Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 216
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2, gyda Heledd Fychan AS yn
cyfrannu ar ran Plaid Cymru. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.30 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos y ffoaduriaid: ein cartref Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.57 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol: diweddariad sgiliau Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 15.30 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cymru yn un o Oreuon y Byd am Ailgylchu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.59 |
|
(5 munud) |
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 NDM8608 Lynne
Neagle (Torfaen) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 yn
cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau
Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024. Gosodwyd y Gorchymyn drafft
a'r Memorandwm
Esboniadol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2024. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Ymateb
y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.41 NDM8608 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig)
(Diwygio) 2024. Gosodwyd
y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 21 Mai 2024. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(0 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
|
Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - Gohiriwyd tan 16 Gorffennaf NDM8614 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru
(Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Gosodwyd Bil Senedd Cymru (Rhestrau
Ymgeiswyr Etholiadol) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 11 Mawrth 2024. Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Bil Senedd Cymru (Rhestrau
Ymgeiswyr Etholiadol) gerbron y Senedd ar 7 Mehefin 2024. Dogfennau Ategol Crynodeb
o'r argymhellion (Y Pwyllgor Biliau Diwygio) Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan 16 Gorffennaf. |
||
Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - Gohiriwyd tan 16 Gorffennaf NDM8615 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n
deillio o Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan 16 Gorffennaf. |
||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd Cyfnod Pleidleisio |