NDM7712 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwaraeon

NDM7712 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwaraeon

NDM7712 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y twf a'r diddordeb mewn timau chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar gyflawniadau chwaraeon diweddar Cymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan gydnabod manteision sylweddol digwyddiadau o'r fath i economi Cymru ac adfywio cymunedau lleol.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth mewn chwaraeon, a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon i wella lles meddyliol a chorfforol pobl drwy:

a) sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru yn maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd;

b) creu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i helpu clybiau cymunedol i ailadeiladu yn dilyn pandemig COVID-19;

c) gwella mynediad i gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys sefydlu rhwydwaith mwy o gaeau synthetig 3G a 4G ledled Cymru;

d) cyflwyno rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill;

e) galluogi pobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad am ddim i gampfeydd awdurdodau lleol a chanolfannau hamdden.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2021