydd yn y cynllun newydd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun gweithredu newydd ar gyfer dementia yn rhoi cleifion a'u hanwyliaid yn gyntaf, a'i fod hefyd yn hyrwyddo ymchwil i'r clefyd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.33

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8751 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Mwyngloddio copr yng Nghymru: a yw'n rhesymol dibynnu ar gopr wedi'i fewnforio?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.36

NDM8751 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Mwyngloddio copr yng Nghymru: a yw'n rhesymol dibynnu ar gopr wedi'i fewnforio?

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: