Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 219 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 2-10. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3.       

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a 9. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(10 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.01

Gofynnwyd y cwestiwn.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Dadorchuddio cofeb barhaol i Drychineb Pwll Glo’r Albion wedi 130 o flynyddoedd (23 Mehefin).

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Caban yn ennill gwobr Siop Lyfrau’r Flwyddyn yng Ngwobrau Manwerthwyr Annibynnol Cymru 2024 (10 Mehefin).

(5 munud)

6.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Trefniadau cadeirio Pwyllgor y Llywydd

NDM8622 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Trefniadau cadeirio Pwyllgor y Llywydd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2024.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18B, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

7.

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil buddion ynni cymunedol

NDM8616 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil buddion ynni cymunedol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sicrhau bod datblygiadau ynni adnewyddadwy o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol, a bod colli amwynder i gymunedau yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu a yw prosiectau seilwaith ynni mawr yn mynd rhagddynt;

b) ei gwneud yn ofynnol i elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gael ei gadw yn yr ardal leol;

c) gwneud perchnogaeth leol yn elfen orfodol ym mhob datblygiad cynhyrchu ynni;

d) gwneud y defnydd o dechnoleg adnewyddadwy yn orfodol yn yr holl adeiladau newydd, datblygiadau sylweddol ac estyniadau; ac

e) defnyddio'r holl opsiynau tir llwyd hyfyw cyn y gellir ystyried unrhyw safle maes glas, yn enwedig os bydd yn effeithio ar gynefinoedd anghysbell ac amrywiol a/neu fod mynediad a seilwaith yn gyfyngedig neu'n anfodol.

Cefnogwyr

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8616 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil buddion ynni cymunedol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sicrhau bod datblygiadau ynni adnewyddadwy o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol, a bod colli amwynder i gymunedau yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu a yw prosiectau seilwaith ynni mawr yn mynd rhagddynt;

b) ei gwneud yn ofynnol i elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gael ei gadw yn yr ardal leol;

c) gwneud perchnogaeth leol yn elfen orfodol ym mhob datblygiad cynhyrchu ynni;

d) gwneud y defnydd o dechnoleg adnewyddadwy yn orfodol yn yr holl adeiladau newydd, datblygiadau sylweddol ac estyniadau; ac

e) defnyddio'r holl opsiynau tir llwyd hyfyw cyn y gellir ystyried unrhyw safle maes glas, yn enwedig os bydd yn effeithio ar gynefinoedd anghysbell ac amrywiol a/neu fod mynediad a seilwaith yn gyfyngedig neu'n anfodol.

Cefnogwyr

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

25

0

48

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

8.

Dadl ar Ddeiseb P-06-1437 - Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.38

NDM8623 Rhianon Passmore (Islwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol’, a gasglodd 12,075 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

9.

Dadl Plaid Cymru - Cymru a llywodraeth nesaf y DU

NDM8624 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2; a

b) ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder ac asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yn llawn.

2. Yn gresynu at fethiant maniffestos Plaid Lafur y DU a'r Ceidwadwyr i ymrwymo i gyflawni ar ewyllys bendant y Senedd a Llywodraeth Cymru ar y materion hyn.

3. Yn credu bod hyn yn dangos ymhellach fod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dyddio ac nad yw'n gwasanaethu buddiannau pobl Cymru mewn modd effeithiol. 

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i ddiddymu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru a'r ffaith mai Cymru yw'r unig genedl bargeinion twf yn y DU. 

Yn credu bod hyn yn dangos bod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn effeithiol.

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau bod llais Cymru yn parhau i gael amlygrwydd yn y Cabinet drwy benodiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi llwyddiant datganoli dros y 25 mlynedd diwethaf o ran cyflawni newid radical i bobl Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda pha Lywodraeth bynnag a etholir nesaf yn y DU i helpu i gyflawni argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Yn cytuno bod un llywodraeth Geidwadol ar ôl y llall yn y DU wedi tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn nodi gyda phryder bod maniffesto'r blaid Geidwadol yn cynnwys mesurau a fyddai'n tanseilio datganoli ymhellach, gan gynnwys diddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) sy'n helpu i amddiffyn gweithwyr y sector cyhoeddus ac ehangu'r Bil Cefnogi Gyrwyr i gynnwys Cymru.

Yn nodi pwysigrwydd cael perthynas adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Yn cydnabod yr angen am Lywodraeth yn y DU sy'n parchu ac yn hyrwyddo datganoli gan greu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a ategir gan waith rhynglywodraethol cryf ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru penodedig ar gyfer materion Cymreig yng nghabinet y DU.

Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol

Manifesto'r Blaid Geidwadol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8624 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2; a

b) ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder ac asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yn llawn.

2. Yn gresynu at fethiant maniffestos Plaid Lafur y DU a'r Ceidwadwyr i ymrwymo i gyflawni ar ewyllys bendant y Senedd a Llywodraeth Cymru ar y materion hyn.

3. Yn credu bod hyn yn dangos ymhellach fod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dyddio ac nad yw'n gwasanaethu buddiannau pobl Cymru mewn modd effeithiol. 

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i ddiddymu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru a'r ffaith mai Cymru yw'r unig genedl bargeinion twf yn y DU. 

Yn credu bod hyn yn dangos bod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn effeithiol.

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau bod llais Cymru yn parhau i gael amlygrwydd yn y Cabinet drwy benodiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

36

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi llwyddiant datganoli dros y 25 mlynedd diwethaf o ran cyflawni newid radical i bobl Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda pha Lywodraeth bynnag a etholir nesaf yn y DU i helpu i gyflawni argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Yn cytuno bod un llywodraeth Geidwadol ar ôl y llall yn y DU wedi tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn nodi gyda phryder bod maniffesto'r blaid Geidwadol yn cynnwys mesurau a fyddai'n tanseilio datganoli ymhellach, gan gynnwys diddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) sy'n helpu i amddiffyn gweithwyr y sector cyhoeddus ac ehangu'r Bil Cefnogi Gyrwyr i gynnwys Cymru.

Yn nodi pwysigrwydd cael perthynas adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Yn cydnabod yr angen am Lywodraeth yn y DU sy'n parchu ac yn hyrwyddo datganoli gan greu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a ategir gan waith rhynglywodraethol cryf ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru penodedig ar gyfer materion Cymreig yng nghabinet y DU.

Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol

Manifesto'r Blaid Geidwadol 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

24

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2; a

b) ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder ac asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yn llawn.

2. Yn nodi llwyddiant datganoli dros y 25 mlynedd diwethaf o ran cyflawni newid radical i bobl Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda pha Lywodraeth bynnag a etholir nesaf yn y DU i helpu i gyflawni argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

4. Yn cytuno bod un llywodraeth Geidwadol ar ôl y llall yn y DU wedi tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn nodi gyda phryder bod maniffesto'r blaid Geidwadol yn cynnwys mesurau a fyddai'n tanseilio datganoli ymhellach, gan gynnwys diddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) sy'n helpu i amddiffyn gweithwyr y sector cyhoeddus ac ehangu'r Bil Cefnogi Gyrwyr i gynnwys Cymru.

5. Yn nodi pwysigrwydd cael perthynas adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

6. Yn cydnabod yr angen am Lywodraeth yn y DU sy'n parchu ac yn hyrwyddo datganoli gan greu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a ategir gan waith rhynglywodraethol cryf ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru penodedig ar gyfer materion Cymreig yng nghabinet y DU.

Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol

Manifesto'r Blaid Geidwadol

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

22

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

10.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM8619 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Gwarchod cymunedau rhag effaith cloddio am fwynau: yr angen i gau Chwarel Craig yr Hesg.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.05

NDM8619 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Gwarchod cymunedau rhag effaith cloddio am fwynau: yr angen i gau Chwarel Craig yr Hesg.