Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 143(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Atebwyd cwestiynau 1-4 a
6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2, 7 a 9 gan y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.24 Gofynnwyd
cwestiynau 1-5 a 7-11. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.11 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Teyrnged i Tyrone O’Sullivan, a fu farw ar 28 Mai
2023. Fe arweiniodd y gweithwyr i brynu Glofa’r Tŵr, y pwll glo dwfn olaf
yng Nghymru. Gwnaeth
David Rees ddatganiad am - Teyrnged i'r Arglwydd John Morris o Aberafan. Mae ei
gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru, bod yn aelod o 3 llywodraeth Lafur yn ystod 4
degawd, a’i gefnogaeth barhaus i ddatganoli a’r Senedd yn ffactorau mawr ym
mywyd Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru NDM8281 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Strategaeth a chynllun
gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 28
Mawrth 2023. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mai 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.14 NDM8281 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith:
‘Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth
Cymru’, a osodwyd ar 28 Mawrth
2023. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mai 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr NDM8282 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu y dylid
cyhoeddi adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifeg ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn ac y dylai fod yn y parth cyhoeddus. 2. Yn galw ar Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young. 3. Yn gofyn, o
ystyried canfyddiadau Ernst & Young, fod adolygiad ehangach ac annibynnol
yn cael ei ystyried i roi sicrwydd: a) nad yw'r arferion a
nodwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn digwydd mewn sefydliadau
GIG eraill yng Nghymru; a b)
nad oedd arferion tebyg wedi effeithio ar flynyddoedd ariannol cyn y rhai a
adolygwyd gan Ernst & Young Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y diddordeb sylweddol yn
adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn nodi galwadau i’w gyhoeddi. 2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiad Ernst &
Young yn unol â gweithdrefnau a pholisïau presennol a’i fod yn ceisio cyngor
cyfreithiol ynglŷn â’i gyhoeddi. 3. Yn nodi rôl Archwilio Cymru yn rhoi
sicrwydd ar reoli arian cyhoeddus a bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymarfer
dysgu gwersi a rhannu’r canfyddiadau ymysg sefydliadau’r GIG. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8282 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu y dylid cyhoeddi adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion
cyfrifeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn ac y dylai fod yn y
parth cyhoeddus. 2.
Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst
& Young. 3.
Yn gofyn, o ystyried canfyddiadau Ernst & Young, fod adolygiad ehangach ac
annibynnol yn cael ei ystyried i roi sicrwydd: a)
nad yw'r arferion a nodwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn digwydd
mewn sefydliadau GIG eraill yng Nghymru; a b)
nad oedd arferion tebyg wedi effeithio ar flynyddoedd ariannol cyn y rhai a
adolygwyd gan Ernst & Young
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly,
gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
cydnabod y diddordeb sylweddol yn adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion
cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn nodi galwadau i’w
gyhoeddi. 2. Yn
nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i’r afael â’r materion
a godwyd yn adroddiad Ernst & Young yn unol â gweithdrefnau a pholisïau presennol
a’i fod yn ceisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â’i gyhoeddi. 3. Yn
nodi rôl Archwilio Cymru yn rhoi sicrwydd ar reoli arian cyhoeddus a bwriad
Llywodraeth Cymru i gynnal ymarfer dysgu gwersi a rhannu’r canfyddiadau ymysg
sefydliadau’r GIG. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynefinoedd carbon glas NDM8283 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod moroedd
Cymru yn cynnwys morwellt, morfeydd heli, a chynefinoedd carbon glas gwymon,
sy'n cwmpasu mwy na 99km² o rwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. 2. Yn nodi bod carbon
eisoes yn cael ei storio yng ngwaddodion morol Cymru. 3. Yn gresynu at y ffaith
bod hyd at 92 y cant o forwellt y DU wedi diflannu yn ystod y ganrif ddiwethaf,
fel yr amlygwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith
ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru. 4. Yn cydnabod bod
galluoedd storio carbon y cefnfor yn hanfodol wrth gyrraedd y targed o ddod yn
sero-net erbyn 2050. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) creu cynllun adfer
carbon glas cenedlaethol i Gymru, wedi'i gynllunio i gynnal a gwella ein
cynefinoedd carbon glas morol amhrisiadwy; b) adeiladu ar lwyddiant
Prosiect Seagrass, cydweithrediad rhwng Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol
Abertawe, sy'n anelu at adfer 20,000m² o forwellt, drwy blannu dros 750,000 o
hadau ym Mae Dale yn Sir Benfro; ac c)
datblygu cynllun datblygu morol cenedlaethol Cymru sy'n dangos yn glir lle y
gellir cynnal prosiectau carbon glas. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn credu y dylid
manteisio ar bob cyfle ddaw i ehangu dalfa garbon Cymru, megis carbon glas, er
mwyn cyflymu’n taith at sero net yn hytrach nag osgoi gweithredu. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddatganoli Ystâd y Goron fel bod mwy o benderfyniadau sy’n effeithio ar
garbon glas yn cael eu gwneud yng Nghymru. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sicrhau adferiad
carbon glas cenedlaethol trwy ariannu gwaith cynnal a gwella morwellt, morfeydd
heli a chynefinoedd arfordirol eraill sy’n gyfoethog o ran eu natur a’u carbon; b) adeiladu ar
lwyddiant yr holl brosiectau ledled Cymru sy’n adfer cynefinoedd morol, gan
gynnwys gwaith llwyddiannus y Prosiect Morwellt yn Dale a phrosiect Ocean
Rescue Seagrass o dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gafodd ei
ariannu’n ddiweddar i dargedu gwaith adfer oddi ar arfordir Llŷn; a c)
mynd i’r afael â chynllunio morol mewn ffordd ofodol gan sicrhau bod prosiectau
carbon glas yn cael eu lleoli i sicrhau’r manteision mwyaf i natur tra’n
caniatáu gweithgareddau morol pwysig eraill gan gynnwys pysgota, mordwyo ac
ynni. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8283 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod moroedd
Cymru yn cynnwys morwellt, morfeydd heli, a chynefinoedd carbon glas gwymon,
sy'n cwmpasu mwy na 99km² o rwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. 2. Yn nodi bod carbon eisoes yn
cael ei storio yng ngwaddodion morol Cymru. 3. Yn gresynu at y ffaith bod
hyd at 92 y cant o forwellt y DU wedi diflannu yn ystod y ganrif ddiwethaf, fel
yr amlygwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar
bolisïau morol Llywodraeth Cymru. 4. Yn cydnabod bod galluoedd
storio carbon y cefnfor yn hanfodol wrth gyrraedd y targed o ddod yn sero-net
erbyn 2050. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) creu cynllun adfer carbon
glas cenedlaethol i Gymru, wedi'i gynllunio i gynnal a gwella ein cynefinoedd
carbon glas morol amhrisiadwy; b) adeiladu ar lwyddiant
Prosiect Seagrass, cydweithrediad rhwng Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol
Abertawe, sy'n anelu at adfer 20,000m² o forwellt, drwy blannu dros 750,000 o
hadau ym Mae Dale yn Sir Benfro; ac c) datblygu cynllun datblygu
morol cenedlaethol Cymru sy'n dangos yn glir lle y gellir cynnal prosiectau
carbon glas. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar
bolisïau morol Llywodraeth Cymru
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly,
gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn credu y dylid manteisio ar bob cyfle ddaw i ehangu
dalfa garbon Cymru, megis carbon glas, er mwyn cyflymu’n taith at sero net yn
hytrach nag osgoi gweithredu. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Ystâd y Goron fel
bod mwy o benderfyniadau sy’n effeithio ar garbon glas yn cael eu gwneud yng
Nghymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau adferiad carbon glas cenedlaethol trwy ariannu
gwaith cynnal a gwella morwellt, morfeydd heli a chynefinoedd arfordirol eraill
sy’n gyfoethog o ran eu natur a’u carbon; b) adeiladu ar lwyddiant yr holl brosiectau ledled Cymru
sy’n adfer cynefinoedd morol, gan gynnwys gwaith llwyddiannus y Prosiect
Morwellt yn Dale a phrosiect Ocean Rescue Seagrass o dan arweiniad Ymddiriedolaeth
Natur Gogledd Cymru, gafodd ei ariannu’n ddiweddar i dargedu gwaith adfer oddi
ar arfordir Llŷn; a c) mynd i’r afael â chynllunio morol mewn ffordd ofodol
gan sicrhau bod prosiectau carbon glas yn cael eu lleoli i sicrhau’r manteision
mwyaf i natur tra’n caniatáu gweithgareddau morol pwysig eraill gan gynnwys
pysgota, mordwyo ac ynni. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan
fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant
i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Datganoli adnoddau dŵr yn llawn NDM8279 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu: a) y dylai Cymru gael
rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio
trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'w ffiniau; b) y byddai datganoli
pwerau dros ddŵr ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r
afael â'r broblem o ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd
mwy effeithlon; ac c) bod preifateiddio dŵr
yn fodel aflwyddiannus sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad
trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gofyn yn ffurfiol
am gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n
alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin
ddaearyddol Cymru; b) gofyn yn ffurfiol
am ragor o bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac
c) cyflwyno
deddfwriaeth o fewn tymor presennol y Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli
dŵr gwastraff cwmnïau dŵr yng Nghymru ar sail statudol. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod
cyfrifoldeb dros reoli llygredd wedi'i ddatganoli i Gymru. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod 25 y cant o'r oriau a gofnodwyd o ollyngiadau carthion yng Nghymru a
Lloegr yn 2022 wedi mynd i ddyfrffyrdd Cymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) diweddaru'r cynllun
gweithredu i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion i afonydd, llynnoedd a
moroedd Cymru; b) cyhoeddi adroddiad
tasglu Llywodraeth Cymru ar orlifiadau stormydd; ac c) gweithredu targedau
statudol i gwmnïau dŵr wella gorlifiadau stormydd. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Ychwanegu is-bwyntiau
newydd ar ddiwedd bwynt 2: defnyddio ei phwerau
i’w gwneud yn ofynnol bod pob buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr
sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau
ac amgylchedd naturiol Cymru. gweithio gyda
phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau dŵr Cymru trwy fynd i’r afael â
phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o ddŵr gwastraff, dŵr ffo
trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig, newidiadau ffisegol, hen
lofeydd a rhywogaethau goresgynnol. neilltuo cyllid
ychwanegol i’r Byrddau Rheoli Maethynnau i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau
dŵr. neilltuo cyllid
ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith
sy’n diogelu adnoddau dŵr. cynyddu’r defnydd o
ddata gwyddoniaeth y dinesydd er mwyn i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar
adnoddau dŵr. datblygu dulliau ar lefel
dalgylch gyfan ar gyfer cydsynio a gwelliannau strategol wrth reoli adnoddau dŵr
cenedlaethol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.00 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8279 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: a) y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei
hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio trosglwyddo dŵr y tu
hwnt i'w ffiniau; b) y byddai datganoli pwerau dros ddŵr
ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael â'r broblem o
ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd mwy effeithlon;
ac c) bod preifateiddio dŵr yn fodel aflwyddiannus
sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad trychinebus yn ansawdd dŵr
Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gofyn yn ffurfiol am gychwyn adran 48(1) o
Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd
dros ddŵr yn llawn â ffin ddaearyddol Cymru; b) gofyn yn ffurfiol am ragor o bwerau dros
drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac c) cyflwyno deddfwriaeth o fewn tymor presennol y
Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff cwmnïau dŵr
yng Nghymru ar sail statudol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod
cyfrifoldeb dros reoli llygredd wedi'i ddatganoli i Gymru. 2. Yn
gresynu at y ffaith bod 25 y cant o'r oriau a gofnodwyd o ollyngiadau carthion
yng Nghymru a Lloegr yn 2022 wedi mynd i ddyfrffyrdd Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) diweddaru'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â
gollyngiadau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru; b) cyhoeddi adroddiad tasglu Llywodraeth Cymru ar
orlifiadau stormydd; ac c) gweithredu targedau statudol i gwmnïau dŵr wella
gorlifiadau stormydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd bwynt 2: defnyddio ei phwerau i’w gwneud yn ofynnol bod pob
buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr sy’n effeithio ar Gymru, gan
gynnwys trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau ac amgylchedd naturiol
Cymru. gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau dŵr
Cymru trwy fynd i’r afael â phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o ddŵr
gwastraff, dŵr ffo trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig,
newidiadau ffisegol, hen lofeydd a rhywogaethau goresgynnol. neilltuo cyllid ychwanegol i’r Byrddau Rheoli Maethynnau
i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau dŵr. neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i
ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith sy’n diogelu adnoddau dŵr cynyddu’r defnydd o ddata gwyddoniaeth y dinesydd er mwyn
i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar adnoddau dŵr. datblygu dulliau ar lefel dalgylch gyfan ar gyfer
cydsynio a gwelliannau strategol wrth reoli adnoddau dŵr cenedlaethol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8279 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn credu: a) y dylai Cymru gael rheolaeth
lawn dros ei hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio trosglwyddo dŵr
y tu hwnt i'w ffiniau; b) y byddai datganoli pwerau
dros ddŵr ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael
â'r broblem o ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd mwy effeithlon;
ac c) bod preifateiddio dŵr
yn fodel aflwyddiannus sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad
trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) gofyn yn ffurfiol am
gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin ddaearyddol Cymru; b) gofyn yn ffurfiol am ragor o
bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac c) cyflwyno deddfwriaeth o fewn
tymor presennol y Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff
cwmnïau dŵr yng Nghymru ar sail statudol. d) defnyddio ei phwerau i’w gwneud yn ofynnol bod pob
buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys
trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau ac amgylchedd naturiol Cymru. e) gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau
dŵr Cymru trwy fynd i’r afael â phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o
ddŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig
gwasgaredig, newidiadau ffisegol, hen lofeydd a rhywogaethau goresgynnol. f) neilltuo cyllid ychwanegol i’r Byrddau Rheoli
Maethynnau i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau dŵr. g) neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i
ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith sy’n diogelu adnoddau dŵr h) cynyddu’r defnydd o ddata gwyddoniaeth y dinesydd er
mwyn i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar adnoddau dŵr. i) datblygu dulliau ar lefel dalgylch gyfan ar gyfer
cydsynio a gwelliannau strategol wrth reoli adnoddau dŵr cenedlaethol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.55 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8278 Buffy Williams (Rhondda) Cymorth i fenywod yng
Nghymru sy'n dioddef o anhwylder dysfforig cyn mislif Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.01 NDM8278 Buffy Williams (Rhondda) Cymorth i fenywod yng Nghymru sy'n dioddef o anhwylder
dysfforig cyn mislif |