Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 239 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 5 gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr honiadau a adroddwyd o fwlio a rhywiaeth yn URC yn ymwneud â thîm rhyngwladol y menywod?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o drenau eraill Trafnidiaeth Cymru sydd wedi cael eu ffitio â'r system ddiogelwch awtomataidd y bwriedir i chwistrellu tywod pan fydd olwynion yn llithro ac a fethodd ar drên a fu'n rhan o'r ddamwain angheuol ddiweddar ym Mhowys, a beth yw'r asesiad o'r risg o fethiannau tebyg?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar ddatguddiad diweddar yr ymchwiliad COVID-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n tynnu sylw at ddata coll ynghylch marwolaethau staff y GIG oherwydd COVID?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Atebwyd gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr honiadau a adroddwyd o fwlio a rhywiaeth yn URC yn ymwneud â thîm rhyngwladol y menywod?

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o drenau eraill Trafnidiaeth Cymru sydd wedi cael eu ffitio â'r system ddiogelwch awtomataidd y bwriedir i chwistrellu tywod pan fydd olwynion yn llithro ac a fethodd ar drên a fu'n rhan o'r ddamwain angheuol ddiweddar ym Mhowys, a beth yw'r asesiad o'r risg o fethiannau tebyg?

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar ddatguddiad diweddar yr ymchwiliad COVID-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n tynnu sylw at ddata coll ynghylch marwolaethau staff y GIG oherwydd COVID?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.50

Gwnaeth Julie Morgan ddatganiad am - 40 mlynedd o Gyfeillion y Ddaear Cymru.

(15 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Yr ail adroddiad ar bymtheg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

NDM8707 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Ail Adroddiad ar Bymtheg i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Hydref 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.51

NDM8707 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Ail Adroddiad ar Bymtheg i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Hydref 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y deunawfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

NDM8708 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Deunawfed Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Hydref 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

NDM8708 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Deunawfed Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Hydref 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Adroddiad Blynyddol: Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd

NDM8710 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Adroddiad Blynyddol: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd' a osodwyd ar 8 Ebrill 2024.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2024.

Dogfennau ategol

Ymchwil y Senedd – Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS): adroddiad monitro

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.58

NDM8710 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Adroddiad Blynyddol: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd' a osodwyd ar 8 Ebrill 2024.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

8.

Dadl ar ddeiseb P-06-1400 - Adnoddau teg a digonol ar gyfer practisau cyffredinol yng Nghymru

NDM8709 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1400 Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru’ a gasglodd 21,620 o lofnodion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

NDM8709 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1400 Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru’ a gasglodd 21,620 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

9.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU

NDM8713 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU yn torri ymrwymiad maniffesto Llafur i beidio codi trethi ar bobl sy'n gweithio.

2. Yn gresynu y bydd yn rhaid i lawer o bensiynwyr ddewis rhwng bwyta a gwresogi o ganlyniad i dynnu taliadau tanwydd y gaeaf yn ôl.

3. Yn cydnabod y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei gwneud yn anos i fusnesau gyflogi a chadw staff.

4. Yn mynegi ei siom bod cyllideb Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni naill ai trydaneiddio prif linell reilffordd Gogledd Cymru neu gyllid canlyniadol Barnett o brosiect HS2 i Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio cyllid sy'n deillio o Gyllideb yr Hydref i gefnogi'r gwaith o leihau rhestrau aros y GIG a chryfhau gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru;

b) darparu cymorth i bensiynwyr Cymru drwy fisoedd y gaeaf drwy sefydlu lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru;

c) cynyddu buddsoddiad yn system addysg Cymru i wella deilliannau dysgwyr yn ein hysgolion;

d) amddiffyn ffermwyr drwy gefnogi'r achos i gynnal rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes at ddibenion treth etifeddiant; ac

e) sefyll dros Gymru drwy chwilio am fformiwla ariannu newydd sy'n seiliedig ar anghenion i gymryd lle fformiwla Barnett.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cyllideb y DU a’r cyllid ychwanegol gwerth £1.7 biliwn i Gymru; a

b) y cyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tomenni glo a’r cynnydd mewn cyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

2. Yn cydnabod bod hyn yn gam cyntaf tuag at unioni’r difrod a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus.

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, gan nodi sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG, ysgolion a llywodraeth leol; a

b) yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid teg i’r rheilffyrdd yng Nghymru a mwy o hyblygrwydd cyllidebol.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y difrod dwys a achoswyd i gyllid a gwasanaethau cyhoeddus Cymru gan bedair blynedd ar ddeg o gyni dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a'r adladd o gyllideb fach Hydref 2022.  

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y methiant i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn creulon sy'n cyfrannu'n uniongyrchol i gyffredinrwydd brawychus tlodi plant mewn cymdeithas. 

Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn mynegi ei siom nad yw cyllideb Llywodraeth y DU wedi cynnwys cyllid canlyniadol HS2 i Gymru, heb ddarparu arian newydd ar gyfer prosiectau trydaneiddio rheilffyrdd, a lleihau'r ffactor cymharedd adrannol ar gyfer gwariant rheilffyrdd y DU sy’n berthnasol i Gymru ymhellach fyth, a fydd yn gwaethygu'r tanfuddsoddiad systematig yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.

Gwelliant 5 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4:

Yn mynegi siom am anweithred Llywodraeth Lafur bresennol y DU ar ddatganoli Ystad y Goron i alluogi Cymru i elwa ar gyfoeth ei hadnoddau naturiol ei hun.

Gwelliant 6 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw:

a) ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn yn ddi-oed;

b) am fargen ariannu deg i awdurdodau lleol yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod, i sicrhau nad yw'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith andwyol ar eu cyllid; ac

c) ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r arian ychwanegol a gafodd o gyllideb yr hydref i wrthdroi'r toriad i ryddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8713 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU yn torri ymrwymiad maniffesto Llafur i beidio codi trethi ar bobl sy'n gweithio.

2. Yn gresynu y bydd yn rhaid i lawer o bensiynwyr ddewis rhwng bwyta a gwresogi o ganlyniad i dynnu taliadau tanwydd y gaeaf yn ôl.

3. Yn cydnabod y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei gwneud yn anos i fusnesau gyflogi a chadw staff.

4. Yn mynegi ei siom bod cyllideb Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni naill ai trydaneiddio prif linell reilffordd Gogledd Cymru neu gyllid canlyniadol Barnett o brosiect HS2 i Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio cyllid sy'n deillio o Gyllideb yr Hydref i gefnogi'r gwaith o leihau rhestrau aros y GIG a chryfhau gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru;

b) darparu cymorth i bensiynwyr Cymru drwy fisoedd y gaeaf drwy sefydlu lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru;

c) cynyddu buddsoddiad yn system addysg Cymru i wella deilliannau dysgwyr yn ein hysgolion;

d) amddiffyn ffermwyr drwy gefnogi'r achos i gynnal rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes at ddibenion treth etifeddiant; ac

e) sefyll dros Gymru drwy chwilio am fformiwla ariannu newydd sy'n seiliedig ar anghenion i gymryd lle fformiwla Barnett.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cyllideb y DU a’r cyllid ychwanegol gwerth £1.7 biliwn i Gymru; a

b) y cyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tomenni glo a’r cynnydd mewn cyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

2. Yn cydnabod bod hyn yn gam cyntaf tuag at unioni’r difrod a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus.

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, gan nodi sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG, ysgolion a llywodraeth leol; a

b) yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid teg i’r rheilffyrdd yng Nghymru a mwy o hyblygrwydd cyllidebol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Gwelliant 6 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw:

a) ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn yn ddi-oed;

b) am fargen ariannu deg i awdurdodau lleol yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod, i sicrhau nad yw'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith andwyol ar eu cyllid; ac

c) ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r arian ychwanegol a gafodd o gyllideb yr hydref i wrthdroi'r toriad i ryddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

42

53

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cyllideb y DU a’r cyllid ychwanegol gwerth £1.7 biliwn i Gymru; a

b) y cyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tomenni glo a’r cynnydd mewn cyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

2. Yn cydnabod bod hyn yn gam cyntaf tuag at unioni’r difrod a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus.

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, gan nodi sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG, ysgolion a llywodraeth leol; a

b) yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid teg i’r rheilffyrdd yng Nghymru a mwy o hyblygrwydd cyllidebol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

10.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.28

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM8711 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Dyfodol gofal iechyd lleol yng nghefn gwlad Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.32