Gwefru cerbydau trydan
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ymchwiliad byr am strategaeth
gwefru cerbydau trydan
Llywodraeth Cymru.
Adroddiad: Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad: Strategaeth
a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru (PDF 1.2MB) ar 28 Mawrth 2023.
Ymateb Llywodraeth Cymru:
Ar 17 Mai cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 297KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth
Cymru.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn:
Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mercher 7 Mehefin 2023.
Cefndir yr
ymchwiliad
Ystyriodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith strategaeth
gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru.
Yn benodol, roedd
y Pwyllgor yn awyddus i glywed eich barn ar gynnydd yn erbyn y naw cam
gweithredu a gynhwysyd yn y cynllun
gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021.
Casglu
tystiolaeth
Lansiodd y
Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 18 Tachwedd 2022. Mae’r holl
ymatebion wedi’u cyhoeddi ar dudalen
yr ymgynghoriad.
Cynhaliodd y Pwyllgor
sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd
Iau 12 Ionawr 2023. Ceir mwy o wybodaeth am y sesiynau tystiolaeth o dan y
tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2022
Ymgynghoriadau
- Gwefru cerbydau trydan (Wedi ei gyflawni)