Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 7(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.30

Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 4 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.24

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 2 ei drosglwyddo ar gyfer ateb ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.03

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 14.40 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.49

Gwnaeth Vikki Howells (Cwm Cynon) ddatganiad am - 100 mlynedd o gân – Côr Cwmbach yn dathlu ei ganmlwyddiant.

Gwnaeth Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) ddatganiad am – Wythnos Ffoaduriaid.

Gwnaeth Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) ddatganiad am – Nodi blwyddyn ers marwolaeth Mohammad Asghar AS.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwaraeon

NDM7712 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y twf a'r diddordeb mewn timau chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar gyflawniadau chwaraeon diweddar Cymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan gydnabod manteision sylweddol digwyddiadau o'r fath i economi Cymru ac adfywio cymunedau lleol.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth mewn chwaraeon, a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon i wella lles meddyliol a chorfforol pobl drwy:

a) sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd;

b) creu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i helpu clybiau cymunedol i ailadeiladu yn dilyn pandemig COVID-19;

c) gwella mynediad i gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys sefydlu rhwydwaith mwy o gaeau synthetig 3G a 4G ledled Cymru;

d) cyflwyno rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill;

e) galluogi pobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad am ddim i gampfeydd awdurdodau lleol a chanolfannau hamdden.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;

b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad;

c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau artiffisial 3G.

2.  Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a chwaraeon i Gymru.

3.  Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau Ewropeaidd.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ym mhwynt 3(d), ar ôl 'eraill' ychwanegu 'yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol;'  

Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwyntiau newydd: 

'sicrhau bod sefydliadau addysg ôl-16 yn darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden tra'n annog mynychwyr i gymryd rhan;

annog darlledwyr cyhoeddus i neilltuo canran uwch o amser darlledu i chwaraeon menywod;

gweithio gyda chlybiau a sefydliadau i leihau ymddygiad homoffobig a rhywiaethol a bod yn drawsgynhwysol;

ymchwilio i'r potensial i gael pwll nofio maint Olympaidd i wasanaethu gogledd Cymru.'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7712 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y twf a'r diddordeb mewn timau chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar gyflawniadau chwaraeon diweddar Cymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan gydnabod manteision sylweddol digwyddiadau o'r fath i economi Cymru ac adfywio cymunedau lleol.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth mewn chwaraeon, a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon i wella lles meddyliol a chorfforol pobl drwy:

a) sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd;

b) creu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i helpu clybiau cymunedol i ailadeiladu yn dilyn pandemig COVID-19;

c) gwella mynediad i gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys sefydlu rhwydwaith mwy o gaeau synthetig 3G a 4G ledled Cymru;

d) cyflwyno rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill;

e) galluogi pobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad am ddim i gampfeydd awdurdodau lleol a chanolfannau hamdden.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

40

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;

b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad;

c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau artiffisial 3G.

2.  Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a chwaraeon i Gymru.

3.  Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

15

12

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7712 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;

b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad;

c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau artiffisial 3G.

2.  Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a chwaraeon i Gymru.

3.  Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau Ewropeaidd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

14

0

56

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.48 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y LLywydd.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Polisi tai

NDM7711 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ar ôl 'tai' mewnosoder:

'gan gynnwys cymryd camau i:

a) sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;

b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru;

c) cael gwared ar y dreth trafodiadau tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf;

d) gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae landlordiaid cofrestredig cyfrifol yn ei wneud i ddarparu llety addas i denantiaid; ac

e) cyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau.'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

NDM7711 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.55 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl dechnegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 17.00

9.

Dadl Fer – Gohiriwyd tan ddydd Mercher 23 Mehefin 2021

NDM7710 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bargen deg i weithwyr.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: