Craffu ar Gomisiynydd y Gymraeg

Craffu ar Gomisiynydd y Gymraeg

Fel rhan o’i gylch gwaith, mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gyfrifol am graffu ar Gomisiynydd y Gymraeg fel un o’r cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

 

Crëwyd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gymryd lle Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Trosglwyddwyd rhai o ddyletswyddau’r Bwrdd Iaith i ofal y Comisiynydd a’r gweddill i Weinidogion Cymru.

 

Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn cynnwys:

>>>> 

>>>hybu defnyddio’r Gymraeg;

>>>hwyluso defnyddio’r Gymraeg;

>>>gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau’n ymwneud â’r Gymraeg;

>>>cynnal ymholiadau i faterion sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Gymraeg;

>>>ymchwilio i ymyrraeth â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg.

<<< 

Math o fusnes: Arall