Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 226 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(15 munud)

1.

Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau

Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:

1. Y Pwyllgor Deisebau (Llafur)

2. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Llafur)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y pwyllgor a ganlyn yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:

Y Pwyllgor Deisebau (Llafur)

Enwebwyd Rhianon Passmore gan Hannah Blythyn. Eiliodd Mick Antoniw yr enwebiad.

Enwebwyd Carolyn Thomas gan Buffy Williams. Eiliodd Joyce Watson yr enwebiad.

Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Llafur)

Enwebwyd Hannah Blythyn gan Julie Morgan. Eiliodd Lesley Griffiths yr enwebiad.

Gan nad oedd enwebiadau pellach nac unrhyw wrthwynebiadau, cyhoeddodd y Llywydd bod Hannah Blythyn wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Canlyniadau

Am 18.11, cyhoeddodd y Dirprwy Lywydd ganlyniad y bleidlais gyfrinachol ar gyfer ethol cadeirydd pwyllgor:

Y Pwyllgor Deisebau (Llafur):

Rhianon Passmore

Carolyn Thomas

Ymatal

Cyfanswm

15

39

0

54

Cyhoeddodd y Llywydd bod Carolyn Thomas wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.34

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(0 munud)

3.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol - Gohiriwyd

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon.

(5 munud)

4.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

NNDM8655 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8654 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 17 Medi 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

NNDM8655 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8654 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 17 Medi 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

5.

Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol

NNDM8654 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Julie James AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

NNDM8654 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Julie James AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

6.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

(0 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru - Gohiriwyd tan 24 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan 24 Medi.

(0 munud)

8.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Yr economi werdd - Tynnywd yn ôl

Cofnodion:

Tynnywd yr eitem hon yn ôl.

(0 munud)

9.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol - Gohiriwyd tan 24 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan 24 Medi.

(60 munud)

10.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

(45 munud)

11.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.38

(45 munud)

12.

Datganiad gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cyflogau'r sector cyhoeddus

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.22

(45 munud)

13.

Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Glanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

(45 munud)

14.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.39

15.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.