Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 9(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 23/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.26 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 4, 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.13 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro
gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.25 Gwnaeth Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) ddatganiad i nodi 80 mlynedd o Gôr Merched Treforys. Gwnaeth Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) ddatganiad am Ddiwrnod y Lluoedd Wrth Gefn. Gwnaeth Mabon ap Gwynfor
(Dwyfor Meirionydd) ddatganiad i goffáu David R Edwards a’i gyfraniadau i
gerddoriaeth Gymraeg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am 15.30 NDM7727 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog
33.6 a 33.8: Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog
11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher, 23 Mehefin 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynigion o dan Reolau Sefydlog 16.1 ac 16.3 i gytuno teitlau a chylchoedd gwaith Pwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.31 NDM7729 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3,
yn cytuno y caiff y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro, a sefydlwyd ar 26 Mai
2021, ei ailenwi y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Ei gylch
gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 21, a Rheol Sefydlog 26C, ac i ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud
â deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n
gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth,
datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol cyfansoddiadol Cymru),
cyfiawnder, a materion allanol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)
newidiadau i’r setliad datganoli, a chysylltiadau rhynglywodraethol. NDM7731 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a
nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog
19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu
ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o
Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn
uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae
cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio
Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013; O dan Reol
Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried
unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru, a chynnydd y pwerau
hynny. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd. NDM7732 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i
gyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3, i ystyried
unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
y defnydd o adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall y
pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pheirianwaith
llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan
Wasanaeth Sifil Llywodraeth Gymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. NDM7733 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth
a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth
a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal
cymdeithasol. NDM7734 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth
a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth
a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig
iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl
Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol. NDM7735 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran
gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod
yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd, adfywio, sgiliau, masnach, ymchwil
a datblygu (gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth), a materion gwledig. NDM7736 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i archwilio deddfwriaeth a
dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant,
gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn
gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol , cymunedau, a thai. NDM7737 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth
a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant,
gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn
gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant
cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith. Yn ogystal, gall y pwyllgor ymchwilio i
unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl,
yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb
a hawliau dynol; a gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. NDM7738 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran
gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod
yn gyfyngedig iddynt): polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni;
cynllunio; trafnidiaeth, a chysylltedd. NDM7739 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i
gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg,
diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y
cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol. Gall y Pwyllgor ymchwilio i
unrhyw faes polisi o safbwynt y Gymraeg. NDM7740 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor
cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22. NDM7741 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol
a nodir yn Rheol Sefydlog 23. Derbyniwyd y cynigion yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau pleidiau Dechreuodd yr eitem am 15.31 NDM7728 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu
hethol ohonynt fydd fel a ganlyn: 1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg -
Llafur; 2. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol –
Ceidwadwyr Cymreig; 3. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig - Ceidwadwyr Cymreig; 4. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith - Plaid Cymru; 5. Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol - Llafur; 6. Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfarthrebu, y Gymraeg,
Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru; 7. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur; 8. Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru; 9. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig; 10. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad - Llafur; 11. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur; 12. Y Pwyllgor Deisebau - Llafur. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i benodi Comisiwn y Senedd Dechreuodd yr eitem am 15.31 NDM7730 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Ken Skates
(Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), Rhun ap Iorwerth
(Plaid Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), yn aelodau o Gomisiwn y Senedd. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws NDM7704 Huw Irranca-Davies
(Ogwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod cytundeb
gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau
i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 2. Yn nodi bod y
cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan
ddiwallu anghenion teithwyr yn well. 3. Yn nodi bod y
cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu defnydd ar ôl COVID-19, gan annog
niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer
ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu. 4. Yn nodi ymhellach y
cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n
cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys: a) ymestyn cyrhaeddiad
gwasanaethau bysiau; b) datblygu
deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau
bysiau lleol; c) darparu
gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau
lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a d) sicrhau bod
gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i
bawb. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r
ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol
ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i
ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny. Cytundeb
Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021 Llwybr
Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 Cyd-gyflwynwyr John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Natasha Asghar (Dwyrain De
Cymru) Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Altaf Hussain (Gorllewin De
Cymru) Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 NDM7704 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod cytundeb
gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau
i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 2. Yn nodi bod y
cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan
ddiwallu anghenion teithwyr yn well. 3. Yn nodi bod y
cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu defnydd ar ôl COVID-19, gan annog
niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer
ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu. 4. Yn nodi ymhellach y
cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n
cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys: a) ymestyn cyrhaeddiad
gwasanaethau bysiau; b) datblygu
deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau
bysiau lleol; c) darparu
gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau
lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a d) sicrhau bod
gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i
bawb. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r
ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol
ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i
ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny. Cytundeb Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021 Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 Cyd-gyflwynwyr John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Altaf
Hussain (Gorllewin De Cymru) Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros
dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd NDM7716 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 23
Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd. 2. Yn credu y dylid
parchu canlyniadau refferenda bob amser. 3. Yn cydnabod bod
nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad
i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar
y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bygythiadau
parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa
ffyniant gyffredin; 2. Yn credu y dylai
pleidleiswyr bob amser gael cynigion clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol; 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru
2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol
cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod
canlyniad refferendwm yr UE. 2. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith
y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU. 3. Yn condemnio
methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled
yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. 4. Yn condemnio
ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y
DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin. 5. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein
dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol. Ddeddf
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7716 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2021
yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb
Ewropeaidd. 2. Yn credu y dylid parchu
canlyniadau refferenda bob amser. 3. Yn cydnabod bod nifer fawr o
gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad i'r Deyrnas
Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael
â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bygythiadau parhaus Llywodraeth y DU i
ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas
Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa ffyniant gyffredin; 2. Yn credu y dylai pleidleiswyr bob amser gael cynigion
clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a
amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw
refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol
Cymru yn nwylo Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn
cydnabod canlyniad refferendwm yr UE. 2. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau
effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU. 3. Yn
condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar
ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. 4. Yn
condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad
Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin. 5. Yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn
ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig sydd wedi’i
diwygio’n sylweddol. Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7716 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE. 2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd
adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar
fusnesau a dinasyddion ledled y DU. 3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei
haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael
â’r Undeb Ewropeaidd. 4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar
ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r
gronfa ffyniant gyffredin. 5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â
phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig
sydd wedi’i diwygio’n sylweddol. Ddeddf
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020
(Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7710 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Bargen
deg i weithwyr. Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7717 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Dileu'r
clafr yng Nghymru: yr angen parhaus i gael cynllun cryf ar waith i ddileu'r
clafr yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.05 NDM7717 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Dileu'r clafr yng
Nghymru: yr angen parhaus i gael cynllun cryf ar waith i ddileu'r clafr yng
Nghymru. |