Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/11/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Penodwyd Huw Irranca-Davies yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn ar 11 Tachwedd 2019.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees. Dirprwyodd Joyce Watson ar ei ran.

 

 

(13.30-14.30)

2.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Des Clifford, Llywodraeth Cymru

Emma Edworthy, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan yr Aelodau.

 

 

(14.30-14.35)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur 1 i'w nodi: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynglŷn â chais i aildrefnu sesiwn graffu - 8 Tachwedd 2019.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1  Cytunodd yr Aelodau i gais y Prif Weinidog i symud ei ymddangosiad gerbron y Pwyllgor i’r flwyddyn newydd.

3.1.2  Cafodd y papur ei nodi.

 

 

3.2

Papur 2 i'w nodi: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynglŷn â’r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r strategaeth ryngwladol - 12 Tachwedd 2019.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

 

(14.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(14.35-14.50)

5.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

5.1     Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 

(14.50-15.05)

6.

Gwaith craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd yr Aelodau’r Cytundeb ar Wasanaethau Awyr rhwng y DU a Montenegro ac fe’i nodwyd ganddynt.

6.2     Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gael rhagor o wybodaeth am ran Llywodraeth Cymru yn y broses drafod.