Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 229
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 7-8 gan y Gweinidog Diwylliant,
Sgiliau a Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.26 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 6-7 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl
a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.20 Gwnaeth
Julie Morgan ddatganiad am - Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol
(Medi). Gwnaeth
Sioned Williams ddatganiad am - 40 mlynedd o Theatr na nÓg. Gwnaeth
Llyr Gruffydd ddatganiad am - Teyrnged i Ryan Evans o Wrecsam a gollodd
ei fywyd mewn ymosodiad taflegryn yn Wcráin yn ddiweddar. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog – Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU NDM8662 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad
y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 29.1 (Cydsyniad
mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2024. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 29.1, fel y nodir yn Atodiad A
i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.25 NDM8662 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 29.1 (Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU)', a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 18 Medi 2024. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 29.1, fel y nodir yn Atodiad A
i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 NDM8661 Hannah
Blythyn (Delyn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Pedwerydd Adroddiad ar Ddeg i'r Chweched Senedd a
osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Medi 2024
yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2.
Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 NDM8661 Hannah Blythyn (Delyn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad— Pedwerydd Adroddiad ar Ddeg i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Medi 2024 yn unol â
Rheol Sefydlog 22.9. 2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr
adroddiad. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya NDM8667 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y
terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros
flwyddyn. 2. Yn nodi: a) y 469,571 o bobl a
lofnododd ddeiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith
drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’; b) y Memorandwm
Esboniadol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig
(Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, lle nodwyd anfantais economaidd o hyd at
£8.9 biliwn yn sgil yr amseroedd teithio hirach a fyddai’n gysylltiedig â'r
polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya; c) sylwadau'r
cyn-Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth y dylid bod wedi defnyddio mwy o synnwyr
cyffredin wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru; d) adroddiad monitro
ansawdd aer Trafnidiaeth Cymru sy’n dangos, o ran hanner yr ardaloedd lle
cynhaliwyd profion, y bu cynnydd mewn lefelau nitrogen deuocsid y tu mewn i’r
parthau 20mya o'i gymharu â'r tu allan; ac e) bod awdurdodau lleol
Cymru wedi cael ceisiadau i newid miloedd o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i ddiddymu'r terfyn
cyflymder diofyn o 20mya; a b) i weithio gydag
awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno dull wedi'i dargedu o bennu terfynau
cyflymder o 20mya, sydd â chydsyniad pobl leol. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd 1. Yn nodi: a) bod y terfyn
cyflymder rhagosodedig o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn;
a b) cefnogaeth
drawsbleidiol flaenorol y Senedd ar gyfer cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya
yng Nghymru a phresenoldeb cynlluniau tebyg mewn cynghorau sy'n cael eu rhedeg
gan y Ceidwadwyr yn Lloegr. 2. Yn credu, o'u
gweithredu'n briodol ac yn rhesymegol, bod gan derfynau cyflymder 20mya rôl
ddefnyddiol wrth wneud cymunedau'n fwy diogel a lleihau'r pwysau ar y GIG. 3. Yn gresynu at yr oedi
gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu ar welliant Plaid Cymru a gefnogir gan y
Senedd, a fyddai wedi grymuso cymunedau ar unwaith i adolygu a gwneud
eithriadau pellach yn ogystal ag adolygu'r canllawiau i awdurdodau lleol. 4. Yn cydnabod cryfder
teimladau ar y mater hwn o ganlyniad i weithredu, ymgysylltu a chyfathrebu
anghyson ynghylch y newidiadau. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adolygiad
presennol yn mynd i'r afael â'r pryderon y gellir eu cyfiawnhau, a'i fod ag
adnoddau digonol. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng
Nghymru ers dros flwyddyn. 2.
Yn nodi: a) y
gostyngiad sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a b) y ffaith
bod 469,571 o bobl wedi llofnodi deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru
ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’ c) y
rhaglen gynhwysfawr o wrando a gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl,
busnesau a chymunedau ledled Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol; d) y ffaith
y bydd y gwaith monitro a gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o
effeithiau’r polisi o ran yr economi, iechyd a’r amgylchedd; e) y ffaith
bod adroddiad monitro ansawdd aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis
Mai 2024 yn dangos nad oedd unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd
yma; ac f) y
gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd
wedi derbyn ceisiadau i newid y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi awdurdodau lleol
Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder 20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau
bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn
chwarae. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8667 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi
bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn. 2. Yn nodi: a) y 469,571 o bobl a lofnododd ddeiseb y Senedd: ‘Rydym
am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn
cyflymder o 20mya’; b) y Memorandwm Esboniadol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar
gyfer Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, lle
nodwyd anfantais economaidd o hyd at £8.9 biliwn yn sgil yr amseroedd teithio
hirach a fyddai’n gysylltiedig â'r polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya; c) sylwadau'r cyn-Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth y dylid
bod wedi defnyddio mwy o synnwyr cyffredin wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder
20mya yng Nghymru; d) adroddiad monitro ansawdd aer Trafnidiaeth Cymru sy’n
dangos, o ran hanner yr ardaloedd lle cynhaliwyd profion, y bu cynnydd mewn
lefelau nitrogen deuocsid y tu mewn i’r parthau 20mya o'i gymharu â'r tu allan;
ac e) bod awdurdodau lleol Cymru wedi cael ceisiadau i newid
miloedd o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i ddiddymu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya; a b) i weithio gydag awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno dull
wedi'i dargedu o bennu terfynau cyflymder o 20mya, sydd â chydsyniad pobl leol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd 1. Yn nodi: a) bod y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya wedi bod
ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn; a b) cefnogaeth drawsbleidiol flaenorol y Senedd ar gyfer
cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya yng Nghymru a phresenoldeb cynlluniau tebyg
mewn cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan y Ceidwadwyr yn Lloegr. 2. Yn credu, o'u gweithredu'n briodol ac yn rhesymegol,
bod gan derfynau cyflymder 20mya rôl ddefnyddiol wrth wneud cymunedau'n fwy
diogel a lleihau'r pwysau ar y GIG. 3. Yn gresynu at yr oedi gan Lywodraeth Cymru wrth
weithredu ar welliant Plaid Cymru a gefnogir gan y Senedd, a fyddai wedi
grymuso cymunedau ar unwaith i adolygu a gwneud eithriadau pellach yn ogystal
ag adolygu'r canllawiau i awdurdodau lleol. 4. Yn cydnabod cryfder teimladau ar y mater hwn o
ganlyniad i weithredu, ymgysylltu a chyfathrebu anghyson ynghylch y newidiadau. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag
awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adolygiad presennol yn mynd i'r afael â'r
pryderon y gellir eu cyfiawnhau, a'i fod ag adnoddau digonol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y terfyn
cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros flwyddyn. 2. Yn nodi: a) y gostyngiad sylweddol mewn
gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a b) y ffaith bod 469,571 o bobl wedi llofnodi
deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus
ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’ c) y rhaglen gynhwysfawr o wrando a
gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled
Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol; d) y ffaith y bydd y gwaith monitro a
gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o effeithiau’r polisi o ran yr economi,
iechyd a’r amgylchedd; e) y ffaith bod adroddiad monitro ansawdd
aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn dangos nad oedd
unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd yma; ac f) y gefnogaeth y mae Llywodraeth
Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi derbyn ceisiadau i newid
y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder
20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir
ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y terfyn
cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros flwyddyn. 2. Yn nodi: a) y gostyngiad sylweddol mewn
gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a b) y ffaith bod 469,571 o bobl wedi llofnodi
deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus
ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’ c) y rhaglen gynhwysfawr o wrando a
gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled
Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol; d) y ffaith y bydd y gwaith monitro a
gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o effeithiau’r polisi o ran yr economi,
iechyd a’r amgylchedd; e) y ffaith bod adroddiad monitro ansawdd
aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn dangos nad oedd
unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd yma; ac f) y gefnogaeth y mae Llywodraeth
Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi derbyn ceisiadau i newid
y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder
20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir
ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru NDM8665 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi datganiad
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 2. Yn gresynu: a) wedi 25 mlynedd o
lywodraethu, na allai Llywodraeth Lafur ddiweddaraf Cymru nodi blaenoriaethau
pobl Cymru heb 'ymarfer gwrando' a gychwynnwyd gan y Prif Weinidog; a b) fod cerrig milltir,
targedau a dyddiadau cyflawni yn absennol o ddatganiad blaenoriaethau'r Prif
Weinidog. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) pennu amserlen ar
gyfer lleihau rhestrau aros y GIG; b) cyhoeddi cynllun
cyflawni sy'n seiliedig ar yr ystod o 'flaenoriaethau’r bobl', yn cynnwys, ond
heb fod yn gyfyngedig i, gerrig milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni; c) cyflwyno Rhaglen
Lywodraethu a Rhaglen Deddfwriaethol wedi'i diweddaru; a d) anrhydeddu ei
egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli
rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid teg, datganoli Ystad y
Goron ac i ddatganoli cyfiawnder yn llawn. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi datganiad
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 2. Yn cefnogi ffocws y
Llywodraeth ar flaenoriaethu’r bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u
nodwyd gan y Prif Weinidog. 3. Yn nodi ymhellach
ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y
bydd y blaenoriaethau yn cael eu cyflawni. 4. Yn cymeradwyo
ymrwymiad y Llywodraeth i: a) iechyd da – lleihau
amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a
gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod; b) swyddi gwyrdd a thwf
– creu swyddi gwyrdd i sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r
argyfwng hinsawdd a diogelu natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu
economi Cymru; c) cyfle i bob teulu –
hybu safonau yn ein hysgolion a'n colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer
y sector rhent cymdeithasol; a d) cysylltu cymunedau –
trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein
ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: nad yw Llywodraeth Cymru
yn gwrando ar y cannoedd o filoedd o bensiynwyr yng Nghymru a fydd yn cael eu
heffeithio'n andwyol gan doriadau Llywodraeth y DU i daliadau tanwydd gaeaf; Gwelliant 3 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu is-bwynt 3(d) a
rhoi yn ei le: anrhydeddu
ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli
rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am symiau canlyniadol o HS2 i
Gymru ac i fwrw ymlaen â thrydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru; Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.37 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8665 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 2. Yn gresynu: a) wedi 25 mlynedd o lywodraethu, na allai Llywodraeth
Lafur ddiweddaraf Cymru nodi blaenoriaethau pobl Cymru heb 'ymarfer gwrando' a
gychwynnwyd gan y Prif Weinidog; a b) fod cerrig milltir, targedau a dyddiadau cyflawni yn
absennol o ddatganiad blaenoriaethau'r Prif Weinidog. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) pennu amserlen ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG; b) cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n seiliedig ar yr ystod o
'flaenoriaethau’r bobl', yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gerrig
milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni; c) cyflwyno Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Deddfwriaethol
wedi'i diweddaru; a d) anrhydeddu ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy
ddefnyddio'r holl sianeli rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am
gyllid teg, datganoli Ystad y Goron ac i ddatganoli cyfiawnder yn llawn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 2. Yn cefnogi ffocws y Llywodraeth ar flaenoriaethu’r
bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u nodwyd gan y Prif Weinidog. 3. Yn nodi ymhellach ymrwymiad y Prif Weinidog i
ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael
eu cyflawni. 4. Yn cymeradwyo ymrwymiad y Llywodraeth i: a) iechyd da – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth
Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal
cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod; b) swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd i sicrhau
bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu
natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru; c) cyfle i bob teulu – hybu safonau yn ein hysgolion a'n
colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol; a d) cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a
darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i
benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 2. Yn cefnogi ffocws y Llywodraeth ar flaenoriaethu’r
bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u nodwyd gan y Prif Weinidog. 3. Yn nodi ymhellach ymrwymiad y Prif Weinidog i
ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael
eu cyflawni. 4. Yn cymeradwyo ymrwymiad y Llywodraeth i: a) iechyd da – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth
Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal
cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod; b) swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd i sicrhau
bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu
natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru; c) cyfle i bob teulu – hybu safonau yn ein hysgolion a'n
colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol; a d) cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a
darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i
benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.31 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8657 Hannah
Blythyn (Delyn) Diwedd
y gân yw'r geiniog: sut all datganoli greu economi lewyrchus i weithwyr ac i
Gymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.37 NDM8657 Hannah Blythyn
(Delyn) Diwedd y gân yw'r
geiniog: sut all datganoli greu economi lewyrchus i weithwyr ac i Gymru? |
PDF 160 KB