NDM8665 Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

NDM8665 Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

NDM8665 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

2. Yn gresynu:

a) wedi 25 mlynedd o lywodraethu, na allai Llywodraeth Lafur ddiweddaraf Cymru nodi blaenoriaethau pobl Cymru heb 'ymarfer gwrando' a gychwynnwyd gan y Prif Weinidog; a

b) fod cerrig milltir, targedau a dyddiadau cyflawni yn absennol o ddatganiad blaenoriaethau'r Prif Weinidog.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) pennu amserlen ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG;

b) cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n seiliedig ar yr ystod o 'flaenoriaethau’r bobl', yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gerrig milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni;

c) cyflwyno Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Deddfwriaethol wedi'i diweddaru; a

d) anrhydeddu ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid teg, datganoli Ystad y Goron ac i ddatganoli cyfiawnder yn llawn.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

2. Yn cefnogi ffocws y Llywodraeth ar flaenoriaethu’r bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u nodwyd gan y Prif Weinidog.

3. Yn nodi ymhellach ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael eu cyflawni.

4. Yn cymeradwyo ymrwymiad y Llywodraeth i:

a) iechyd da – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod;

b) swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd i sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru;

c) cyfle i bob teulu – hybu safonau yn ein hysgolion a'n colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol; a

d) cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y cannoedd o filoedd o bensiynwyr yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio'n andwyol gan doriadau Llywodraeth y DU i daliadau tanwydd gaeaf;

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu is-bwynt 3(d) a rhoi yn ei le:

anrhydeddu ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am symiau canlyniadol o HS2 i Gymru ac i fwrw ymlaen â thrydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru;

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024