NDM8279 Dadl Plaid Cymru - Datganoli adnoddau dwr yn llawn
NDM8279 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) y dylai Cymru gael
rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio
trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'w ffiniau;
b) y byddai datganoli
pwerau dros ddŵr ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r
afael â'r broblem o ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd
mwy effeithlon; ac
c) bod preifateiddio
dŵr yn fodel aflwyddiannus sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad
trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gofyn yn ffurfiol
am gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n
alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin
ddaearyddol Cymru;
b) gofyn yn ffurfiol
am ragor o bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac
c) cyflwyno
deddfwriaeth o fewn tymor presennol y Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli
dŵr gwastraff cwmnïau dŵr yng Nghymru ar sail statudol.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod
cyfrifoldeb dros reoli llygredd wedi'i ddatganoli i Gymru.
2. Yn gresynu at y
ffaith bod 25 y cant o'r oriau a gofnodwyd o ollyngiadau carthion yng Nghymru a
Lloegr yn 2022 wedi mynd i ddyfrffyrdd Cymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) diweddaru'r cynllun
gweithredu i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion i afonydd, llynnoedd a
moroedd Cymru;
b) cyhoeddi adroddiad
tasglu Llywodraeth Cymru ar orlifiadau stormydd; ac
c) gweithredu targedau
statudol i gwmnïau dŵr wella gorlifiadau stormydd.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu is-bwyntiau
newydd ar ddiwedd bwynt 2:
defnyddio ei phwerau
i’w gwneud yn ofynnol bod pob buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr
sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau
ac amgylchedd naturiol Cymru.
gweithio gyda
phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau dŵr Cymru trwy fynd i’r afael â
phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o ddŵr gwastraff, dŵr ffo
trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig, newidiadau ffisegol, hen
lofeydd a rhywogaethau goresgynnol.
neilltuo cyllid
ychwanegol i’r Byrddau Rheoli Maethynnau i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau
dŵr.
neilltuo cyllid
ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith
sy’n diogelu adnoddau dŵr.
cynyddu’r defnydd o
ddata gwyddoniaeth y dinesydd er mwyn i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar
adnoddau dŵr.
datblygu
dulliau ar lefel dalgylch gyfan ar gyfer cydsynio a gwelliannau strategol wrth
reoli adnoddau dŵr cenedlaethol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023