Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 240 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

(0 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cofio - Tynnwyd yn ôl

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Wythnos Gwrthfwlio: Iechyd meddwl a llesiant meddyliol dysgwyr

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.44

(45 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diogelwch adeiladau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.36

(5 munud)

7.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dros Dro

NNDM8716 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8715 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.20

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl: Cofio

NNDM8715 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel. 

Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.21

Derbyniwyd y gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.

4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel. 

5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

9.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.12

NDM8714 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.